Cynorthwyo gyda’r broses ôl gynhyrchu

URN: SKSP34
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyfathrebu gyda'r amryw adrannau sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu a gofalu caiff eu gofynion eu bodloni erbyn y dyddiadau cau y cytunwyd arnyn nhw.

Mae'n ymwneud â chadw cysylltiad agos gyda phawb sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu, gan gyfeirio'n uwch at y goruchwyliwr ôl gynhyrchu neu'r cynhyrchydd, fel sy'n briodol.

Mae dealltwriaeth sylfaenol o'r broses ôl gynhyrchu a therminoleg dechnegol yn hanfodol. Mae hyn yn golygu gwybodaeth am Effeithiau Gweledol (VFX), llif gwaith di-dâp, a derbyn a phrosesu metadata. Yn aml iawn byddwch yn gweithredu fel y pwynt cyswllt rhwng y cynhyrchydd a'r tîm ôl gynhyrchu, gan reoli amserlenni sy'n newid yn  barhaus ac ail-ysgrifennu archebion mewn pensel o ganlyniad.

Hefyd mae'n bosib y bydd angen ichi fod yn ymwybodol o orfodaethau cyflwyno cytundebol y cynhyrchiad a chydweithio gyda'r tîm ôl gynhyrchu er mwyn gofalu caiff y gorfodaethau eu bodloni. Mae hyn yn golygu cyflwyno perfformiad a chyflwyno ar bapur.

Mae'r Safon hon ar gyfer Cydlynwyr Cynhyrchu a Golygyddion Iau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gofalu eich bod bob amser yn ymwybodol o'r amserlenni ôl gynhyrchu
  2. cysylltu gyda'r bobl berthnasol i ganfod eu gofynion er mwyn gofalu bod y broses ôl gynhyrchu'n rhwydd a di-drafferth
  3. egluro'r union ofynion pan fo nhw'n amwys neu pan fo diffyg manylion
  4. cynnal gweithgareddau a thasgau rydych yn gyfrifol amdanyn nhw yn unol â'r cyfarwyddiadau
  5. gofalu caiff yr holl ddeunyddiau a gwaith papur cysylltiedig angenrheidiol eu cyflwyno i'r timau ôl gynhyrchu pan fo'n briodol
  6. cadarnhau eich bod chi wedi derbyn yr holl ganiatâd gofynnol er mwyn bodloni gofynion
  7. cyfeirio unrhyw drafferthion neu broblemau gyda gwaith ôl gynhyrchu i'r bobl briodol
  8. cyfathrebu'n rheolaidd gyda'r holl adrannau sydd ynghlwm â'r broses ôl gynhyrchu   
  9. gwirio ydy'r cyfarpar, cyfleusterau a pherfformwyr angenrheidiol ar gael yn ogystal â gwirio'u costau
  10. trefnu archebion a phrynu eitemau ac ati gan ofalu eich bod yn cadw at y gyllideb
  11. monitro cyflenwadau gan ddwyn i ystyriaeth yr archebion a phryniannau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion yr amserlen ôl gynhyrchu
  2. eich lefel eich hun o gyfrifoldebau o ran y broses ôl gynhyrchu
  3. pryd i gyfeirio materion at aelodau uwch o staff a phwy ddylech chi gyfeirio'r materion atyn nhw
  4. pryd a sut i flaenoriaethu tasgau
  5. pryd a sut i gyd-drefnu caniatâd priodol
  6. dulliau o gyfathrebu gyda phobl briodol
  7. sut i reoli dyddiaduron ar gyfer cynhyrchwyr, y tîm ôl gynhyrchu, cyfleusterau a pherfformwyr
  8. sut i ddod o hyd i dywyswyr, darparwyr cyfarpar a chyfleusterau a pherfformwyr
  9. sut i wirio argaeledd a chost
  10. sut i archebu a phrynu'n defnyddio archebion a ffurflenni archebu priodol yn unol â'r cyfarwyddiadau
  11. sut i fonitro cyflenwadau
  12. sut i gyd-drefnu'r teithio a lletyau i berfformwyr pan fo'i angen
  13. sut i gyd-drefnu symud deunyddiau ffilm
  14. sut i wneud archebion theatr a rhagolygon
  15. y broses ôl gynhyrchu a'r derminoleg dechnegol ar gyfer lluniau a sain yn y broses ôl gynhyrchu
  16. Effeithiau Gweledol (VFX), llifoedd gwaith cynhyrchu, amlyncu a phrosesu metadata
  17. sut i drefnu sesiynau ôl gydamseru pan fo'n briodol
  18. y broses ar gyfer gofalu fod y credydau a diolchiadau yn gywir

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP34

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Ôl gynhyrchu