Cynorthwyo gyda chynyrchiadau aml-ffynhonnell byw

URN: SKSP31
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon ymwneud ag amseru'r cynhyrchiad, ymwneud gyda rheolwyr y rhwydwaith a chyflwyniad.

Mae'n ymwneud â chyfrifo hyd bob dilyniant, a'r rhaglen gyfan, gan gyfri cyn ac ar ôl dilyniannau wedi'u recordio ymlaen llaw, monitro amseriadau, adnabod unrhyw glipiau sy'n gor-redeg neu'n dan-redeg, ail-gyfrifo amseriadau pan fo newidiadau, a chyfathrebu'n agos gyda rheolwyr y rhwydwaith.

Mae'r Safon hon yn arbennig yn bennaf ar gyfer Goruchwylwyr Sgriptiau yn gweithio ar gynyrchiadau Chwaraeon, Cerddoriaeth, Adloniant Ysgafn neu Ddigwyddiadau Darlledu yn yr Awyr Agored.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod cynnwys y rhaglen sydd angen ei ohebu a chynghori rheolwyr y rhwydwaith
  2. cyfrifo hyd bob dilyniant ynghyd ag amser y rhaglenni, gan eu monitro drwy gydol y rhaglen gyfan
  3. gwirio bod arbenigwyr cyfri bariau ar gael pan fo'u hangen
  4. cyfri tuag at fannau penodol mewn rhaglenni yn fanwl gywir
  5. cyfri cyn ac ar ôl mewnosodiadau wedi'u recordio ymlaen llaw yn fanwl gywir
  6. cynnig rhybuddion modd segur i weithredwyr fideo gan gynnig ciwiau iddyn nhw pan fo'n briodol
  7. hysbysu'r bobl briodol ar unwaith o unrhyw anghysonderau sylweddol rhwng union hyd dilyniannau ac amseriadau wedi'u hamcan neu amseriadau ymarferion
  8. cyfrifo a chofnodi addasiadau i amseriadau yn sgil newidiadau i gynnwys y rhaglen a'r drefn rhedeg i'r bobl berthnasol ar unwaith 
  9. cyfrifo a chofnodi'r amser gofynnol ar gyfer hyd y rhaglen gyfan i'r bobl berthnasol pan fo eitemau o hyd hyblyg yn rhan o'r rhaglen 
  10. defnyddio dulliau amseru sy'n ddibynadwy ac yn berthnasol i natur y cynhyrchiad
  11. pennu'r union amseroedd cychwyn a gorffen ac amseroedd rhedeg y rhaglen
  12. meddu ar union fanylion dolenni gweledol neu sain 
  13. rhannu gwybodaeth eglur am amser a hyd unrhyw egwyliau sydd wedi'u trefnu yn y rhaglen ac unrhyw gyfyngiadau o ran eu safle i aelodau priodol o'r tîm cynhyrchu
  14. trosglwyddo dolenni gweledol neu sain ar gychwyn neu ddiwedd rhaglen i reolwyr y rhwydwaith neu dîm arwain y cyflwyniad er mwyn gofalu bod y trosglwyddiad yn rhwydd a didrafferth  
  15. cofnodi gwybodaeth brydlon a manwl gywir am or-redeg neu dan-redeg mewn rhaglenni i reolwyr y rhwydwaith neu dîm arwain y cyflwyniad
  16. hysbysu rheolwyr y rhwydwaith neu'r swyddog dyletswydd am unrhyw gynnwys y rhaglen rydych chi'n eu hadnabod sydd angen eu cofnodi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i hysbysu rheolwyr y rhwydwaith o'r cynnwys gaiff ei gofnodi
  2. sut i gyfrifo amseriadau ac amrywiaethau i amseriadau
  3. sut i gyfri tuag at fannau penodol
  4. pryd bydd angen cyfri bariau
  5. sut i gyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu a'r tîm technegol a gyda pherfformwyr a chyfranwyr
  6. gwahanol ddulliau amseru a sut i'w defnyddio
  7. pa weithdrefnau cyfri i'w defnyddio
  8. y termau technegol i'w defnyddio
  9. sut i fynd i'r afael gyda gwahanol fathau o gynnwys i raglenni
  10. sut i fynd i'r afael gyda deunydd yn gor-redeg neu'n tan-redeg
  11. gweithdrefnau trin a thrafod a sut i'w defnyddio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP31

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Byw, Aml-ffynhonnell