Cyfrannu tuag at greadigrwydd ac arloesedd yn ymwneud â newyddiaduriaeth
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â dadansoddi rhan creadigrwydd ac arloesedd wrth ymwneud â newyddiaduriaeth – a dangos sut gallwch gyfrannu tuag ato.
Mae gofyn ichi fod yn ymwybodol o sut i feddwl yn greadigol, cydweithio gydag eraill a goresgyn rhwystrau yn ymwneud â chreadigrwydd ac arloesedd.
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'r egwyddor bod creadigrwydd ac arloesedd yn sylfaenol er mwyn cynnal gwaith newyddiaduriaeth ar yr holl lwyfannau. Maen nhw'n berthnasol i weithrediadau golygyddol a thechnegol – o ran ymchwilio, ysgrifennu, golygu a dylunio.
Mae'r Safon hefyd yn amlygu sut mae disgwyl i newyddiadurwyr fod yn greadigol o ran technegau cychwynnol – adnabod eu posibiliadau o ran llunio a dosbarthu cynnwys golygyddol a hefyd y cyfleoedd masnachol posib.
Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio yn y maes newyddiaduriaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod y posibiliadau o ran creadigrwydd ac arloesedd gan y technolegau cyfredol a chychwynnol
- datblygu cynnwys golygyddol sy'n ymwneud â chysyniadau dyluniad, brand, ffurf a strwythur.,
- defnyddio technegau meddwl yn greadigol gyda chi'ch hun ac eraill sy'n annog cynhyrchu syniadau ac arloesedd. Cyflwyno eich syniadau mewn modd darbwyllol ac ymateb yn adeiladol i syniadau eraill.
- rhannu gwybodaeth ac ymarfer da gydag eraill ar adegau priodol
- cydweithio gydag unigolion eraill gyda sgiliau creadigol ar adegau priodol er mwyn cynhyrchu cynnwys golygyddol ac er mwyn defnyddio technolegau newydd a chychwynnol
- asesu eich arfer fel newyddiadurwr a rhoi'r hynny rydych yn ei ddysgu o brofiad ar waith yn barhaus
- adnabod ffyrdd ymarferol o oresgyn y rhwystrau yn ymwneud â chreadigedd ac arloesedd yn eich mudiad
- hysbysu'r bobl briodol pan fyddwch yn adnabod rhwystrau yn ymwneud â chreadigrwydd neu arloesedd a sut mae modd eu goresgyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl creadigrwydd, meddwl yn greadigol ac arloesedd o ran meddwl am syniadau, adrodd straeon a dosbarthu cynnwys golygyddol ar yr holl lwyfannau
- cysyniadau dylunio a brandio, ffurf a strwythur a'u perthnasedd o ran llunio cynnwys golygyddol yn amryw sectorau cyfryngau Prydain
- y cyfleoedd a chyfyngiadau creadigol o ran ffurfiau presennol ac sy'n dod i'r amlwg o ran dosbarthu rhwng amryw lwyfannau
- y posibiliadau creadigol ynghlwm â'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio cymdeithasol
- dichonolrwydd creadigol data a'r adnoddau sydd ar gael er mwyn hwyluso'i ddefnydd ar gyfer llunio cynnwys golygyddol
- damcaniaeth a gweithredu amryw o dechnegau er mwyn ysgogi syniadau, meddwl yn greadigol ac arloesedd
- egwyddorion sylfaenol cynhyrchu syniadau ac adrodd straeon a sut i'w defnyddio i lunio cynnwys golygyddol effeithiol
- buddion cydweithio a rhannu gwybodaeth er mwyn cynhyrchu syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol a dosbarthu
- prosesau creadigol eich mudiad
- sut i adnabod a herio rhwystrau yn ymwneud â chreadigrwydd ac arloesedd a sut i ddysgu o'ch camgymeriadau
- pam ei fod yn bwysig ichi fod yn agored i syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio