Cynnal ymchwil a chasglu gwybodaeth ar gyfer cynnwys golygyddol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chynnal ymchwil ar gyfer cynnwys golygyddol. Gall hyn ymwneud â holl wahanol ffurfiau golygyddol.
Mae'n ymwneud â gofalu eich bod yn deall diben yr ymchwil yn gyfan gwbl a sut caiff ei ddefnyddio.
Mae'n ymdrin â manteisio ar neu ymwneud ag ystod eang o ffynonellau a medru cwestiynu data neu gwestiynu unigolion er mwyn casglu gwybodaeth berthnasol ac arwyddocaol i'r pwnc gaiff ei archwilio.
Mae'n ymdrin â chynnig barnau ystyriol ynghylch dibynadwyedd ffynonellau a chywirdeb y wybodaeth.
Mae'n ymwneud â deall materion hawlfraint ynghyd â chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cynnal gwaith ymchwil er mwyn datblygu cynnwys golygyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod meysydd ymchwil i'w ymchwilio ac sy'n berthnasol i'r cyfarwyddyd cynnwys golygyddol
- adnabod ffynonellau dichonol o wybodaeth a chyngor dibynadwy pan fo angen gwybodaeth arbenigol
- cytuno ar y defnydd o ffynonellau arbenigol gyda'r bobl berthnasol a threfnu caiff cytundebau eu cyflwyno lle'n briodol
- ymwneud â ffynonellau perthnasol mewn ffordd sy'n fwyaf tebygol o ennyn y wybodaeth angenrheidiol
- cynnal cofnodion a nodiadau cyfweliadau cywir a chynhwysfawr o'r ymchwil sydd wedi'i gynnal
- gofalu eich bod yn diweddaru cronfeydd data cysylltiadau
- cadw'r holl wybodaeth yn ymwneud â ffynonellau a'r ymchwil mewn ffordd ddiogel yn unol â phrotocolau cyfundrefnol wedi'u cytuno
- llunio cwestiynau a defnyddio technegau priodol i fanteisio ar wybodaeth ar gyfer y cyfarwyddyd ymchwil
- casglu gwybodaeth gan ystod o wahanol ffynonellau er mwyn barnu ei werth a dibynadwyedd
- gwirio bod yr wybodaeth yn ddilys, cywir ac yn addas i'w ddiben
- asesu'r holl wybodaeth o ran ei berthnasedd i'r cynnwys golygyddol cyn dewis y deunydd fydd yn cyflawni'r cyfarwyddyd ymchwil orau
- derbyn cyngor priodol am unrhyw feysydd dadleuol o ran y gyfraith a phryderon yn ymwneud â gwireddiad
- casglu gwybodaeth yn ymwneud â graddfeydd amser sydd wedi'u cytuno, cyfyngiadau'r gyllideb a gofynion dan gytundeb
- cyflwyno nodiadau cyfarwyddo trefnus a chryno am eich ymchwil ar ffurf briodol ar gyfer y defnyddiwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben yr ymchwil a natur y cynnwys golygyddol mae'n berthnasol iddo
- y graddfeydd amser, terfynau amser a chyfyngiadau adnoddau ar gyfer y gwaith ymchwil yn ymwneud â llunio cynnwys golygyddol
- sut i ddefnyddio dadansoddeg data a dehongli tueddiadau cyfryngau cymdeithasol
- sut i rannu cynnig yn dasgau ymchwil ymarferol
- ffynonellau gwybodaeth dichonol gan gynnwys pobl, cyhoeddiadau a chronfeydd data
- sut i gysylltu gyda phobl i ennyn gwybodaeth
- pwysigrwydd cadw nodiadau ymchwil eglur, cynhwysfawr, cywir a chyfredol
- y gofynion cyfreithiol a phrotocolau cyfundrefnol perthnasol ar gyfer cadw gwybodaeth yn ymwneud ag ymchwil a ffynonellau
- yr ystyriaethau masnachol, cyfreithiol a moesegol sy'n berthnasol wrth gysylltu gyda ffynonellau a pha drefniadau cytundebol sy'n berthnasol i ffynonellau arbenigol
- sut i werthuso gwybodaeth o ran perthnasedd, dibynadwyedd a chywirdeb a sut i wirio am ac adnabod anghysondebau ac anghysonderau
- sut i gynnal ymchwil effeithiol ar y we gan ddefnyddio peiriannau chwilio arbenigol a chyfryngau cymdeithasol
- yr angen i wirio ffynonellau a phwy ddylech gyfeirio atyn nhw a sut
- y peryglon cyfreithiol, gwall ffeithiol a thor-codau ymddygiad dichonol ynghlwm â defnyddio ffynonellau oddi ar y we
- gwerth ffynonellau cyfryngau cymdeithasol ynghyd â'r cyfyngiadau a pheryglon ynghlwm a'i ddefnyddio
- yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol perthnasol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth ar gyfer cynnwys golygyddol
- unrhyw gyfyngiadau ac amodau ynghlwm â defnyddio gwybodaeth a goblygiadau defnyddio deunyddiau o dan hawlfraint ar gyfer cynnwys golygyddol