Rhaglennu a gweithredu consolau goleuo

URN: SKSL9
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod a phennu, mewn ymgynghoriad â'r person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuadau, a'r gweithredwr pylu os yn briodol, y sianeli rydych yn bwriadu eu defnyddio, a gosod y sianeli hynny ar y consol.

Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â newid gosodiadau'r consol gwreiddiol yn gywir ac ar unwaith. Mae'n ymwneud ag addasu'r cydbwysedd goleuo i fodloni gofynion, boed hynny ar gyfer Teledu, digwyddiadau byw neu saethiad corfforaethol / stiwdio, addasu'r newidiadau mewn goleuo'n gyson, rheoli gweithrediadau goleuo sydd allan o'r golwg a pharhau i gyfathrebu gyda'r staff cynhyrchu.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel arbenigwyr consolau goleuo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod, mewn ymgynghoriad â'r person perthnasol, fel y dylunydd goleuo, pa osodiadau consol gaiff eu defnyddio
  2. trafod a chytuno ar unrhyw ofynion arbennig, gyda'r person perthnasol, ac unrhyw gyfyngiadau neu broblemau ynghlwm â'r system
  3. gosod sianeli ar y consol er mwyn cynhyrchu'r effaith ddymunol ar gyfer y saethiad camera
  4. gosod a defnyddio systemau wrth gefn pan fo'n briodol
  5. gweithredu'r consol yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch
  6. cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol pan fo'n briodol
  7. addasu'r cydbwysedd golau er mwyn bodloni gofynion y person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuadau
  8. rheoli gweithrediadau goleuo allan o'r golwg
  9. unioni'r systemau monitro llun pan fo'n briodol
  10. addasu'r goleuadau'n gyson, ac ar y cyd â'r cynhyrchiad

hysbysu'r person sy'n gyfrifol am ddylunio'r goleuo am unrhyw ddiffygion neu namau ar y cyfarpar allai effeithio ar y ffilmio neu’r saethu

  1. addasu'r sianeli unigol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  2. dehongli ffyrdd gall cydbwysedd y goleuadau newid ar y cyd â symudiadau'r camera a pherfformwyr
  3. adnabod a thrwsio problemau a chyfyngiadau ynghlwm â'r cynhyrchiad
  4. cyfathrebu gyda staff y cynhyrchiad gan gynnwys y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr
  5. gweithredu a monitro'r fideo gaiff ei ddefnyddio
  6. cynllunio neilltuo sianel rheoli DMX a systemau data DMX (ceblau a chaledwedd)
  7. cyflawni gwaith 'cyweirio' cywir gyda sianeli rheoli DMX i gyfarpar DMX
  8. gofalu caiff rheoliadau DMX a systemau data eu defnyddio'n unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  9. cadw a chynnal cofnodion o weithredu systemau goleuo er mwyn sicrhau dilyniant ail-saethu pan fo'i angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i raglennu'r consol er mwyn cynhyrchu ystod o effeithiau a sut i ddilyn gwahanol fathau o blotiau goleuo
  2. sut i osod, rhaglennu a gweithredu gwahanol fathau o gonsolau a chyfarpar yn ddiogel ac yn fanwl gywir
  3. pa weithdrefnau wrth gefn i'w rhoi ar waith
  4. gweithredu gwahanol fathau o gonsolau er mwyn cynhyrchu gwahanol fathau o effeithiau
  5. effeithiau a defnyddio goleuadau strôb yn ddiogel
  6. sut i ddehongli gofynion darluniadol y cynhyrchiad drwy weithredu dewisiadau dynamig wrth ymwneud â chydbwysedd y goleuadau
  7. y gofynion iechyd a diogelwch, a sut maen nhw'n effeithio ar ymarferion rhaglennu, gweithredu a gweithiol gwahanol fathau o gonsolau
  8. sut gall perfformiad cerddorol effeithio ar weithrediad y consol ac unrhyw newidiadau goleuo dilynol

sut i adnabod unrhyw broblemau neu gyfyngiadau ynghlwm â'r cynhyrchiad, a sut i ddatrys y rhain

  1. y gwahanol fathau o systemau cyfathrebu sydd ar gael ar gyfer y cynhyrchiad
  2. y gweithdrefnau ar gyfer defnyddio'r monitor fideo
  3. wrth ymwneud â chynyrchiadau teledu, y berthynas gyda rheoli lluniau a gyda'r cyfarwyddwr goleuo
  4. sut gaiff DMX ei ddefnyddio er mwyn rheoli cyfarpar goleuo ac effeithiau

pensaernïaeth, egwyddorion a chyfyngiadau systemau DMX

  1. sut i ddefnyddio cyfarpar ymylol DMX
  2. pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer dilyniant ail-saethu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL12

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

consolau goleuo; goleuo; cyfyngiadau cynhyrchu; monitro llun; rheoli llun; dilyniant; DMX