Rheoli gwaith cynllunio cyffredinol y cynyrchiadau

URN: SKSP13
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwaith cynllunio cyffredinol ynghlwm â chynyrchiadau unwaith caiff amserlenni eu cyhoeddi.

Mae'n ymwneud â gofalu caiff cynlluniau ac amserlenni priodol, yn ymwneud â holl gamau cynyrchiadau, eu cynhyrchu a'u cytuno. Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod y bobl, lleoedd, cyfarpar a deunyddiau angenrheidiol.

Mae'n ymwneud â gofalu bod y systemau monitro a gohebu priodol mewn grym.

Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod ffactorau gall effeithio ar y broses ffilmio. Ymysg y ffactorau posib mae cytundebau contract a chydymffurfio gyda rheoliadau, gwyliau crefyddol a diwylliannol, gwahaniaethau diwylliannol, yr hinsawdd ddaearyddol a'r oriau ffilmio sydd ar gael.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer rheolwyr cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod y cyfrifoldebau, camau a thasgau sylweddol ac angenrheidiol i gyflwyno cynhyrchiadau gan gadw at y gyllideb a'r amserlen ofynnol 
  2. cydweithio gyda chydweithwyr ac adrannau i bennu'r prif elfennau a graddfeydd amser angenrheidiol i fodloni cyfarwyddiadau creadigol 
  3. defnyddio dulliau cynllunio cynyrchiadau priodol ar gyfer y math o gynhyrchiad rydych chi ynghlwm ag o 
  4. trafod a chytuno ar ddewisiadau a newidiadau cyllidebol realistig gyda chydweithwyr pan fo costau'r cynlluniau arfaethedig yn debygol o fod yn uwch na'r gyllideb neu phan fo gofynion adrannol yn uwch na'r cyfyngiadau artistig neu dechnegol  
  5. adnabod a chadarnhau'r lleoedd a safle mwyaf addas ar gyfer cynyrchiadau
  6. adnabod ffactorau gall achosi oedi i weithgareddau cynhyrchu a llunio cynlluniau mewn argyfwng i fynd i'r afael â nhw
  7. cadarnhau gyda chydweithwyr perthnasol fod cynlluniau cynhyrchu'n addas i'w pwrpas
  8. sefydlu systemau monitro a gohebu sy'n bodloni gofynion cynhyrchu a chyfundrefnol
  9. dw dogfennau cynhyrchu yn unol â gweithdrefnau rheoleiddiol a chyfundrefnol
  10. rhannu gwybodaeth gyda'r holl bobl berthnasol ar adegau priodol
  11. gofalu bod asesiadau risg priodol ar gyfer cynyrchiadau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​manylion y cyfarwyddyd creadigol, gan gynnwys y gyllideb a'r dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cynhyrchiad
  2. gofynion o ran adnoddau gan gynnwys pobl, offer a deunyddiau
  3. pwy ydy'r buddsoddwyr
  4. lle'n briodol, effaith tebygol ffilmio dramor ar ofynion adnoddau
  5. ffynonellau gwybodaeth ynghylch prisiau cyfredol adnoddau a sut i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau sydd ar gael
  6. sut i ddefnyddio pecynnau cynllunio cynyrchiadau
  7. y prif gyfnodau cynhyrchu a'r gweithgareddau ynghlwm
  8. sut i gydweithio gyda'r adran lleoliadau i adnabod y lleoedd a'r safle mwyaf addas ar gyfer y cynhyrchiad
  9. pwysigrwydd cadw cofnodion cywir o amcan brisiau
  10. sut i gydweithio gydag adrannau eraill mewn ffordd adeiladol sy'n hyrwyddo perthnasau gwaith effeithiol
  11. y cyfrifoldebau, camau, tasgau a dyddiadau targed gofynnol ar gyfer y cynhyrchiad
  12. sut gall ffactorau amrywiol effeithio ar amseriad a threfn tasgau ac os bydd perfformwyr a chyfranwyr ar gael
  13. sut i ddiwygio'r gyllideb ac amserlen yn dilyn rhagchwiliadau technegol ynghyd â chyfarfodydd yngylch y cynhyrchiad lle'n briodol

  14. sut i lunio neu gymeradwyo asesiadau risg ar gyfer y cynhyrchiad

  15. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data
  16. agweddau cynyrchiadau y mae angen cynnal asesiadau risg yn eu cylch a sut i'w llunio neu gymeradwyo'r rheiny y mae pobl eraill yn eu cynnal

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP13

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Cynllunio