Paratoi rhagamcaniadau ariannol o ran adnoddau ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu

URN: SKSP39
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r gweithdrefnau ynghlwm â pharatoi'r gofynion cychwynnol o ran adnoddau ariannol ar gyfer cynhyrchiad yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu.

Bydd angen ichi lunio cynllun ariannol arfaethedig realistig gan ddwyn i ystyriaeth anghenion a dymuniadau'r tîm creadigol.

Bydd angen ichi wybod sut i gyllidebu cynhyrchiad, a bod yn ymwybodol mae'n bosib caiff cyllidebau gwreiddiol eu cwtogi.

Bydd angen i'r Cynllun Ariannol adlewyrchu pwy sy'n gyfrifol am ba feysydd y llif-arian a pha feysydd sydd i'w bodloni gan ffynonellau buddsoddi penodol. Fe all yr adnoddau ariannol fod ar gyfer cyllid datblygu a/neu gyllid ar gyfer rhan o'r cynhyrchiad neu'r cynhyrchiad cyfan yn dibynnu ar yr amgylchiadau a'r cyfyngiadau.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag ariannu cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfrifo'r costau ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn bodloni'r syniadau arfaethedig wedi'u gosod gan y timau creadigol
  2. gwerthuso'r holl dystiolaeth sydd ar gael er mwyn gofalu bod y costau arfaethedig yn gywir
  3. gwneud penderfyniadau priodol ar sail gwybodaeth ariannol a gofynion y cynhyrchiad
  4. ymgynghori gydag arbenigwyr er mwyn gwirio manylion cynyrchiadau pan fo'n ofynnol
  5. rhagnodi meini prawf a gweithdrefnau o ran argyfyngau sy'n bodloni gofynion y cynhyrchiad
  6. gwirio caiff yr holl ddogfennau angenrheidiol yn ymwneud â chynyrchiadau wedi'u cynllunio eu cyflwyno yn unol â'r gofynion cyfundrefnol 
  7. adnabod agweddau'r gyllideb y mae modd eu trin a thrafod neu eu hildio er mwyn sicrhau cyllid
  8. gwirio bod unrhyw gynigion cyllid yn bodloni'r amcanion a thargedau wedi'u cynllunio a'u bod yn unol â'r tariffau darlledu penodol check that any funding proposals meet planned

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i lunio cyllideb gychwynnol gan ddefnyddio adnoddau a chyfrifiadau cywir o'r costau
  2. y prif ffynonellau ac ystodau o fuddsoddiad sydd ar gael yn y sector priodol  
  3. egwyliau treth a chymhellion sydd ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
  4. y gwahanol dariffau mae darlledwyr yn eu gosod ar gynyrchiadau
  5. sut i amcan graddfeydd amser, galwadau technegol a'u goblygiadau ar amserlen y a chyllideb y cynhyrchiad er mwyn paratoi cynnig llawn
  6. y lleiafswm o gyllid gofynnol gan ystyried amcangyfrifon y costau, gofynion adnoddau ac amserlenni amser
  7. sut i amcangyfrif ystod o holl gostau cynhyrchu a chyfreithiol  
  8. pwysigrwydd meddu ar a medru manteisio ar gynllunio tuag at argyfyngau o ran cyllid
  9. sut i gyllidebu, lle'n briodol, ar gyfer cynnwys aml-lwyfan

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP39

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cyllid, Rhagamcanion