Cynorthwyo’r rheolwyr gyda ffilmio’r cynhyrchiad

URN: SKSP25
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon yn ymwneud â chynnig ystod o gefnogaeth i berfformwyr a chyfranwyr ar gyfer ffilmio cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud â chyfathrebu rhwng adrannau a chyfranwyr gan ddosbarthu gwybodaeth a gwaith papur priodol er mwyn gofalu caiff y cynhyrchiad ei gynnal yn rhwydd a didrafferth a bod y cast a'r criw yn y mannau cywir bob amser. 

Mae'r Safon hefyd yn ymwneud â gwybod lle mae unigolion allweddol bob amser a gofalu eu bod ar y set ar yr amser gofynnol.

Mae'n ymwneud ag ymdrin ag ystod o bobl a gwybod sut i weithio gyda gwahanol bersonoliaethau er mwyn cyflawni'r nod y cytunwyd arno. Mae hefyd yn ymwneud ag egluro'r broses ffilmio i'r rheiny sydd o bosib yn anghyfarwydd â'r broses a'u calonogi.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cydlynwyr Cynyrchiadau, Cyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af, 2il Gyfarwyddwyr Cynorthwyol a Rheolwyr Cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod y taflenni galwadau a gwaith papur eraill ar gyfer y criw wedi'u dosbarthu pan fo'n briodol  
  2. cyfarwyddo'r cast ar adegau priodol ar godau ymarfer y stiwdio neu leoliad ynghyd ag unrhyw ofynion iechyd a diogelwch
  3. cyd-drefnu cludiant er mwyn trefnu caiff y cast a chriw eu cludo'n sydyn ac yn effeithiol rhwng y set a'u cartref neu lety yn ystod ffilmio
  4. gofalu bod yr arwyddion a hysbysiadau yn egluro a rhagnodi gofynion mynediad yn eglur ac i'w gweld yn glir
  5. rhoi gwybod i weithwyr y cynhyrchiad a phobl berthnasol am gynnydd y ffilmio ac am unrhyw oedi dichonol a newidiadau i amserlenni
  6. trosglwyddo ciwiau eglur fel sydd wedi'i gyfarwyddo i berfformwyr a chyfranwyr
  7. gofalu caiff y gweithrediadau yn y cefndir eu trefnu fel sydd wedi'i gyfarwyddo
  8. cyd-drefnu rhedwyr ar y set, rhoi cyfarwyddiadau neu ddirprwyo goruchwyliaeth  ynghylch tasgau perthnasol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  9. cynnal cofnodion cywir o'r perfformwyr ar y set ynghyd ag amseroedd prydau a gorffen ffilmio yn unol â gofynion y cytundebau
  10. cadarnhau bod cludiant digonol ar gael ar yr amseroedd gofynnol yn ystod y diwrnod ffilmio
  11. rhybuddio adrannau perthnasol ymlaen llaw ynghylch y set derfynol er mwyn iddyn nhw fedru paratoi ar gyfer diwedd y diwrnod ffilmio
  12. dirprwyo dros a chymryd yr awenau dros y llawr yn unol â chyfarwyddiadau gan reolwyr y cynyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gofynion adrannol gan y cast a chriw
  2. manylion unrhyw godau ymarfer neu ofynion iechyd a diogelwch lleoliadau i'w rhannu gyda'r cast
  3. anghenion perfformwyr a'r criw yn ystod cyfnodau sefydlog, ymarferion a chynigion
  4. sut i gyfathrebu mewn sull sensitif gyda pherfformwyr a chyfranwyr
  5. y galwadau i weithwyr y cynhyrchiad
  6. pwysigrwydd cyfathrebu a chyflwyno'r rhain i'r bobl berthnasol
  7. sut i gyfathrebu'n sensitif, yn effeithiol ac yn effeithlon gyda pherfformwyr, cyfranwyr ac adrannau ar y set
  8. sut i drefnu, neu gynorthwyo gyda threfnu, gweithrediadau yn y cefndir  
  9. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn brydlon ynghylch amseroedd rhyddhau'r cast
  10. sut i storio gwybodaeth yn ymwneud â'r cynhyrchiad yn ddiogel ac yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  11. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â gwarchod data
  12. pwysigrwydd gweithredu'n brydlon i gyfarwyddiadau
  13. goblygiadau, amrywiaeth o adrannau, ynghylch penderfyniadau wedi'u gwneud ar y set
  14. ffactorau sy'n debygol o achosi oedi i weithgareddau cynhyrchu
  15. sut i drosglwyddo ciwiau
  16. beth sy'n ofynnol o ran gweithrediadau yn y cefndir
  17. pwysigrwydd monitro lle mae'r cast a chriw pan nad ydyn nhw ar y set
  18. sut i ddiwallu anghenion mynediad neu anghenion penodol y cast a chriw

  19. goblygiadau cyllidebol ar y defnydd o gyfranwyr

  20. sut i gymryd yr awenau dros reoli'r llawr os cewch chi eich cyfarwyddo i wneud hynny gan reolwyr y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP25

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad