Meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol

URN: SKSJ6
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol aml-lwyfan a defnyddio technegau meddwl yn greadigol ac adrodd straeon, ynghyd â dealltwriaeth o'r cyd-destun neu'r farchnad ar gyfer eich syniadau. Mae'n ymwneud â deall y gofynion golygyddol gwahanol lwyfannau a ffurfiau ac adnabod ffactorau sydd wedi cyfrannu tuag at lwyddiannau neu fethiannau yn y gorffennol. 

Mae'r safon hefyd yn ymwneud â defnyddio dulliau ymchwilio priodol, manteisio ar ffynonellau dibynadwy o wybodaeth, a chadarnhau bod cynigion yn ddichonadwy o fewn cyfyngiadau cyllidebau.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n meddwl am a datblygu syniadau ar gyfer cynnwys newyddiadurol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy er mwyn cadarnhau gofynion cynnwys aml-lwyfan a natur y gynulleidfa targed
  2. meddwl am a datblygu syniadau creadigol ar gyfer cynnwys golygyddol gyda'r dichonolrwydd i fodloni gofynion cynhyrchu neu raglennu ac apelio i gynulleidfaoedd targed ar hyd yr holl lwyfannau perthnasol
  3. defnyddio dulliau ymchwil i fodloni gofynion cynhyrchu sy'n cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyfreithiol a moesegol perthnasol
  4. trafod a phrofi syniadau cychwynnol gyda phobl berthnasol eraill er mwyn datblygu cynigion wedi'u hystyried ar gyfer cynnwys golygyddol
  5. datblygu syniadau cynnwys golygyddol mewn manylder digonol er mwyn cadarnhau bod modd eu gwireddu gan ystyried bod yr adnoddau, cyllideb a graddfa amser ar gael
  6. asesu llwyddiant tebygol syniadau gan fwrw golwg ar ddadansoddiad o lwyddiant neu fethiant cynnwys golygyddol yn y gorffennol
  7. gwirio ffynonellau sydd ar gael ac y mae modd manteisio arnyn nhw i gadarnhau gwreiddioldeb syniadau
  8. adnabod cyfleoedd ar gyfer darlunio er mwyn llunio cynnwys amlgyfrwng rhyngweithiol a dichonol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y llwyfan, cynnyrch neu gyhoeddiad y mae'r syniad o ran cynnwys yn ymwneud â nhw, ei gynulleidfaoedd targed a disgwyliadau'r gwneuthurwyr penderfyniadau o ran comisiynu 
  2. priodweddau a blaenoriaethau'r cynulleidfaoedd bwriadedig ac apêl debygol eich syniad iddyn nhw
  3. sut i roi technegau meddwl yn greadigol ac adrodd straeon ar waith er mwyn meddwl am syniadau o ran cynnwys
  4. sut i adnabod a manteisio ar ffynonellau o syniadau dichonol, gan gynnwys eich profiad eich hun, cysylltiadau personol, sgyrsiau personol, ymchwil arbenigol a'r holl ffurfiau o gyfryngau
  5. sut i gydweithio gydag eraill a pham ei fod yn bwysig gwneud hynny
  6. sut i ddatblygu syniadau cychwynnol i fod yn gynigion hydrin, y cwestiynau i'w gofyn ac a oes angen unrhyw wybodaeth bellach
  7. sut i ddefnyddio ffeithluniau, data a lluniau i egluro'r stori
  8. unrhyw broblemau dichonol yn ymwneud â pholisïau cyfreithiol, rheoleiddiol neu olygyddol a sut dylid mynd i'r afael â nhw
  9. sut i adnabod yr hynny wnaeth sicrhau bod syniadau cynnwys golygyddol blaenorol yn llwyddiannus
  10. sut i adnabod ffynonellau o wybodaeth arbenigol berthnasol gan gynnwys dadansoddeg data
  11. sut mae modd datblygu syniadau ar draws amryw lwyfannau gan ddefnyddio ffeithluniau, data, lluniau a dulliau eraill er mwyn creu cynnwys rhyngweithiol aml-lwyfan

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ7

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Cynnwys, Aml-gyfryngau, Aml-lwyfan, Newyddiaduriaeth