Cychwyn a diffodd generaduron trydan

URN: SKSL10
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â meddu ar wybodaeth sylfaenol am generaduron trydan a medru cyflawni'r dasg sylfaenol o gychwyn generadur.

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chyflawni tasgau syml eraill ar y generadur trydan un ai o dan oruchwyliaeth uniongyrchol neu o dan gyfarwyddyd prif weithredwr y generadur.

Mae'r safon yn ymdrin â gwybodaeth am a defnyddio safonau trydanol a chodau ymarfer, sef BS7671 a BS7909.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Technegwyr Goleuo a Giaffars.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau fod y generadur wedi'i osod yn ddiogel
  2. gofalu bod y generadur yn lefel pan fo'n briodol gwneud hynny
  3. cynnal profion cyn-cychwyn ar y system dosrannu ceblau o ran polaredd a daearu yn unol â'r rhifyn diweddaraf o'r safonau diogelwch trydan a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo
  4. cychwyn y generadur a gofalu bod y gosodiadau a systemau'n gweithredu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn egnioli'r trydan
  5. monitro'r generadur tra'r ydych yn ei ddefnyddio o ran ei weithrediad, cydbwysedd, llwytho a lefelau tanwydd a hylif
  6. cydnabod cyn gynted â phosib pan fo'r generadur yn ymddangos yn wallus h.y. dirgrynu, straen a mwg
  7. dilyn y gweithdrefnau diogelwch perthnasol i ddiffodd y generadur yn ddiogel ac effeithlon
  8. monitro holl ddefnyddwyr y generadur o ran llwytho ac ymarferion diogelwch
  9. gofalu fod yr holl gyfarpar a'r offer yn ddiogel i'w defnyddio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. deddfwriaeth iechyd a diogelwch, safonau diogelwch trydan a chodau ymarfer wedi'u cymeradwyo yn ymwneud â defnyddio'r generaduron

sut i gychwyn a diffodd y generadur ynghyd â'i fonitro tra mae o’n rhedeg 

  1. pwysigrwydd monitro ar gyfer peryglon dichonol
  2. pwysigrwydd defnyddio'r generadur ar wyneb gwastad a gwirio lefelau tanwydd y generadur yn ddyddiol 
  3. llwyth uchaf is-gylchedau a blychau dosrannu
  4. sut i adnabod a chywiro peryglon yn ymwneud â'r system ceblau
  5. sut i wirio fod yr holl gyfarpar dosrannu pŵer rydych yn ei ddefnyddio'n gweithio'n iawn
  6. y ddeddfwriaeth amgylcheddol sy'n effeithio ar y defnydd o generaduron a sut rydych yn eu storio
  7. pwysigrwydd monitro holl ddefnyddwyr y generadur
  8. pwysigrwydd gofalu bod yr holl offer a'r cyfarpar yn ddiogel er mwyn eu defnyddio'n barhaus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSL9

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

generaduron; generaduron trydanol; cychwyn; diffodd; safonau diogelwch trydanol; codau ymarfer; gweithdrefnau diogelwch; dosrannu pŵer