Gosod gwifrau ar gyfer cyfarpar ymarferol a chyfarpar cyffredinol

URN: SKSL7
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gwirio cyfarpar ymarferol gan gymharu gyda'r rhestr goleuo, gosod gosodion a ffitiadau a gosod cyfarpar celfi ar gyfer y saethiad.  Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag adnabod y gofynion o ran trydan a gosod a gwirio goleuadau fflworoleuol.  

Mae'r safon hon yn ymdrin â gwybodaeth am a gweithredu gan gydymffurfio gyda'r safonau trydanol a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo, sef BS7671 a BS7909.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydlynu a chadarnhau gofynion trydanol gyda'r person sy'n gyfrifol am y goleuo, cyn mynd ati i osod y gwifrau
  2. asesu'r cyfarpar a chadarnhau ei fod yn addas i'w bwrpas ac yn ddiogel i'w ddefnyddio
  3. gofalu bod y cyfarpar yn bodloni'r gofynion o ran gwrthiant inswleiddio a llwytho
  4. gofalu bod y cyfarpar wedi'i ddiogelu'n drydanol, ei ddaearu a bod ganddyn nhw ffiws
  5. gwirio'r cyfarpar a'u gosodiad cyn eu defnyddio i ofalu bod yr elfennau trydanol yn ddiogel a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio 
  6. asesu a bodloni'r gofynion o ran yr ynni trydanol er mwyn gosod y cyfarpar
  7. asesu ynni trydanol a chydnawsedd y gwahanol fathau o falastau fflworoleuol y byddwch yn eu defnyddio 
  8. adnabod peryglon dichonol a hysbysu'r person sy'n gyfrifol amdanyn nhw
  9. canfod a thrwsio unrhyw namau gyda'r cyfarpar a'r gwaith gosod
  10. gosod gosodion a ffitiadau a gofalu eu bod yn bodloni'r gofynion o ran iechyd a diogelwch

troi’r cyfarpar ymlaen cyn eu defnyddio er mwyn gofalu eu bod yn bodloni gofynion y cynhyrchiad

  1. defnyddio holl osodion a ffitiadau ymarferol gan gynnwys goleuadau arbennig a gwifrau gan ofalu eu bod ar y gyfradd dylunio cywir
  2. defnyddio systemau gwifrau ar gyfer pob mathau o diwbiau fflworoleuol a neon
  3. adnabod a labelu unrhyw folteddau ansafonol
  4. defnyddio'r cyfarpar / gosod
  5. cyfarwyddo eraill ynghylch defnyddio unrhyw gyfarpar yn ddiogel

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol
  2. y safonau a'r codau ymarfer trydanol perthnasol a sut i'w gweithredu
  3. pwysigrwydd cynllunio weirin a systemau ymarferol i ddwyn i ystyriaeth graddoli a llwytho

  4. sut i neilltuo digon o gwmpas er mwyn medru addasu'r cyfarpar ymarferol wedi ichi eu gosod

  5. pwysigrwydd gwybod pa geblau a chysylltwyr sy'n addas ar gyfer y defnydd gofynnol 
  6. y gwahaniaethau rhwng gwifriad cyflin neu gyfres, sut i ddefnyddio ffiwsys, defnyddio torwyr cylchedau a phryd i ddefnyddio Dyfeisiau Cerrynt Gweddilliol (RCDs)  

sut i wirio bod cyfarpar yr adran celfi bwriadedig yn gydnaws gyda'r cyflenwad trydan sydd ar gael, ac y bydd yn gweithio fel y disgwylir iddo wneud

  1. pryd a sut i wirio cyfarpar a gosodiadau er mwyn cydymffurfio gyda rheoliadau
  2. sut i adnabod, cyn mynd ati i'w defnyddio, bod modd gofalu bod hen gyfarpar byddwch yn eu defnyddio'n cydymffurfio gyda'r safonau a'r codau ymarfer trydanol perthnasol
  3. goblygiadau cywiriad ffactor pŵer yn enwedig goleuadau fflworoleuol
  4. sut i osod a defnyddio goleuadau, gan ddefnyddio goleuadau fflworoleuol a systemau cychwyn

sut i ganfod a thrwsio unrhyw namau ar y cyfarpar a’r gosodiadau

  1. sut i ddefnyddio goleuadau arbennig e.e. neon, deuodau allyrru golau (LED), laser a systemau cychwyn
  2. sut i ddefnyddio folteddau eithriadol o isel hyd at 50V AC neu 110V DC
  3. sut i ddiogelu'r cysylltiad is-gylched
  4. sut i adfer cyfarpar i'w ffurf gwreiddiol wedi ichi eu defnyddio
  5. pwysigrwydd gofalu nad ydy'r gosodiad yn beryg i'r criw na'r perfformwyr
  6. sut i gyfarwyddo eraill ynghylch defnyddio'r cyfarpar yn ddiogel pan fydd perfformwyr neu bobl anghymwys yn ei weithredu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL10

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

goleuo; ymarferion; gofynion pŵer; namau; rheoliadau iechyd a diogelwch; cyflenwad trydan; gwifriad