Asesu hyfywdra prosiectau ar y cyd â dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau

URN: SKSP9
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chysylltu gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau mor fuan â phosib er mwyn asesu hyfywdra busnes prosiectau.

Mae'n ymwneud â deall y broses dosbarthu a medru cydweithio gyda'r rheiny fydd yn gwerthu prosiectau.

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o waith dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau a'r gwahaniaeth rhwng gwerthu cynnyrch i farchnad ac i gynulleidfa. Y mwyaf fyddwch chi wedi paratoi ar gyfer cynhyrchiad, y mwyaf cymwys fydd y dosbarthwr a'r asiantau gwerthiannau i weithredu ar eich rhan unwaith y bydd y broses ôl gynhyrchu wedi'i chwblhau.

Mae'n ymwneud â deall bod marchnata'r cynhyrchiad yn rhan o'r gwaith cynhyrchu cysyniad ac nid ydyw y tu hwnt i'r camau cynhyrchu ffilmiau. Bydd angen ichi fod yn ymwybodol pryd byddwch yn meddu ar hawliau cymeradwyo a phryd byddwch yn meddu ar hawliau ymgynghori.

Mae'r gwaith hwn yn ymwneud â dosbarthu hyd at gyflwyno'r cynhyrchiad terfynol.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n cydweithio gyda dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau ar gyfer cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cysylltu gyda dosbarthwyr mor fuan â phosib i asesu cynnwys a straeon ar gyfer dichonolrwydd busnes

  2. dangos sut gall gynnwys digolledu ar unrhyw fuddsoddiad dichonol

  3. ymchwilio gwybodaeth a data sydd ar gael ar ystadegau arddangos ar gyfer prosiectau a ffurfiau tebyg

  4. cymeradwyo ymgyrchoedd marchnata, rhagluniau, cipolygon, deunyddiau y tu ôl i'r llenni a phosteri pan fo angen

  5. cynnig asedau i ddosbarthwyr drwy gydol y broses gynhyrchu

  6. cast a chriw ar gytundeb i fynd i'r afael â cheisiadau hyrwyddol dosbarthwyr

  7. mynychu marchnadoedd gydag asiantau gwerthiannau er mwyn hyrwyddo prosiectau i ddosbarthwyr dichonol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod y stori, y cynnwys a'r gynulleidfa ddichonol
  2. sut gall gynnwys greu elw dichonol ar fuddsoddiad
  3. sut i ymchwilio data arddangos er mwyn canfod hyfywdra dichonol prosiectau
  4. sut i ystyried goblygiadau busnes tymor byr  a hirdymor
  5. swyddogaeth marchnata yn ystod camau cynhyrchu gan gynnwys cynhyrchu cysyniadau
  6. sut i ofalu caiff yr holl gyflawniadau cytundebol eu bodloni
  7. sut i ofalu eich bod yn hyrwyddo cynyrchiadau yn y ffordd orau posib
  8. gwaith dosbarthwyr ac asiantau gwerthiannau  
  9. y gwahaniaethau rhwng gwerthu cynnyrch i farchnad ac i gynulleidfa
  10. sut i gydweithio gyda dosbarthwyr er mwyn cymeradwyo ymgyrchoedd marchnata
  11. pryd byddwch chi'n meddu ar hawliau cymeradwyo a phryd byddwch yn meddu ar hawliau ymgynghori.
  12. diben cyhoeddusrwydd a beth gall ei gyflawni a beth na all ei gyflawni
  13. diben rhagluniau a sut dylid eu strwythuro er mwyn cael yr effaith gorau posib
  14. sut i greu asedau gan gynnwys pecynnau gwasg electronig (EPK) a phecynnau y tu ôl i'r llenni at ddefnydd cwmnïau dosbarthu
  15. sut i gytundebu'r cast a'r criw i fynd i'r afael gyda cheisiadau hyrwyddol dosbarthwyr
  16. gwaith asiantau gwerthiannau a sut i adnabod pa farchnadoedd fydd orau i staff cynyrchiadau eu mynychu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP9

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Dosbarthwyr, Asiantau