Adnabod a thrin a thrafod materion hawlfraint

URN: SKSP6
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gofalu caiff materion hawlfraint yn ymwneud â'r holl ddeunyddiau perthnasol eu hadnabod a'u cytuno cyn mynd ati i gynhyrchu.

Mae'n ymwneud â gofalu bod systemau mewn grym fel caiff materion hawlfraint yn ymwneud ag archifau, eiddo deallusol a cherddoriaeth eu monitro drwy gydol y broses cynhyrchu.

Mae'r Safon hon yn arbennig i'r rheiny sydd ynghlwm ag adnabod a thrin a thrafod materion hawlfraint gan gynnwys Rheolwyr Cynhyrchu a thimau cyfreithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn adnabod y ffynonellau deunyddiau gwreiddiol mewn cynyrchiadau a all fod yn amodol ar hawlfraint
  2. asesu'r defnydd o ddeunyddiau yn erbyn rheoliadau hawlfraint cyfredol
  3. cael gwybodaeth a chyngor gan ffynonellau arbenigol pan fo deunyddiau yn amodol ar reoliadau hawlfraint cymhleth neu anarferol
  4. cytuno ar delerau, amodau a graddau defnydd o ddeunyddiau hawlfraint gyda pherchnogion hawlfraint neu ddeiliaid trwyddedau
  5. cadarnhau bod telerau, defnydd a chost deunydd hawlfraint yn bodloni gofynion cynhyrchu, oddi fewn y gyllideb ac yn gyson â chyfraddau safonol y diwydiant
  6. gwirio bod caniatâd hawlfraint wedi'u derbyn gan y bobl briodol,
  7. gofalu bod caniatâd wedi'u derbyn o fewn y graddfeydd amser ynghlwm â'r gwaith cynhyrchu a bod y taliadau oddi fewn y gyllideb
  8. cadarnhau bod cofnodion cywir o ganiatâd hawlfraint wedi'u cadw yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
  9. awgrymu deunyddiau amgen cliriadwy a rhatach pan nad ydy hi'n bosib ichi dderbyn caniatâd hawlfraint ar gyfer deunyddiau gwreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod deunyddiau gyda hawlfraint, ynghyd â ffynhonnell a pherchennog y deunyddiau
  2. sut i fanteisio ar ffynonellau cyngor arbenigol ynghylch hawlfraint
  3. y gwahanol fathau o hawlfraint a'r math o ddeunyddiau maen nhw'n berthnasol iddyn nhw
  4. ​yr hawliau, y tiriogaethau a'r caniatâd sy'n ofynnol gan y darlledwyr a'r holl bartion
  5. pa faterion dylid ymdrin â nhw mewn trafodaethau gyda pherchnogion hawlfraint a deiliaid trwyddedau ynglŷn â’r amodau ynghlwm â defnyddio deunyddiau hawlfraint
  6. sut gall y defnydd o ddeunydd o ac mewn gwledydd eraill effeithio ar reoliadau hawlfraint 
  7. cyfraddau derbyniol ar gyfer ffioedd hawlfraint
  8. Cadwyn Teitl, lle'n briodol ar gyfer ffilmiau nodwedd

  9. cyfreithiau hawlfraint ac eiddo deallusol fel sy'n berthnasol i gynyrchiadau Ffilm a Theledu

  10. prosesau cyfundrefnol ar gyfer cadw caniatâd hawlfraint
  11. ble i fanteisio ar ffynonellau amgen o ddeunyddiau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP6

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Hawlfraint, Caniatâd, Cyfreithiol