Asesu a dewis gofynion goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu

URN: SKSL2
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a threfnu'r cyfarpar goleuo hanfodol ar gyfer y cynhyrchiad, dewis a nodi'r cyfarpar trydanol gan gontractwyr gan gynnwys cyfarpar (fel offer mynediad) a pheiriannau hanfodol eraill.

Mae'r safon hon hefyd yn ymdrîn â dyletswyddau diwedd y cynhyrchiad yn ymwneud â chyfarpar trydanol a gofalu fod y 'Best Boy' ac eraill yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r amserlen cynhyrchu a all effeithio ar ofynion yn ymwneud â'r cyfarpar trydanol.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo, 'Best Boys' a Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. pennu’r nifer a’r mathau o ddeunyddiau a chyfarpar trydanol fydd yn ofynnol ar gyfer y cynhyrchiad gan ofalu eu bod yn bodloni gofynion y gyllideb a'r lleoliad arfaethedig

nodi amserlen waith gan gynnwys terfynau amser a rhoi gwybod am y rhain i’r bobl berthnasolgal

  1. archebu'r deunyddiau a'r cyfarpar trydanol er mwyn gofalu eu bod yn cyrraedd y lleoliad yn unol â'r amserlen 
  2. gwirio bod y deunyddiau a'r cyfarpar trydanol sy'n cyrraedd y lleoliad yn bodloni gofynion y cynhyrchiad a'u bod yn unol â threfn dilyniant y cynhyrchiad
  3. adnabod a chofnodi problemau a rhannu'r manylion gyda'r bobl berthnasol
  4. rhoi gwybod i'r 'Best Boy' a'r bobl berthnasol am newidiadau i'r amserlen fel eu bod yn medru gofalu bod y cyfarpar trydanol yn ddigonol ar gyfer newidiadau o'r fath
  5. cadarnhau symud cyfarpar trydanol ar ddiwedd y cynhyrchiad
  6. gofalu caiff unrhyw gyfarpar gaiff ei dorri neu ei golli ei gofnodi a'ch bod yn hysbysu'r bobl berthnasol
  7. paratoi a chwblhau'r dogfennau terfynol ar y cynhyrchiad a'u cyflwyno i'r bobl berthnasol gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cwmpas, graddfa a gofynion y cynhyrchiad ynghyd â'r agweddau rydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw
  2. pwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cynhyrchiad
  3. pwysigrwydd paratoi amserlen mewn trefn ar gyfer y cynhyrchiad sy'n gofalu y caiff ei gwblhau'n effeithiol
  4. sut i bennu nifer, math a threfniadau cyflenwi deunyddiau a chyfarpar trydanol yn unol â gofynion y gyllideb
  5. pwysigrwydd cynnig cyfarwyddyd manwl am y cynhyrchiad a'i ofynion i'r 'Best Boy', y criw a'r contractwyr allanol
  6. y dogfennau angenrheidiol ar gyfer contractwyr cyfarpar goleuo, rheoli cost ac ar gyfer cofnodi problemau posib gydag amserlen y cynhyrchiad
  7. pwysigrwydd mynd i'r afael â phroblemau'n brydlon a gofyn am gytundeb cydweithwyr eraill am unrhyw amrywiadau
  8. pwysigrwydd cadw cofnodion
  9. sut i gadw cofnodion a pharatoi dogfennau terfynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL6

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

gofynion goleuo; gofynion y cynhyrchiad; lleoliad; cyfarpar trydanol; amserlen; cadw cofnodion