Golygu sain

URN: SKSPP20
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â golygu deunydd sain i ateb gofynion cynhyrchu.

Mae'n golygu asesu deunydd i benderfynu pa fath o ddulliau golygu y dylid eu defnyddio, ac ymdrin ag anawsterau wrth lunio'r golygiad gofynnol.  Mae'n ymwneud â dethol pwyntiau golygu priodol, gwneud diwygiadau sy'n dechnegol gywir, asesu golygiadau gorffenedig, a'u cwblhau yn erbyn y dyddiadau cau a roddwyd i chi. Weithiau mae'n bosibl y byddwch yn gweithio i derfynau amser tynn ac o dan bwysau.

Dylai'r Safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â golygu sain.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. canfod y gofynion technegol, creadigol a masnachol ar gyfer golygu sain o ffynonellau dibynadwy
  2. cynnal asesiad cywir o'r deunydd er mwyn penderfynu ar y math o ddull golygu i'w gyflawni
  3. esbonio wrth bobl berthnasol beth yw goblygiadau recordio gyda thechnegau cywasgedd gostyngedig i'r deunydd gwreiddiol
  4. awgrymu datrysiadau addas i'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn atal unrhyw anawsterau wrth gwblhau golygiadau arfaethedig
  5. trefnu traciau a deunyddiau mewn modd priodol i gyflawni eich gwaith
  6. dethol pwyntiau golygu sy'n creu trawsgyweiriadau gofynnol ac yn cynnig y potensial mwyaf i ateb gofynion cleientiaid neu'r cynhyrchiad
  7. dethol pwyntiau golygu sy'n cyflawni'r hyd, y rhythm, y cyflymder, yr wybodaeth a'r cefndir gofynnol; a lluniau ategol pan fydd hynny'n briodol
  8. defnyddio arddull golygu sy'n briodol i'r deunydd
  9. cadw unrhyw gydamseru gofynnol yn y golygiad 
  10. dethol a marcio pwyntiau golygu mewn ffordd gywir a chlir
  11. defnyddio'r math o ddull olygu sy'n briodol i ofynion
  12. gwneud golygiadau sy'n dechnegol gywir, yn lân ac yn effeithiol yn artistig
  13. cadarnhau bod golygiadau'n ateb gofynion cleientiaid neu'r cynhyrchiad
  14. cwblhau'r golygu o fewn terfynau amser a chyllideb gytunedig
  15. marcio unrhyw drimiau a deunydd crai sydd heb eu labelu yn unol â systemau'r cwmni, a'u storio fel y gellir cael hyd iddynt wedyn os oes angen
  16. cadarnhau bod dulliau storio data golygu anehedol yn gyfredol
  17. cadarnhau bod copïau angenrheidiol a gaiff eu harbed wrth gefn yn cael eu cadw, er mwyn cynnal uniondeb sain a data
  18. cadarnhau bod deunydd gwreiddiol yn cael ei ddiogelu
  19. cynhyrchu gwaith papur cywir a darllenadwy a labelu yn y fformat gofynnol
  20. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1.  gofynion ôl-gynhyrchu'r cleient neu'r cynhyrchiad

  2. y deunydd sydd i'w olygu, beth yw'r gofynion golygu, a pha fathau o ddulliau golygu sy'n bosibl

  3. terfynau cyfreithiol a safonau ar gyfer ffeiliau sain i'w dosbarthu a'u darparu yn arbennig mewn perthynas ag uchder sain, sain drochol a metadata a sut i weithio'n greadigol o fewn iddynt

  4. pwysigrwydd gallu clywed deialog yn enwedig mewn perthynas â'r nam posibl ar glyw poblogaeth sy'n heneiddio

  5. strategaethau effeithiol i wella'r gallu i glywed deialog

  6. ble i gael hyd i ddeunyddiau crai

  7. yr amserlen a'r gyllideb ar gyfer y gwaith golygu

  8. y gofynion o ran dogfennaeth a fformat

  9. unrhyw ofynion cydamseru a'u goblygiadau yn y broses gynhyrchu

  10. y goblygiadau ar gyfer golygu lle mae sain yn cefnogi darlun

  11. meini prawf dethol pwyntiau golygu, a sut cânt eu defnyddio i nodi pwyntiau golygu

  12. meini prawf ar gyfer asesu effeithiolrwydd technegol ac artistig golygiadau

  13. graddau anhawster golygu, a sut i'w nodi a'u datrys

  14. y technegau golygu sy'n briodol i gyfryngau penodol

  15. goblygiadau golygu dinistriol ac anninistriol

  16. egwyddorion ADR (deialog ychwanegol wedi'i recordio)

  17. egwyddorion Foley

  18. mathau nodweddiadol o ddiffygion clywadwy mewn technolegau analog a digidol

  19. fformatau a thechnegau cyffredin ar gyfer lleihau data

  20. y goblygiadau ar gyfer defnyddio ac ymdrin â thechnegau cywasgedd data gostyngedig

  21. goblygiadau ar gyfer golygu gan ddefnyddio aml-drac, mono, stereo, neu aml-sianel

  22. ffurf gerddorol a dull enwi sylfaenol gan gynnwys nodyn, curiad, bar a brawddeg

  23. sut i reoli ac arbed sain a data wrth gefn

  24. sut i gydymffurfio â rhestrau golygu data a chyfryngau crai

  25. sut i ddiogelu metadata

  26. sut i adnabod trimiau a deunyddiau crai sydd heb eu labelu, a sut i'w storio'n ddiogel

  27. pwysigrwydd gweithio'n ddiogel gyda sgriniau arddangos, a'r rheoliadau perthnasol

  28. egwyddorion electroneg sylfaenol fel y maent yn berthnasol i sain, gan gynnwys rhwystriant, rhwydweithiau gwanhau, pweru rhithiol a chymarebau signal i sŵn

  29. egwyddorion perthnasol acwsteg a sut maent yn berthnasol

  30. nodweddion perfformiad meicroffonau gan gynnwys: maint, pwysau, uchafswm lefel yr allbwn, patrwm codi, sensitifrwydd a rhagdueddiad i ymdrin â sŵn

  31. nodweddion mwyaduron ac uwch-seinyddion

  32. y gwahanol fathau o offer recordio a chwarae yn ôl

  33. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP20

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Sain, Golygu