Cynnal a chyflwyno gwaith ymchwil ar gyfer cynyrchiadau ffilm neu deledu

URN: SKSP10
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu (Ffilm a Theledu)
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud ag adnabod gwybodaeth a phobl berthnasol er mwyn cyflawni'r cyfarwyddyd ymchwil. Gall hyn ymwneud â dod o hyd i gyfrannwyr neu gynnal ymchwil ychwanegol a thrylwyr ynghylch cyfnod o hanes neu leoliad.

Mae'r Safon yn ymwneud â diweddaru rhestri cysylltiadau a dod o hyd i bobl addas gall gynorthwyo gyda'r broses. Mae'n ymwneud â chasglu ac asesu gwybodaeth gan ffynonellau amrywiol a gofalu caiff agweddau yn ymwneud â'r gyfraith, cydymffurfio a hawlfraint eu dwyn i ystyriaeth.

Mae hefyd yn ymwneud â chyflwyno canfyddiadau ymchwil yn eglur i wneuthurwyr penderfyniadau.

Mae'r Safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm ag ymchwilio cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod ffynonellau dichonol o wybodaeth sy'n berthnasol i gyfarwyddiadau ymchwil
  2. sefydlu cyswllt cychwynnol gyda'r bobl berthnasol er mwyn adnabod eu mewnbwn dichonol a dwyn i ystyriaeth agweddau yn ymwneud â'r gyfraith, moeseg, cydraddoldeb ac amrywioldeb
  3. casglu gwybodaeth briodol o ffynonellau ysgrifenedig neu ar-lein
  4. gofalu eich bod yn gweithio gan gydymffurfio gyda chodau a rheoliadau perthnasol
  5. cynnal cofnodion cywir a chynhwysfawr o ffynonellau gwybodaeth, diweddaru rhestri cysylltiadau pan fo'n briodol a chadw copïau o restri cysylltiadau blaenorol
  6. llunio cwestiynau yn ymwneud ag ymchwil a chanfyddiadau  
  7. defnyddio dulliau priodol o gwestiynu er mwyn manteisio ar wybodaeth ofynnol
  8. canfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen a lle gallwch chi ddod o hyd iddi
  9. gwirio unrhyw wybodaeth anghyson neu groesddywedol gyda ffynonellau priodol
  10. gwerthuso'r wybodaeth rydych wedi ei chasglu o ran ei haddasrwydd a dewis pa ddeunydd fydd yn cyflawni cyfarwyddiadau ymchwil orau
  11. gwirio ffynonellau a chyfranwyr ar gyfer cynyrchiadau yn unol â gofynion cyfundrefnol
  12. cyflwyno crynodeb cywir am eich canfyddiadau i wneuthurwyr penderfyniadau priodol
  13. cyflwyno canfyddiadau ar ffurf y cytunwyd arni ac erbyn y dyddiadau cau sydd wedi'u gosod

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol fathau o adnoddau ymchwil sydd ar gael ac sy'n addas ar gyfer cynyrchiadau penodol
  2. yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol, moesegol ac ystyriaethau o ran cydraddoldeb ac amrywioldeb sy'n berthnasol wrth ichi gysylltu gyda phobl  
  3. codau ymarfer a rheoliadau eraill sy'n berthnasol
  4. pwy i gysylltu gyda nhw i dderbyn gwybodaeth 
  5. ffyrdd o gadw cofnodion hawdd eu trin a chynhwysfawr am gysylltiadau
  6. goblygiadau deddfwriaethau a rheoliadau cyfredol yn ymdrin â Diogelu Data
  7. sut i fanteisio ar ffynonellau dichonol o wybodaeth a gwneud cyswllt cychwynnol mewn dull priodol
  8. arddull a chyflwyniad wrth ofyn cwestiynau
  9. sut i wirio ffynonellau am eu dilysrwydd a chywirdeb
  10. sut i lunio a chynnal nodiadau a chofnodion cywir ar ganfyddiadau
  11. sut i ganfod pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen a sut i fanteisio arni  
  12. sut i wirio ffynonellau a dosbarthwyr ar gyfer cynhyrchiad
  13. ffurfiau a dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno canfyddiadau
  14. pwy ddylech chi gyflwyno canfyddiadau iddyn nhw a pha wybodaeth sydd angen iddyn nhw ei gwybod
  15. sut i gyflwyno canfyddiadau yn eglur a chryno
  16. pa ffactorau i'w dwyn i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd gwybodaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSP10

Galwedigaethau Perthnasol

Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3416

Geiriau Allweddol

Teledu, Ffilm, Ymchwil