Cynnal cysondeb celfi ac ail-wisgo setiau yn ystod cynhyrchiad

URN: SKSPRP10
Sectorau Busnes (Suites): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal cysondeb celfi a gwisgo setiau a rhagweld digwyddiadau posibl a gofynion yn ystod y cynhyrchiad. Mae'n gofyn ichi ymgymryd â chlirio setiau ac ail-wisgo setiau.

Gall celfi naill ai fod yn rhai sydd wedi'u llogi, neu sy'n perthyn i'r cwmni cynhyrchu, neu yn gynnyrch lleoli, neu yn rhain i gyd.

Efallai bydd y safon hon yn addas ar gyfer rôl yr Arolygwr Celfi a Chelfi wrth Gefn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi'r holl wybodaeth sydd ar gael i adnabod gofynion cysondeb golygfeydd
  2. creu pecynnau clirio ar gyfer gwaith ffilmio i'r dyfodol er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd
  3. gwirio a chadarnhau bod yr holl gelfi ar gael yn y cyflwr cytunedig yn unol â'r dadansoddiad sgript celfi
  4. cofnodi lleoliad addurniadau ar y set er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd ar gyfer ffilmio i'r dyfodol
  5. tynnu lluniau o gelfi a ble maen nhw ar y set er mwyn cynnal cysondeb golygfeydd ar gyfer gwaith ffilmio pellach
  6. cadw cofnod o'r holl newidiadau gaiff eu gwneud yn ystod golygfeydd ffilmio
  7. diweddaru'r dadansoddiad sgript gyda gofynion cysondeb golygfeydd
  8. rhoi marc yn safleoedd eitemau sydd angen eu hailosod yn fanwl gywir
  9. darparu copïau o gelfi er mwyn cymryd lle'r rhai gwreiddiol pan fydd angen
  10. ailosod addurniadau set yn gywir yn ôl y cofnodion a gofynion ffilmio
  11. sicrhau bod pob celfi llaw at ddibenion cysondeb golygfeydd ar gael ar yr adeg sydd eu hangen ac ar gyfer y golygfeydd penodol
  12. cadw cofnodion cysondeb o gelfi gyda nodweddion sy'n newid yn ystod ffilmio
  13. gwirio a chadarnhau bod celfi sydd â nodweddion sy'n newid yn ystod ffilmio yn cael eu haddasu, cywiro neu amnewid pan fydd angen ar gyfer ail-ffilmio
  14. cysylltu gydag adrannau eraill ynghylch gofynion celfi i'r dyfodol
  15. cofnodi a storio eitemau yn unol â gofynion cynhyrchu

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i greu pecynnau clirio set a rhoi marc ar gelfi a'u lleoliad at ddibenion cysondeb golygfeydd
  2. pwysigrwydd adnabod celfi fydd efallai angen eu hamnewid
  3. pwysigrwydd nodi nodweddion sy'n newid fel eitemau sy'n heneiddio ac aeddfedu, hylifau sy'n anweddu a nwyddau bwytadwy
  4. cadw cofnodion er mwyn cynnal cysondeb
  5. o ble mae cael copïau o gelfi mewn nifer digonol
  6. pwysigrwydd gwirio bod copïau o gelfi yn ddyblygiadau union o'r rhai gwreiddiol yn ôl yr angen
  7. sut i addasu celfi er mwyn cwrdd â gofynion sy'n newid
  8. deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
  9. gofynion cynhyrchu ar gyfer cofnodi a storio celfi

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSPRP10

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

celfi; pecynnau clirio set; ail-wisgo setiau; ffilmio; cynhyrchiad; cysondeb golygfeydd; celfi llaw; gwisgo set;