Rheoli deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau’r cynhyrchiad

URN: SKSP17
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r Safon hon yn ymwneud â sefydlu systemau ar gyfer prynu, llogi, symud a storio'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'n ymwneud ag egluro i bawb perthnasol sut mae'r systemau'n gweithredu. Mae'n ymwneud â gofalu eich bod yn manteisio ar gyflenwyr addas, eich bod yn archebu ac yn derbyn yr adnoddau erbyn y dyddiadau cau y cytunwyd arnyn nhw. Yn ogystal mae'r safon yn ymdrin â gofalu caiff cyfarpar a deunyddiau eu trin a'u symud yn ddiogel.

Mae'n bosib y bydd angen ichi fanteisio ar gyngor arbenigol ynghylch storio ar gyfer rhai adnoddau os ydyn nhw'n fregus, yn werthfawr neu'n medru bod yn beryglus.

Mae’r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n rhan o dîm rheoli’r cynhyrchiad. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi amserlen a chyfarwyddyd y cynhyrchiad er mwyn adnabod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer pob cam o'r broses cynhyrchu
  2. derbyn tendrau, amcan brisiau a dyfynbrisiau gan gyflenwyr adnoddau dichonol, sy'n diwallu anghenion y cynhyrchiad
  3. asesu cost ac ansawdd amcan brisiau gan gyflenwyr dichonol gan ddwyn i ystyriaeth gofynion a chyllideb y cynhyrchiad
  4. cytuno a chymeradwyo ar bapur y manylion ynghylch costau ac unrhyw amodau a thelerau perthnasol eraill yn ymwneud â chyflenwi
  5. cynnig cytundebau addas sy'n bodloni gofynion cyfreithiol ac sy'n cynnwys manylion llawn a chywir am gyfraniadau'r cyflenwyr
  6. adnabod diffygion dichonol, unrhyw oedi gyda chludo adnoddau neu anghysonderau ynghylch lefelau stoc a mynd i'r afael gyda hyn yn brydlon
  7. egluro a chytuno gyda'r holl bartïon perthnasol y dyletswyddau a chyfrifoldebau ar gyfer symud a storio deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau
  8. gwirio caiff deunyddiau, cyfarpar a chyflenwadau eu storio mewn lle diogel a gofalu bod y trefniadau i storio sylweddau a deunyddiau peryg yn bodloni'r gofynion cyfreithiol
  9. manteisio ar gyngor arbenigol ynghylch storio ar gyfer adnoddau sy'n fregus, yn werthfawr neu sy'n medru bod yn beryglus  
  10. adnabod y goblygiadau tebygol ynghylch yr angen am yswiriant ar gyfer gweithio mewn amgylchiadau peryglus ac ar gyfer cerbydau yn ymddangos yn y cynhyrchiad
  11. cofnodi manylion cywir y polisi yswiriant
  12. cynnal a diweddaru rhestr o'r cyfarpar
  13. rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn gofalu caiff cyfarpar a deunyddiau rydych yn eu llogi eu dychwelyd mewn cyflwr derbyniol wedi ichi eu defnyddio
  14. cydymffurfio gyda chyfreithiau a rheoliadau lleol pan fyddwch yn defnyddio adnoddau cynhyrchu
  15. cadarnhau bod yr holl gyfarpar cynhyrchu wedi'u hyswirio gydag yswiriant cynhyrchu digonol
  16. derbyn adroddiadau colledion neu ddifrod ar ffurfiau priodol yn ymwneud ag unrhyw gyfarpar sydd wedi'i golli, ei ddifrodi neu ei ladrata
  17. cymharu polisïau yswiriant a rhestri cyfarpar er mwyn canfod gofynion yswiriant arbennig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwahanol fathau o systemau monitro a'u haddasrwydd tebygol ar gyfer gwahanol gynyrchiadau
  2. gofynion system y cynhyrchiad
  3. pa adnoddau a chyflenwyr dichonol sydd eu hangen
  4. dulliau o fanteisio ar adnoddau a phryd ydy'r amser gorau i'w rhoi ar waith
  5. pa bolisïau cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol er mwyn manteisio ar adnoddau
  6. pa ddogfennau i'w defnyddio wrth archebu adnoddau
  7. sut i fynd i'r afael ag oedi gyda danfon neu gludo
  8. sut i fanteisio ar a chofnodi gwybodaeth ynghylch lefelau stoc a symud stoc
  9. sut i lunio a chynnal rhestr o gyfarpar
  10. y manylion angenrheidiol i'w cofnodi ar gyfer y polisi yswiriant
  11. y deunyddiau a chyfarpar mae'n bosib y bydd angen eu trin mewn dull arbennig
  12. ffynonellau cyngor arbenigol ynghylch storio adnoddau bregus, gwerthfawr neu beryglus
  13. ffynonellau gwybodaeth ynghylch gofynion cyfreithiol yn ymwneud â sylweddau peryglus a sut i fanteisio ar y ffynonellau hynny
  14. pa systemau cofnodi i'w defnyddio gan gynnwys gwybodaeth rheolaeth ariannol
  15. y gofynion ynghylch dychwelyd y cyfarpar byddwch yn llogi, gan gynnwys goblygiadau ariannol dychwelyd cyfarpar wedi'i logi yn hwyr neu mewn cyflwr gwael

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP17

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Adnoddau, Cyflenwadau, Cyfarpar