Cydlynu cyfathrebu yn ymwneud â goleuo’r cynhyrchiad

URN: SKSL12
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu a chydweithio gyda chydweithwyr fel y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a'r Cynorthwyydd Cyfarwyddo 1af cyn ac yn ystod y ffilmio. Mae hefyd yn ymdrin â thrafod a chytuno ar ofynion goleuo, rhannu'r rhain gyda'r tîm a chynnig datrysiadau cadarnhaol i broblemau a all godi yn ystod y ffilmio.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â mynychu cyfarfodydd er mwyn gofalu caiff gofynion trydanol eu cofnodi ac y caiff unrhyw newid a'u goblygiadau o ran goleuo eu hystyried.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trafod y gofynion goleuo a thrydanol gyda'r bobl berthnasol a'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth neu ddeiliaid swyddi tebyg cyn ac yn ystod ffilmio
  2. gofalu caiff eich swydd ei chyflawni gan y 'Best Boy' neu gydweithiwr wedi'i enwebu yn eich absenoldeb
  3. cynnig awgrymiadau cadarnhaol mewn trafodaeth ynglŷn â goleuo a thrydan gyda'r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ac eraill
  4. gofalu bod eich awgrymiadau'n ddichonol yn dechnegol ac yn cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch
  5. gofalu bod eich awgrymiadau chi'n bodloni gofynion y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ac o fewn y gyllideb goleuo. Hefyd gofalu bod cyfarpar ac arbenigedd trydanol ar gael ac wrth law er mwyn cyflawni awgrymiadau o'r fath 
  6. mynychu cyfarfodydd y cynhyrchiad er mwyn gofalu y caiff gofynion goleuo a thrydanol eu trafod a'u cytuno
  7. cofnodi penderfyniadau a gofalu y caiff unrhyw newidiadau i ofynion yr amserlen a'r cyfarpar eu rhannu gyda'r 'Best Boy' a'r cwmni cynhyrchu a goleuo.
  8. ymgynghori gyda'r tîm cynhyrchu ynghylch awgrymiadau i ddatrys problemau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. cwmpas, math a therfynau amser y cynhyrchiad
  2. gofynion goleuo a thrydanol y cynhyrchiad
  3. y dull creadigol gofynnol gan y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth neu ddeiliaid swyddi tebyg ar gyfer y cynhyrchiad
  4. mathau o ddatrysiadau i'w hawgrymu sy'n cyd-fynd â'r cyfarpar a'r arbenigedd gallwch fanteisio arnyn nhw
  5. pwysigrwydd cyfathrebu gydag eraill, fel y 'Best Boy', ynghylch newidiadau a deilliannau cyfarfodydd y cynhyrchiad
  6. pwysigrwydd trefnu bod rhywun i gyflawni'ch gwaith yn eich absenoldeb a gofalu bod y rheiny sy'n cyflawni'r cyfrifoldebau o'r fath yn ymwybodol o'r cyfyngiadau ynghlwm â'u cyfrifoldebau
  7. pwysigrwydd cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch
  8. pwysigrwydd cadw cofnodion
  9. buddion ymwneud gyda'r tîm cynhyrchu pan fyddwch yn trafod datrysiadau i broblemau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL15

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

gofynion goleuo; cyllideb; cyfathrebu ynghylch goleuo’r cynhyrchiad; gofynion trydanol; gofynion iechyd a diogelwch; amserlen; cadw cofnodion