Adnabod ac argymell cyfranwyr ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSP20
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod a chysylltu gyda chyfranwyr dichonol a threfnu eu bod yn ymddangos ar y cynhyrchiad gan gydymffurfio â'r cyfyngiadau o ran amser a chost.

Mae'n ymwneud â chyfweld â phobl dros y ffôn ac wyneb yn wyneb er mwyn asesu eu haddasrwydd i fod yn rhan o'r cynhyrchiad ynghyd â chynnig argymhellion i wneuthurwyr penderfyniadau.

Mae'n ymwneud â bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau cyfreithiol, moesegol a chytundebol cyfranwyr a chydymffurfio gyda safonau ymarfer da.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer Ymchwilwyr sydd ynghlwm â chynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​pennu'r math a'r amrywiaeth o gyfranwyr sydd eu hangen ar gyfer cynyrchiadau gyda'r bobl briodol
  2. adnabod cyfranwyr dichonol gan ffynonellau dibynadwy
  3. cysylltu gyda chyfranwyr dichonol er mwyn trefnu cyfweliadau, mewn amser digonol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  4. gwneud a chadarnhau trefniadau er mwyn gan ofalu eu bod yn gyfleus i'r cyfranwyr dichonol ac yn diwallu anghenion y cynhyrchiad
  5. cynnal cyfweliadau gyda chyfranwyr dichonol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
  6. llunio nodiadau cywir a chyfoes o'r holl sgyrsiau gyda chyfranwyr a chyfranwyr dichonol
  7. asesu cyfweledigion o ran eu dichonolrwydd i gyfrannu tuag at gynyrchiadau a'u haddasrwydd ar gyfer rhaglen darlledu
  8. gwirio cyfranwyr yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  9. argymell a chyfiawnhau cyfranwyr sydd mwyaf tebygol o fodloni gofynion cynyrchiadau
  10. defnyddio gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn cadarnhau gyda chyfranwyr bod eu hangen nhw, gan roi gwybod iddyn nhw am y trefniadau o ran teithio a mynediad
  11. gwneud trefniadau priodol o ran cyllid, teithio a llety ar gyfer cyfranwyr
  12. gwirio gyda chyfranwyr oes ganddyn nhw unrhyw ofynion o ran mynediad neu anghenion arbennig yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
  13. cofnodi a chadw manylion cywir ynghylch cyfranwyr fel sy'n ofynnol gan eich mudiad
  14. gwneud trefniadau ynghylch cyflwyno cytundebau pan fo'u hangen
  15. derbyn ffurflenni rhyddhau a chofnodi awdurdodaeth er mwyn defnyddio deunydd ar aml-lwyfannau yn unol â gofynion cyfundrefnol
  16. cynnig cytundeb i unrhyw blant sydd eu hangen yn unol â deddfau a rheoliadau perthnasol
  17. cynnig awgrymiadau eraill pan nad ydy'r cyfranwyr dewisol ar gael, gan hysbysu'r cynhyrchwyr bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​dulliau o gysylltu gyda chyfranwyr dichonol
  2. sut i fanteisio ar asiantaethau a ffynonellau dibynadwy er mwyn dod o hyd i gyfranwyr dichonol
  3. sut i wirio ffynonellau a chyfranwyr yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  4. y nodweddion sy'n gofalu bod cyfranwyr dichonol yn addas ar gyfer rhaglen wedi'i darlledu
  5. sut i strwythuro cyfweliadau a geirio cwestiynau er mwyn ysgogi'r wybodaeth angenrheidiol
  6. sut i gynnal agwedd cwrtais ac addysgiadol wyneb yn wyneb a dros y ffôn
  7. y goblygiadau cyfreithiol, moesegol, cytundebol ac ariannol yn ymwneud â chyfweld â phobl benodol
  8. sut i lunio nodiadau cywir a chyfoes ar yr holl sgyrsiau sydd wedi'u cynnal
  9. agweddau perthnasol cyfreithiau yn ymwneud â pherfformiadau gan blant
  10. pam ei bod hi'n bwysig cynnal a chadw cofnodion cynhwysol a chywir o gyfweliadau
  11. dulliau cyflwyno'ch gofynion i wneuthurwyr penderfyniadau
  12. y gofynion rhyddhau a chaniatâd sy'n angenrheidiol a pham eu bod yn bwysig
  13. sut i drwyddedu cyfranwyr sy'n blant ac unrhyw drefniadau hebrwng sy'n ofynnol
  14. sut i wneud trefniadau o ran teithio a llety
  15. gofynion mynediad ac anghenion arbennig y cyfranwyr sydd angen eu hystyried 
  16. y trefniadau angenrheidiol er mwyn defnyddio anifeiliaid
  17. sut i gytundebu gyda chyfranwyr

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP20

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynhyrchiad, Cyfranwyr