Rheoli gweithgareddau ffilmio ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSP24
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli set y cynhyrchiad a meithrin perthynas effeithiol rhwng cyfarwyddwr â'r holl bobl eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad.

Mae'n ymwneud â dehongli anghenion a gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr a throsi hyn i fod yn dasgau i'w cyflawni gan yr adrannau amrywiol. Mae'r Safon hefyd yn ymwneud â rheoli'r criw i gyflawni hyn.

Mae'n ymwneud â chynhyrchu asesiad risg ar gyfer pob diwrnod ffilmio unwaith ichi adnabod, gydag eraill, y peryglon dichonol i iechyd a diogelwch y criw.   

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Cyfarwyddwyr Cynorthwyol 1af, Rheolwyr Llawr neu Reolwyr Cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno a chymeradwyo gweledigaeth ac amcanion y cynhyrchiad gyda chyfarwyddwyr a phenaethiaid adrannau ar adegau priodol
  2. trafod a chytuno ar y dulliau gorau o gyflawni'r weledigaeth greadigol gyda'r cyfarwyddwr a phenaethiaid adrannau
  3. rhannu'r wybodaeth gyflawn gyda'r tîm ynghylch gweledigaeth greadigol y cyfarwyddwr
  4. cynnal cyfarfodydd cynhyrchu rheoliadd a rheoli trafodaethau rhagchwiliadau ac amcanion er mwyn gofalu caiff anghenion y cyfarwyddwr eu diwallu
  5. adnabod y peryglon dichonol i iechyd a diogelwch y cast a'r criw a chyflawni mesurau priodol
  6. rhannu'r holl weithdrefnau iechyd a diogelwch gyda'r cast a'r criw ar ddechrau pob diwrnod er mwyn bodloni'r gofynion cyfundrefnol
  7. cofnodi a dosbarthu asesiadau risg perthnasol i holl aelodau'r criw cyn dechrau ffilmio
  8. cadarnhau cyfathrebu rhwydd rhwng yr holl gast a chriw
  9. datrys problemau technegol pan fo nhw'n codi a chyflawni canlyniadau boddhaol ar y cyd ag eraill
  10. gofalu caiff gofynion y cyfarwyddwr eu bodloni drwy ddirprwyo tasgau i bobl briodol wrth ffilmio
  11. cyfarwyddo gweithwyr y cynhyrchiad ynghylch y gofynion ar y set ar gyfer taflen alwad y diwrnod canlynol ar adegau priodol
  12. adnabod achosion dichonol dros oedi gydag amserlenni, ac awgrymu a threfnu datrysiadau hyfyw
  13. monitro gweithgareddau ar y set er mwyn gofalu caiff yr adnoddau eu defnyddio'n effeithlon
  14. rhoi gwybod i gynhyrchwyr neu reolwyr cynhyrchu am unrhyw broblemau gall achosi goblygiadau difrifol i amserlen neu gyllideb y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddatblygu perthynas gadarn gyda chyfarwyddwyr, penaethiaid adrannau a'r criw
  2. sut i adnabod peryglon dichonol sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch y criw
  3. pa ddogfennau sydd eu hangen er dibenion asesiadau risg
  4. sut i reoli'r criw er mwyn cyflawni'r deilliannau gorau posib
  5. sut i ddatrys problemau ar y cyd ag arbenigwyr technegol
  6. pa dasgau dylid eu dirprwyo, a phryd
  7. pa wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar wahanol adrannau er mwyn cyflawni gweledigaeth y cyfarwyddwr
  8. sut all penderfyniadau creadigol a thechnegol effeithio ar y gyllideb a'r amserlen 
  9. sut i gynllunio tua'r dyfodol gan reoli gweithgareddau dydd i ddydd
  10. sut mae argaeledd y cast, criw a lleoliadau yn amharu ar benderfyniadau o ran ail-drefnu
  11. sut all gweithgareddau ffilmio effeithio ar iechyd a diogelwch a sut gaiff hyn ei gyflwyno i'r criw yn ddyddiol
  12. sut a phryd i roi gwybod i weithwyr y cynhyrchiad ynghylch unrhyw broblemau sy'n amharu ar yr amserlen neu gyllideb

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP24

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Saethu / Ffilmio