Sicrhau cydymffurfiaeth cynnwys gweledol

URN: SKSPP11
Sectorau Busnes (Suites): Ôl-gynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â sicrhau bod gwaith a olygwyd yn cydymffurfio â'r fersiwn o'r ansawdd gorau yn ystod y gwaith ôl-gynhyrchu. Mae'n cynnwys trosi pob math o gyfrwng i gyd-fynd â gosodiadau o ran dilyniant terfynol.

Dylai'r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sy'n gysylltiedig â sicrhau cydymffurfiaeth cynnwys gweledol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gwaith sydd i'w gyflawni o ffynonellau dibynadwy
  2. cytuno gyda phobl berthnasol ar yr amserlen a'r amser i'w dreulio ar sicrhau bod cynnwys gweledol yn cydymffurfio
  3. nodi technegau sydd i'w defnyddio a fydd yn cyflawni orau'r pethau gofynnol y gellir eu cyflawni
  4. sicrhau bod gwaith a olygwyd yn cydymffurfio â'r fersiwn o'r ansawdd gorau o'r cyfryngau gwreiddiol sydd ar gael
  5. sicrhau bod cyfryngau cydraniad uchel yn cyd-fynd â'r golygiad all-lein
  6. sicrhau bod yr holl glipiau'n cyd-fynd â'r gosodiadau o ran dilyniant terfynol ac yn ateb safonau technegol gofynnol
  7. cynnal diogelwch ar gyfer ffeiliau a deunyddiau eraill yn unol â gofynion y cwmni
  8. cwblhau dogfennaeth yn unol â gweithdrefnau'r cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y gwaith sydd i'w gyflawni
  2. gweithrediad meddalwedd ar gyfer sicrhau bod cynnwys gweledol yn cydymffurfio
  3. ble i ddod o hyd i Dablau Am-Edrych (LUTs) a sut i gymhwyso LUTs i ddeunydd crai
  4. yr effaith y gall trosi clipiau i gyd-fynd â gosodiadau o ran dilyniant terfynol ei chael ar allbynnau rhaglenni
  5. sut i gyfathrebu ar faterion technegol gyda phobl eraill sy'n meddu ar lai o ddealltwriaeth dechnegol na chi
  6. amcangyfrif costau ac amser ar gyfer gwaith
  7. pwysigrwydd gweithio i derfyn amser a chyllideb
  8. safonau gwylio presennol a safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol presennol o ran darparu a datganiadau o arfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys
  9. systemau'r cwmni ar gyfer storio, arbed copïau wrth gefn a diogelwch

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSPP11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Ôl-gynhyrchu, Cynhyrchu, Ffilm, Theledu, Cydymffurfio, Gweledol, Cynnwys