Adnabod a dewis perfformwyr a chyfranwyr cefnogol ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSP21
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod nifer a natur y perfformwyr a chyfranwyr cefnogol angenrheidiol ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae'n ymwneud ag asesu a dewis perfformwyr cefnogol. Bydd angen cynnwys cynnal clyweliadau a gwirio bod y perfformwyr cefnogol dewisol ar gael ar adegau sy'n addas ar gyfer graddfeydd amser y cynhyrchiad. Hefyd bydd angen gwirio bod eu cost oddi fewn cyllideb y cynhyrchiad.

Mae'n ymwneud â chydnabod ffactorau o ymarfer da a gwybod sut i fanteisio ar wybodaeth berthnasol ynghylch y ffactorau hynny.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn nhîm rheoli'r cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​amcan a chytuno ar y nifer a mathau o berfformwyr ategol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynyrchiadau gyda'r bobl berthnasol
  2. adnabod amseriad a hyd perfformiadau neu gyfraniadau o'r sgriptiau ac amserlenni ffilmio
  3. adnabod perfformwyr a chyfranwyr ategol sy'n debygol o fodloni'r gofynion
  4. gwirio a chadarnhau ydy'r perfformwyr cefnogol ar gael i fynychu clyweliadau pan fo'u hangen
  5. dod o hyd i berfformwyr a chyfranwyr addas pan nad ydy'r rheiny rydych wedi'u cytundebu'n wreiddiol ar gael mwyach
  6. defnyddio dull dewis sy'n briodol i'r rôl neu gyfraniad gofynnol 
  7. gwirio ydy perfformwyr a chyfranwyr cefnogol ar gael ynghyd â gwirio'u cost
  8. dewis y perfformwyr a chyfranwyr cefnogol sy'n fwyaf tebygol o fodloni gofynion y cynyrchiadau

  9. trin a thrafod a chytuno ar y nifer terfynol o berfformwyr cefnogol gallwch fanteisio arnyn nhw yn unol â'r gyllideb

  10. cadarnhau ffioedd gyda pherfformwyr cefnogol neu eu hasiantau a threfnu cyflwyno cytundebau
  11. gwirio gyda pherfformwyr cefnogol oes ganddyn nhw unrhyw ofynion o ran mynediad neu unrhyw anghenion arbennig.
  12. cadw cofnodion o gytundebau a'u storio mewn man diogel yn unol â'r gofynion rheoleiddiol a chyfundrefnol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gofynion a'r nodweddion ar gyfer perfformwyr neu gyfranwyr cefnogol
  2. ffynonellau gwybodaeth am berfformwyr neu gyfranwyr cefnogol a sut i fanteisio ar y ffynonellau
  3. y meini prawf masnachol ac esthetig i'w roi ar waith wrth ddewis perfformwyr a chyfranwyr cefnogol
  4. pryd a sut i gysylltu gyda pherfformwyr cefnogol neu eu cynrychiolwyr
  5. trefniadau a gweithdrefnau cytundebol, a gofynion a rhwymedigaethau cyfreithiol a moesegol yn ymwneud â chydweithio gyda pherfformwyr a chyfranwyr cefnogol
  6. rôl cyfarwyddwyr castio a sut i'w penodi
  7. gofynion a rheoliadau sy'n effeithio ar gymhwysedd perfformwyr cefnogol i weithio mewn gwahanol wledydd
  8. gofynion a rheoliadau i'w hystyried wrth gyflogi pobl ifanc
  9. gofynion a rheoliadau i'w hystyried wrth gyflogi pobl gyda gwahanol alluoedd a chefndiroedd
  10. gofynion o ran mynediad ac anghenion arbennig y perfformwyr cefnogol mae'n debyg bydd angen eu hystyried
  11. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP21

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cyfranwyr, Perfformwyr