Cynllunio a threfnu cynyrchiadau

URN: SKSP12
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio amserlenni cynyrchiadau sy'n caniatau digon o amser i fodloni amcanion a defnyddio adnoddau yn effeithiol.

Mae'n ymwneud ag ystyried ffactorau sy'n debygol o oedi'r cynhyrchiad a chadw cynlluniau ac amserlenni cywir a diweddar. Gallai'r y rhain gynnwys cytundebau contract a chydymffurfio gyda rheoliadau, gofynion amrywioldeb, gwyliau crefyddol a diwylliannol, gwahaniaethau diwylliannol, yr hinsawdd ddaearyddol a'r oriau ffilmio sydd ar gael.

Bydd angen ichi feddu ar ddealltwriaeth gref o weledigaeth y Cyfarwyddwr a sut mae ef neu hi yn bwriadu cyflawni hynny ar gyfer y cynhyrchiad.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â chynllunio a threfnu cynhyrchiad, gan gynnwys rheolwyr cynhyrchu. 

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​neilltuo digon o amser ar gyfer pob cam o'r broses cynhyrchu er mwyn gofalu y caiff amcanion eu bodloni ac er mwyn gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau
  2. adnabod cyfrifoldebau sylweddol a threfn a hyd y gweithgareddau a thasgau i gyflwyno cynyrchiadau oddi fewn y gyllideb ac ar amser
  3. adnabod a chadarnhau lle priodol ar gyfer ffilmio a lle priodol ar gyfer cynhyrchu
  4. cydweithio gydag adrannau eraill er mwyn pennu'r prif elfennau a graddfeydd amser gofynnol i fodloni cyfarwyddiadau creadigol
  5. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i wirio pryd mae'r cast a'r criw ar gael i weithio
  6. defnyddio adnoddau priodol er mwyn trefnu amserlenni ffilmio
  7. datblygu cynlluniau ac amserlenni sy'n dwyn i ystyriaeth ffactorau sy'n debygol o achosi oedi yn y gweithgareddau cynhyrchu
  8. llunio cynlluniau mewn argyfwng sy'n realistig i fynd i'r afael gydag unrhyw oedi
  9. gwirio gyda phobl briodol eich bod chi wedi derbyn y caniatâd a hawliau angenrheidiol
  10. gwirio bod y cynlluniau a'r amserlenni cynhyrchu'n gywir ac yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol
  11. cyflwyno cynlluniau ac amserlenni eglur yn y ffurfiau priodol
  12. dosbarthu cynlluniau ac amserlenni i bobl berthnasol heb oedi, gan eu hannog i adnabod a mynegi unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynghylch dichonolrwydd cynlluniau ac amserlenni
  13. awgrymu datrysiadau realistig pan gaiff trafferthion gyda rhoi cynlluniau ar waith eu hadnabod
  14. rhoi gwybod am newidiadau i amserlenni i'r holl bobl briodol ar unwaith
  15. llunio neu gymeradwyo dogfennau asesu risg priodol
  16. cynnig gofynion a mynediad penodol ar gyfer y rheiny sydd ag anghenion gwahanol
  17. cadarnhau bod amserlenni yn dwyn i ystyriaeth iechyd a diogelwch y cast a'r criw
  18. cadw amserlenni cynhyrchu mewn man diogel yn unol â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod gwybodaeth am y cyfarwyddyd creadigol a gweledigaeth y cyfarwyddwr gan gynnwys y gyllideb a'r dyddiad cyflwyno arfaethedig ar gyfer y cynhyrchiad
  2. sut i lunio amserlen ar gyfer y cynhyrchiad gan ddefnyddio'r adnoddau priodol
  3. sut i ddewis y lleoliad daearyddol mwyaf priodol ar gyfer ffilmio a'r safle ar gyfer cynyrchiadau
  4. y drefn ofynnol a hyd tebygol y gweithgareddau yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
  5. natur a phwysigrwydd gweithgareddau sy'n digwydd yn ystod gwahanol gamau'r broses cynhyrchu
  6. ffactorau a all olygu na fydd y cast a'r  criw ar gael fel gwyliau crefyddol neu ddiwylliannol
  7. canllawiau yn ymwneud â dewis cast  a chriw  
  8. y gweithdrefnau ar gyfer casglu data ar gyfer cynhyrchiad, fel amrywioldeb neu effaith carbon
  9. sut mae gwahanol amgylcheddau cynyrchiadau, mathau a maint cynhyrchiad cynhyrchu yn debygol o effeithio ar amserlennugweithgareddau  
  10. effaith tebygol ffilmio dramor ar amserlenni, fel amser teithio, gwahaniaethau amser, hinsawdd ac oriau ffilmio
  11. pryd bydd angen derbyn caniatâd a hawliau a sut i fynd ati i'w derbyn
  12. y mathau o argyfyngau all ddigwydd, a sut i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y rhain yn yr amserlen
  13. ffactorau dylid eu cynnwys mewn amserlen cynhyrchu
  14. pwy ddylai dderbyn copïau o'r amserlen a phryd
  15. y mathau o drafferthion allai ymddangos wrth roi'r amserlenni ar waith a sut mae modd mynd i'r afael â nhw
  16. pwy sydd angen ichi eu hysbysu ynghylch newidiadau i amserlen
  17. sut i gynnal asesiad risg ar gyfer y cynhyrchiad
  18. unrhyw ofynion arbennig ar gyfer anghenion amrywiol unigolion a sut i roi'r wybodaeth i'r cast a'r criw 

  19. ​goblygiadau’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyfredol sy’n ymdrin â Diogelu Data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP12

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Amserlen