Cynllunio gweithgareddau’r adran gelfi er mwyn cwrdd ag anghenion cynhyrchu
URN: SKSPRP1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Celfi ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a threfnu gweithgareddau'r Adran Gelfi.
Mae gofynion y rôl yn cynnwys paratoi dadansoddiadau sgript ar gyfer celfi a chysylltu'n agos gydag adrannau eraill. Mae hefyd yn cynnwys recriwtio cydweithwyr medrus eraill ar gyfer yr Adran Gelfi a threfnu cerbydau a chludiant ar gyfer y celfi.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer rôl y Meistr Celfi.*
*Mae hwn yn derm cyffredin ac nid yn benodol i ryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cysylltu gyda'r Adran Gynhyrchu ynghylch eu gofynion ar gyfer gweithwyr yr Adran Gelfi
- trafod amodau a thelerau cytundebau gydag aelodau eraill yr Adran Gelfi
- paratoi dadansoddiad sgript ar gyfer celfi gan gynnwys dadansoddiad fesul set
- adnabod gofynion celfi arbenigol i'w defnyddio yn y cynhyrchiad
- mynychu rhagchwiliadau technegol i gyfrifo gofynion celfi a staff ar gyfer pob diwrnod ffilmio
- gwirio a chadarnhau bod staff yr Adran Gelfi wedi'u hyfforddi'n llawn i ddefnyddio offer, peirianwaith neu gelfi arbenigol
- rhoi gwybod i bob aelod perthnasol o staff a oes angen offer effeithiau arbennig
- trefnu bod Ystafell Gelfi ddiogel yn cael ei gosod gyda digon o le yno fel swyddfa a storfa
- trefnu cludiant ar gyfer celfi
- trefnu yswiriant yn ôl yr angen
- cydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli'r dadansoddiad sgript
gofynion y cynhyrchiad ar gyfer celfi
sut i gysylltu'n brydlon ac effeithiol gydag aelodau adrannau eraill
- sut i adnabod gofynion staff a sgiliau
- y broses recriwtio ar gyfer yr Adran Gelfi
- sut i drafod amodau a thelerau ar gyfer cytundebau
- sut i adnabod celfi sy'n gofyn am elfennau ymarferol fel dŵr tap mewn golygfa mewn ystafell ymolchi neu gegin
- sut i adnabod offer effeithiau arbennig
- pa gelfi fydd efallai angen eu hamnewid ar gyfer ail-ffilmio ac at ddibenion cysondeb golygfeydd
- goblygiadau costau penodol sydd ynghlwm â cholli, neu wneud difrod i, eitemau lleoli cynnyrch
- sut i sicrhau bod cerbydau addas gyda gyrwyr cymwys yn cael eu llogi a'u cyflogi
- sut i sicrhau bod trefniadau yswiriant addas a digonol mewn lle
- deddfwriaeth, rheoliadau a phrotocolau iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPRP1
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Celfyddydau Perfformio, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Pobl Broffesiynol Cyswllt y Cyfryngau
Cod SOC
3147
Geiriau Allweddol
celfi; cynllunio; anghenion cynhyrchu; cynhyrchiad; cysylltu gydag adrannau; paratoi dadansoddiadau sgript; trefnu cerbydau a chludiant;