Goruchwylio clirio setiau sydd wedi’u gwisgo er mwyn cwrdd ag amserlenni cynhyrchu

URN: SKSPRP11
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a chadarnhau trefniadau clirio set threfnu bod eraill yn datgymalu a phacio addurniadau a chelfi set a'u dychwelyd at y storfeydd, cyflenwyr neu logwyr.

Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*

*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi amserlenni ffilmio a chynlluniau cynhyrchu er mwyn adnabod amser a lleoliad clirio setiau a'r adnoddau sydd eu hangen
  2. cysylltu gydag adrannau eraill ynghylch amseriad clirio setiau ac addasu cynlluniau yn ôl y gofyn
  3. derbyn hysbysiad neu ganiatâd clirio set sy'n berthnasol i bob tasg cyn dechrau clirio
  4. adnabod, neilltuo a threfnu'r dasg o glirio set er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynnal yn ddiogel ac yn effeithlon
  5. cyfathrebu'r gofynion clirio set gyda'r tîm sy'n clirio'r set
  6. cael deunyddiau pacio a threfnu cludiant er mwyn cwrdd ag amserlenni clirio setiau
  7. trefnu bod addurniadau set yn cael eu datgymalu
  8. trefnu bod addurniadau set yn cael eu labelu a'u dychwelyd neu eu storio
  9. sicrhau bod celfi yn cyd-fynd gyda'r rhestrau eiddo
  10. asesu a oes modd amnewid neu atgyweirio eitemau sydd wedi'u difrodi ar gyfer cynyrchiadau, diweddaru cofnodion, a rhoi gwybod am bob eitem sydd wedi'i difrodi i'r staff perthnasol
  11. gwirio bod eitemau yn cael eu trin a'u pacio er mwyn hwyluso cludiant diogel ymlaen
  12. rhoi eitemau nad oes eu hangen mwyach ar wahân i'r rhai sydd dal eu hangen yn y cynhyrchiad
  13. sicrhau bod eitemau nad oes eu hangen mwyach yn cael eu dychwelyd, storio yn briodol, ailgylchu neu eu gwaredu yn ddiogel
  14. gwirio a chadarnhau bod yr holl eitemau yn cael eu pacio i gwrdd ag amserlenni cysondeb golygfeydd cynyrchiadau ac mewn trefn resymegol
  15. adrodd am a chofnodi eitemau sydd wedi'u difrodi neu ar goll i'r staff, adrannau neu sefydliadau perthnasol 
  16. gwirio bod pob eitem yn cael ei storio yn ddiogel a glân er mwyn cynnal eu cyflwr a diogelwch at ddefnydd yn y dyfodol
  17. sicrhau bod eitemau mawr neu swmpus yn cael eu trin yn unol â'r ddeddfwriaeth, rheoliadau neu brotocolau iechyd a diogelwch perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddadansoddi amserlenni ffilmio a chynlluniau ffilmio
  2. yr amserlenni a'r terfynau amser gofynnol ar gyfer clirio setiau a sut i addasu cynlluniau pan fydd angen
  3. tasgau clirio set arferol a sut i'w hadnabod a'u dosbarthu
  4. pwysigrwydd cyfathrebu anghenion clirio set gyda'r tîm sy'n clirio'r set
  5. mathau o addurniadau a chelfi set, eu nodweddion a'u defnydd
  6. sut caiff addurniadau a chelfi set eu datgymalu, pacio a'u cludo fel arfer
  7. gweithdrefnau ar gyfer gwirio a chadarnhau cyflwr ac adnabod celfi ac addurniadau set
  8. gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag eitemau sydd ar goll neu wedi'u difrodi  
  9. sut i adnabod pa eitemau fydd eu hangen yn y dyfodol
  10. sut i wirio bod yr wybodaeth gan adrannau eraill ynglŷn â chlirio'r set wedi'i derbyn
  11. sut i drin a gafael mewn eitemau yn ddiogel
  12. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
  13. pa gelfi a deunyddiau mae modd eu hailgylchu a'r dulliau ailgylchu priodol
  14. sut i wirio a chadarnhau'r hysbysiad neu gadarnhad clirio set

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP11

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; clirio setiau sydd wedi’u gwisgo; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; amserlenni cynhyrchu;