Cynorthwyo gyda chynyrchiadau ffeithiol

URN: SKSP27
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwirio a chadarnhau cynlluniau ac amserlenni ar gyfer cynyrchiadau ffeithiol a monitro'r cynnydd o ran ffilmio gan ystyried yr amserlen.

Mae'n ymwneud â gwirio ydy'r cyfranwyr, cyfleusterau a gwasanaethau ar gael er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr amser ffilmio. Mae hefyd yn ymwneud â rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan mae newidiadau i''r amserlen yn ystod y ffilmio.

Mae'n ymwneud â chofnodi'r cyfeirnod priodol yn gywir ar gyfer pob cynnig ynghyd â'i enw, cynnwys ac amseriad a gwirio cofnod y saethiad i weld ydy o wedi'i gwblhau. Mae'n ymwneud â dosbarthu'r nodiadau priodol i'r bobl sydd eu hangen.

Mae'n ymwneud â monitro pryd a gwedd, safleoedd a gweithrediadau'r cyflwynwyr a chyfranwyr er cysondeb. Pan fo cyflwyniadau neu sgyrsiau wedi'u sgriptio, mae'n ymwneud â gwirio beth mae'r cyflwynydd a chyfranwyr yn ei ddweud o gymharu â'r hynny sy'n ymddangos yn y sgript.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer aelodau'r tîm cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio, cadarnhau a rhannu cynlluniau ac amserlenni gydag aelodau priodol o'r tîm cynhyrchu
  2. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol heb oedi pan fo newidiadau i gynlluniau neu amserlenni y cytunwyd arnyn nhw eisoes yn ystod y ffilmio 
  3. gofalu bod cyfranwyr a pherchnogion lleoliadau wedi llofnodi ffurflenni caniatâd a rhyddhau pan fo'u hangen
  4. monitro cynnydd y ffilmio, o gymharu â'r amserlenni, yn barhaus 
  5. cofnodi goblygiadau saethiadau sy'n digwydd yn gynt neu'n arafach nag sydd wedi'i drefnu ynghyd a gweithredu'n briodol i fanteisio i'r eithaf ar yr amser ffilmio
  6. gwirio ac ail-gadarnhau ydy cyfranwyr, cyfleusterau a gwasanaethau ar gael yn rheolaidd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr amser ffilmio
  7. cadw nodiadau manwl gywir, a rhoi gwybod i'r tîm cynhyrchu, am unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud yn ystod ffilmio sy'n effeithio ar ddeilliannau'r saethiad neu'r amserlen ar gyfer saethiadau yn y dyfodol
  8. cadw nodiadau manwl gywir ac eglur o'r cyfeirnod, enw, cynnwys ac amseriad priodol ar gyfer pob cynnig neu ail-gynnig
  9. cadw nodiadau manwl gywir o gwestiynau'r cyfwelwyr yn ystod recordio
  10. cyfarwyddo cyfwelwyr yn ystod recordio cwestiynau gwrthdroadol yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  11. gwirio cofnod y saethiad i weld ydy o wedi'i gwblhau a dosbarthu nodiadau priodol heb oedi i'r bobl sydd eu hangen
  12. monitro dilyniant pryd a gwedd, safle a gweithrediadau cyflwynwyr a chyfranwyr
  13. gwirio'r hynny mae cyflwynwyr a chyfranwyr yn ei ddweud o gymharu â'r sgript ar gyfer cynyrchiadau wedi'u sgriptio
  14. cynghori'r bobl berthnasol ynghylch anghysonderau o ran y dilyniant a'r sgript, a'u goblygiadau o ran cywirdeb y rhaglen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i asesi effeithiau newidiadau ar yr amserlen ar gyfer saethiadau cyfredol a saethiadau yn y dyfodol
  2. sut i gadarnhau'r cynllun a'r amserlen a thrafod unrhyw newidiadau iddyn nhw gydag aelodau'r criw
  3. argaeledd parhaol cyfranwyr, cyfleusterau a gwasanaethau
  4. ffynonellau gwybodaeth er mwyn egluro gofynion y saethiad
  5. sut i lunio ffurflenni caniatâd a ffurflenni rhyddhau pan fo'u hangen
  6. sut i storio dogfennau yn unol â'r gofynion cyfundrefnol a deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data
  7. pa wybodaeth ddylech chi ei chofnodi a sut i'w gofnodi
  8. sut i weithio'n effeithiol er mwyn bodloni'r amserlenni saethu
  9. sut i ganfod y gofynion o ran dilyniant
  10. sut i adnabod anghysonderau annymunol o ran dilyniant
  11. dulliau cofnodi dilyniant a pha derminoleg i'w ddefnyddio
  12. sut i ofalu caiff unrhyw gyflwyniadau neu sgyrsiau eu mapio yn erbyn y sgript
  13. sut i lunio a chofnodi nodiadau cynhwysfawr yn ystod y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP27

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad