Goruchwylio golygu cynyrchiadau Teledu

URN: SKSP35
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â goruchwylio golygu rhaglen deledu. Gall hyn fod ar gyfer cyfres gyflawn, rhaglen unigol neu fewnosodiadau i'w ymgorffori.

Mae'n ymwneud â chydweithio gyda'r golygyddion ar-lein ac all-lein a'r cymysgydd tros-seinio gan ofalu eich bod wedi derbyn yr holl ganiatâd priodol.

Mae hefyd yn ymwneud â chydweithio gydag uwch weithwyr er mwyn gofalu eich bod yn cyflawni'r weledigaeth ddymunol ar gyfer y cynnyrch terfynol. Bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth anghenion technegol y tîm ôl gynhyrchu ynghyd â gofynion creadigol y cynhyrchiad.

Mae'n bosib na fyddwch yn meddu ar yr amser neu adnoddau i baratoi golygiad ar bapur. Felly bydd angen ichi baratoi dogfennau eraill ichi gyfeirio atyn nhw yn ystod y broses hon.

Bydd hefyd angen ichi fod yn ymwybodol o'r gwahanol ganiatâd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth rhaglenni a cherddoriaeth sydd â'r un pennawd â'r cynhyrchiad.

Bydd angen ichi wirio'r hyd ac amseriadau os ydych chi'n ymwneud â mewnosodiadau a chydweithio'n agos gyda Chynhyrchydd y Gyfres a'r golygydd.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Rheolwyr Cynyrchiadau a Chynhyrchwyr Llinell.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod cynnwys brysluniau a chynigion perthnasol
  2. dewis a chofnodi cyfweliadau a digwyddiadau ar y pryd sy'n bodlooni'r gofynion
  3. llunio dogfennau perthnasol i gyfeirio atyn nhw drwy gydol y broses golygu
  4. cydweithio gydag aelodau'r tîm ôl gynhyrchu i fodloni gofynion o ran ôl gynhyrchu
  5. cyfnewid gwybodaeth gydag aelodau'r tîm ôl gynhyrchu ar adegau priodol
  6. cyfathrebu gyda'r sianel neu'r comisiynydd drwy gydol y broses olygu
  7. gofalu bod y cynnig troslais dewisol yn cyd-fynd â'r llun o ran yr hyd a'r graddliw, heb wyro oddi wrth y sgript y cytunwyd arni. 
  8. gofalu bod y sgriptiau sylwebaeth o'r hyd gofynnol ac â'r cynnwys gofynnol 
  9. cynnig gwybodaeth fanwl gywir i ddylunwyr graffeg ynghylch gofynion ar gyfer teitlau credydau a phenawdau agoriadol a chymeradwyo'r gwaith wedi'i gwblhau 
  10. ysgrifennu deunydd cyhoeddusrwydd realistig a phriodol
  11. gwirio'r cynnwys er mwyn gofalu ei fod yn cydymffurfio gyda'r costau cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol ac yn bodloni gofynion y darlledwr

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i strwythuro'r eitem mewn ffordd sy'n adrodd y stori orau
  2. yr angen am baratoadau a dogfennau perthnasol ynghyd â'r goblygiadau ariannol ynghlwm â llunio golygiad all-lein heb y rhain
  3. egwyddorion o sut ddylai'r sgript gyflenwi'r lluniau
  4. sut ddylai graddliw ac arddull y rhaglen fod yn briodol ar gyfer ffurf ac amser darlledu'r rhaglen
  5. pryd i gyfathrebu gyda'r sianel neu gomisiynydd yn ystod y broses olygu
  6. defnydd a phwysigrwydd cerddoriaeth yn y trac sain a'r goblygiadau logisteg ac ariannol o ddefnyddio gwahanol ffynonellau cerddoriaeth
  7. bod yn ymwybodol o'r gwahanol ganiatâd ar gyfer defnyddio cerddoriaeth rhaglen a cherddoriaeth teitl ac a oes angen caniatâd arbennig ar gyfer cerddoriaeth teitlau
  8. sut i oruchwylio sesiwn recordio troslais
  9. sut i ysgrifennu sgriptiau sylwebaeth gennych chi a gyda chyflwynydd
  10. pa ddeunydd ffynhonell fydd o bosib ei angen gan yr arlunydd graffeg
  11. sut i gydnabod cyfleoedd ar gyfer lluniau cyhoeddusrwydd llonydd, copïau a phresenoldeb ar-lein
  12. pa wybodaeth i'w cynnwys mewn deunydd cyhoeddusrwydd gan gynnwys hysbyslenni
  13. y materion cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar ddeunydd darlledu a sut i fanteisio ar gyngor am ddeunydd gall fod yn sensitif
  14. sut i gydweithio gydag eraill
  15. sut i gynnig cyfarwyddiadau eglur gan fod yn barod i dderbyn awgrymiadau pobl eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP35

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Ôl gynhyrchu, Golygu