Gosod, gweithredu a chanfod namau gyda generaduron trydanol

URN: SKSL11
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am weithredu'r generadur. Mae'n ymdrin â'r canlynol: paratoi generadur ar gyfer ffilmio ar leoliad, gosod ceblau dosrannu pŵer y generadur, cychwyn y generadur, monitro'r gosodiadau a'r dangosyddion a chydbwyso'r generadur fel ei fod yn wastad. Mae'r safon hefyd yn ymdrin ag adnabod y system cyflenwad trydan allanol a dadansoddi gosodiad y dosraniad trydanol.

Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin â sut i gysylltu gyda'r cyflenwad yn unol â safonau perthnasol, sut i gynnal asesiadau risg gweledol o amodau'r safle a'r gallu i gynnal ymchwiliad i ganfod namau.

Mae'r safon hon yn ymdrin â gwybodaeth am a gweithredu gan gydymffurfio gyda'r safonau trydanol a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo, sef BS7671 a BS7909.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Gweithredwyr Generaduron.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal gwiriadau ymlaen llaw ar y generaduron er mwyn gofalu caiff gofynion y lleoliad ac amserlen y cynhyrchiad eu bodloni

cynnal asesiad risg gweledol o amodau'r safle a gweithredu i leihau peryglon sydd wedi'u hadnabod

  1. gosod y generadur yn ddiogel yn unol ag is-ddeddfau  lleol a gofalu bod y generadur yn wastad pan fo'n briodol

adnabod unrhyw ofynion arbennig yn ymwneud â'r ceblau yn unol ag amodau'r ardal leol

  1. cadarnhau'r gofynion o ran dosrannu gyda'r person sy'n gyfrifol am oleuo a gofyn caniatâd pan fo angen ehangiad ar gyfer unrhyw drydydd parti   

cynnal profion cyn-egnioli ar y system dosrannu ceblau o ran polaredd a daearu yn unol â'r rhifyn diweddaraf o'r safonau trydanol a’r codau ymarfer sydd wedi’u cymeradwyo 

  1. cychwyn y generadur gan ofalu bod y gosodiadau a'r systemau'n gweithio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, cyn egnioli'r trydan
  2. gosod ac addasu amledd a foltedd y cyflenwad ar gyfer y cynhyrchiad penodol
  3. monitro'r generadur drwy gydol yr amser rydych yn ei ddefnyddio o ran ei gydwedd, cydbwysedd a llwytho, gweithredu a lefelau tanwydd a hylif
  4. cofnodi amser gweithredu'r generadur, gofynion gwasanaeth a milltiroedd y cerbydau ar gyfer eich cofnodion
  5. monitro gweithrediad y generadur bob amser er mwyn atal unrhyw namau  
  6. cynnal asesiad o ymarferion gwaith diogel
  7. cynnal gwiriadau ar y generadur er mwyn adnabod y nam a'r gweithrediad gofynnol
  8. asesu a ydy'r nam ar y generadur yn un trydanol, mecanyddol, electronig neu allanol ac oes modd ichi ei drwsio'n ddiogel
  9. cofnodi manylion clir ac eglur am y namau ar y systemau a'r cyfarpar a rhoi gwybod i'r person perthnasol
  10. cynnal profion a gwiriadau ar y prif systemau a phrofi gwrthiant foltedd ac ynysiad yn unol â rheoliadau iechyd a diogelwch 
  11. dilyn y gweithdrefnau cyfundrefnol pan fyddwch yn trwsio namau llinell gyntaf, gan gynnwys defnyddio’r
    offer, cyfarpar a deunyddiau priodol 

gwasanaethu a chynnal a chadw'r generadur yn rheolaidd gan ddefnyddio’r rhannau, yr offer a’r dulliau trwsio cywir

  1. cynnal gwiriadau prif lwythi a gwiriadau rheoli cerbydau eraill pan fyddwch wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r generadur

gwirio’r gofynion a’r amserlen ar gyfer mynd ati i ddad-rigio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd gwiriadau cyn ac ar ôl ichi ddefnyddio'r generadur

pwysigrwydd gofalu bod yr eitemau priodol ar gael fel ireidiau, batris, ffanbeltiau neu beltiau gyriant, a modd o fanteisio ar y tanwydd/hylif i'w ddefnyddio'n barhaus yn ystod y saethiadau ar leoliad 

  1. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ymwneud â gweithredu generadur
  2. sut i leihau peryglon iechyd a diogelwch posib ichi ac eraill
  3. sut i adnabod unrhyw drafferthion diogelwch a pheryglon ar y safle a all effeithio ar le fyddwch chi'n gosod y generadur a'r ceblau 
  4. sut i gyfrifo cerrynt llwythau gydag amryw lwythau, yn rai adweitheddol a gwrtheddol a gwybod llwyth uchaf is-gylchedau a blychau dosrannu
  5. sut i asesu gofynion daearu'r generadur pan mai'r generadur ydy'r unig ffynhonnell pŵer a phan gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â ffynonellau eraill
  6. pryd i baratoi ar gyfer unrhyw fondio ceblau daear ychwanegol ac a oes angen derbyn unrhyw ganiatâd arbennig 

sut i weithredu’r generadur , gan gynnwys mewn lleoliad gwastad, er mwyn sicrhau nad yw’r allyriadau o’r egsost yn effeithio ar yr amgylchedd

  1. sut i adnabod y cyflenwad trydan allanol a, lle'n briodol, cynnig uned newid, a'u goblygiadau ar y ffilmio

egwyddorion gweithredu amryw o eneraduron, y buddion a’r problemau ynghlwm â nhw

  1. goblygiadau i gyfarpar goleuo a defnyddwyr pan fo colli llwyth neu sefyllfa debyg yn digwydd

  2. yr effaith ar generaduron a'r cyfarpar pan fo sefyllfaoedd o orlwytho

  3. sut i wirio am broblemau trydanol a mecanyddol yn systemau'r generaduron
  4. gofynion y safonau diogelwch a chodau ymarfer trydanol

sut i adnabod problemau dichonol gyda systemau llywodraethu generaduron a rheolyddion foltedd awtomatig, y berthynas rhwng cyflymder ac amledd y peiriant a sut i ddatrys problemau yn y systemau

  1. y dulliau diogel ar gyfer defnyddio a chael gwared ar ddifwynwyr a llygrwyr yn ôl polisïau a gweithdrefnau amgylcheddol y mudiad

y ddeddf gyfredol a’r ymrwymiadau  yswiriant o ran rheolau'n ymwneud â dad-rigio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL13

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

generaduron; canfod nam; defnyddio generaduron; dad-rigio; asesiad risg; gofynion y lleoliad; gwasanaethu a chynnal a chadw; gofynion daearu; safonau diogelwch trydanol; codau ymarfer