Cefnogi cleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleusterau ôl-gynhyrchu

URN: SKSPP23
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â darparu cymorth technegol, lletygarwch a gweinyddol i gleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleuster ôl-gynhyrchu. Mae'n gofyn am ddangos blaengaredd oherwydd, mewn amgylchedd lle mae pwysau, mae'n rhaid ateb anghenion pobl yn aml iawn heb fod rhaid iddynt ofyn am hynny. Mae'n gofyn am ymagwedd broffesiynol tuag at gleientiaid a thalentau sy'n ymweld â'r cyfleuster.

Dylai'r Safon hon fod yn bertrhnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â chefnogi cleientiaid a chydweithwyr mewn cyfleusterau ôl-gynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhagweld a nodi beth bydd ei angen ar gleientiaid a chydweithwyr yn ystod sesiynau gwaith gan ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  2. cyfathrebu gyda chleientiaid mewn ffyrdd sy'n gwneud iddynt deimlo'n gyfforddus ac sy'n hyrwyddo'r cyfleuster
  3. ymateb i geisiadau cydweithwyr a chleientiaid cyn gynted ag y gofynnir amdanynt a hynny mewn ffordd gefnogol a chroesawgar
  4. cyfathrebu gyda chydweithwyr, cleientiaid ac ymwelwyr mewn modd proffesiynol yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  5. cynnal parodrwydd, ymddangosiad a diogelwch cyfleusterau ar gyfer cleientiaid a chydweithwyr yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  6. cyflawni tasgau technegol, tasgau'n gysylltiedig â gwybodaeth a thasgau gweinyddol mewn modd prydlon a chywir
  7. gofyn am help gan gydweithwyr perthnasol pan rydych yn sylwi bod yr awyrgylch gwaith yn troi'n anodd ac na allwch ymdrin â hynny
  8. trafod anghenion cleientiaid, eu hoffterau a materion a nodir gennych gyda chydweithwyr perthnasol ar adegau priodol
  9. logio a storio deunyddiau a data yn unol â gweithdrefnau'r cwmni
  10. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
  11. awgrymu i bobl berthnasol welliannau mewn arferion gwaith o ddydd i ddydd a fydd yn gwella'r cymorth a ddarperir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gosodiad y cyfleuster ôl-gynhyrchu a sut y cyfeirir at wahanol leoliadau a chyfleusterau
  2. personél, eu henwau a'r hyn maent yn ei wneud
  3. sut i gyflwyno eich hun i'r cleient
  4. yr ystod o anghenion a allai fod gan gleientiaid gan gynnwys gwybodaeth, arlwyo, darparu deunyddiau a chyfleusterau
  5. paratoi bwyd a diod a hylendid
  6. sut i gael bwydydd o wahanol fathau yn lleol
  7. hoffterau cleientiaid rheolaidd o ran diodydd a bwyd ac anghenion deietegol
  8. sut i ragweld anghenion cleientiaid gan gynnwys profiad blaenorol
  9. gofynion y cwmni ar gyfer ymdrin â data a deunyddiau'n ddiogel
  10. gweithdrefnau gweinyddol ar gyfer derbyn ac anfon deunyddiau
  11. ffyrdd diogel o weithio, gan gynnwys diogelwch trydanol a chodi a chario

  12. cyfathrebu â chydweithwyr technegol ac annhechnegol, cleientiaid ac ymwelwyr

  13. pwysigrwydd gwaith tîm a darparu gwasanaeth cydlynol hyd yn oed pan na fydd eraill cystal
  14. ffactorau iechyd a diogelwch yn perthyn i'r holl offer a'r gweithle
  15. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cleientiaid, Cydweithwyr