Goruchwylio’r broses ôl gynhyrchu

URN: SKSP33
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynllunio, cyllidebu a monitro cynnydd yr amserlen ôl gynhyrchu.

Mae'n ymwneud â chyfathrebu'n agos gyda'r bobl berthnasol a gofalu eu bod yn meddu ar bopeth sydd eu hangen i weithio'n effeithiol.

Mae'n ymwneud â gofalu fod y cyfnod ôl gynhyrchu'n rhedeg yn rhwydd ac yn ddidrafferth, gan ddirprwyo gweithgareddau allweddol fel sy'n briodol. Fe all gwybodaeth am feddalwedd ôl gynhyrchu fod yn fanteisiol. 

Mae'r Safon hon yn canolbwyntio ar ddyletswyddau goruchwyliol y tîm cynhyrchu yn hytrach na'r prosesau technegol gaiff eu rhoi ar waith yn y cyfnod ôl gynhyrchu.

Mae'r Safon hon ar gyfer Cynhyrchwyr Llinell, Cydlynwyr Ôl Gynhyrchu a Rheolwyr Cynhyrchu. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynllunio a chytuno ar amserlenni ôl gynhyrchu gyda'r bobl briodol gan adnabod y prif weithgareddau i'w cwblhau.
  2. cynllunio deilliannau i fodloni gofynion y partneriaid neu ddarlledwr wrth weithio ar gydgynyrchiadau 
  3. dewis, trin a thrafod a chytuno ar wasanaethau ôl gynhyrchu a chriw i fodloni gofynion y cynhyrchiad 
  4. cyfleu gofynion y cyfarwyddyd a sgript greadigol wreiddiol i'r rheiny sy'n rhan o'r broses ôl gynhyrchu ar adegau priodol
  5. rhagnodi deilliannau a meini prawf eglur ar gyfer golygu
  6. monitro deilliannau ôl gynhyrchu gan ddwyn i ystyriaeth gofynion penodol yn rheolaidd
  7. monitro costau ariannol yn barhaus
  8. adolygu adrannau ôl gynhyrchu cyllidebau'n rheolaidd a gwneud addasiadau pan fo'u hangen
  9. paratoi amcan brisiau ar gyfer adroddiadau costau gyda chyfrifwyr cynhyrchu pan yn briodol
  10. cyfeirio at y bobl berthnasol pan fo cynnydd yn debygol o effeithio ar yr amserlen
  11. cynnal rhwydwaith o gysylltiadau priodol i'w defnyddio pan fyddwch yn wynebu problemau gyda'r broses ôl gynhyrchu
  12. cadarnhau gofynion ôl gynhyrchu gan y criw, cyflenwyr, talentau creadigol a gweithredwyr ar adegau priodol
  13. cadarnhau eich bod yn cydymffurfio gyda'r holl weithdrefnau yn ymwneud â lladradau a chaniatâd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. llwybr critigol y broses ôl gynhyrchu
  2. sut i gyfrifo cost cyfleusterau a chriw'r broses ôl gynhyrchu o'i gymharu â pharamedrau'r gyllideb sydd wedi'u cyfrifo eisoes
  3. deilliannau'r cynhyrchiad sy'n ofynnol ar gyfer cydgynyrchiadau
  4. gwasanaethau a chriw'r broses ôl gynhyrchu gan gynnwys golygyddion, cyfarpar, llunio trac sain a chymathu  
  5. sut i gyllidebu'r deilliannau yn gywir
  6. unrhyw berthnasau sydd eisoes yn bodoli rhwng y cynhyrchydd neu'r cyfarwyddwr a'r criw ôl gynhyrchu arfaethedig
  7. defnyddiau, a'r angen am, amryw eitemau sy'n ofynnol ac sydd wedi'u cynhyrchu gan yr adran ôl gynhyrchu
  8. y prosesau ynghlwm â chynhyrchu teitlau ac effeithiau arbennig
  9. y prosesau ynghlwm â recordio cerddoriaeth
  10. y gweithdrefnau ynghlwm â chreu elfennau digidol ar ffilm
  11. elfennau a ffurfiau gofynnol y cynnyrch terfynol
  12. manylion allweddol contractau a chytundebau
  13. y gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer lladradau a chaniatâd  a sut i ofalu eich bod yn eu bodloni 
  14. sut i fonitro cynnydd gyda'r lefel gywir o ymrwymiad heb gythruddo'r criw creadigol
  15. pwy ddylech chi eu hysbysu ynghylch ddiffyg cynnydd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP33

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Ôl gynhyrchu, Goruchwylio