Cydymffurfio gyda chodau ymarfer, rheoliadau a safonau wrth weithio yn y maes newyddiaduriaeth

URN: SKSJ4
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda'r fframwaith rheoleiddiol sy'n llywodraethu ymarfer newyddiaduriaeth yn y DU er mwyn bodloni safonau ymddygiad moesegol.

Mae'n ymdrin â gwybod a pharchu cynnwys codau ymddygiad a chanllawiau cyfundrefnol cyflogwyr sydd â'r bwriad o ofalu eich bod yn cydymffurfio gyda neu'n rhagori ar y fframwaith rheoleiddiol. 

Mae gofyn ichi ddeall bod methu â chyflawni'r safonau proffesiynol uchel hyn yn peryglu credadwyaeth pob mudiad a chynnwys ac yn tanseilio'r ymddiriedaeth sy'n elfen hanfodol o berthnasau cynulleidfaoedd gyda newyddiadurwyr a holl ddarparwyr cynnwys eraill.

Mae'r Safon yn berthnasol i bawb sy'n gweithio yn y maes newyddiaduriaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydymffurfio gyda gofynion rheoleiddio perthnasol a chodau ymddygiad y diwydiant pob amser
  2. gofalu bod unrhyw gynnwys newyddion rydych yn ei lunio yn ddiduedd ac yn gywir
  3. gofalu eich bod yn trin unigolion a mudiadau yn deg yn y cynnwys a chynnyrch rydych ynghlwm â nhw
  4. cydymffurfio gyda chodau a chanllawiau i dderbyn unrhyw ganiatâd priodol gan y rheiny sy'n cyfrannu at gynnwys. Gofalu hefyd eich bod yn medru cyfiawnhau cynnwys unrhyw ddeunydd mae'n bosib y bydd yn pechu rhai aelodau'r gynulleidfa o ran cyd-destun
  5. derbyn caniatâd priodol ar gyfer unrhyw weithred gohebu lladradaidd neu gudd, tresmasu neu ysbïwriaeth gyda dogfennau 

  6. ymateb i gwynion yn unol â goblygiadau cyfreithiol perthnasol a chod ymddygiad eich mudiad

  7. cadw nodiadau cywir, eglur a chynhwysfawr yn ymwneud â deunydd ymchwil neu gyfweliadau ar gyfer y cyfnod penodol yng nghod ymddygiad neu ganllawiau'r cyflogwr
  8. datgan unrhyw wrthdaro buddiannau dichonol o ran y maes pwnc rydych yn ymdrin ag o yn unol â chodau ymddygiad neu ganllawiau 
  9. gofyn am gyngor pobl cymwys a phrofiadol wrth ymdrin ag unrhyw fater moesegol rydych yn ansicr yn eu cylch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. dyletswydd rheoleiddwyr gan gynnwys Ofcom a Chod Darlledu Ofcom sy'n berthnasol i newyddiadurwyr darlledu a Chod Ymarfer y Golygydd, IPSO ac Impress ar gyfer newyddiadurwyr argraffiadau/ar-lein 
  2. codau ymddygiad, canllawiau cynnwys a rhaglenni a gweithdrefnau cwynion mewnol eich cyflogwr
  3. materion cydraddoldeb ac amrywioldeb yn ymwneud â newyddiaduriaeth a sut i asesu effaith cynnwys a chynnyrch eraill arnyn nhw
  4. yr ystyriaethau wrth asesu deunydd ar-lein gan ffynonellau ar y we na chaiff eu rheoleiddio
  5. peryglon a buddion gohebu dirgel o ddeunydd, gan gynnwys pryd i a phryd i beidio datgan eich gweithgareddau gohebu – er dibenion newyddiadurol neu adloniant 
  6. pryd mae'n ganiataol amharu ar breifatrwydd unigolyn er lles y cyhoedd a lles cenedlaethol
  7. sut i benderfynu dylech chi gyfweld a phwy i'w cyfweld a phryd mae hi'n briodol ichi ildio
  8. codau a chanllawiau cynnwys cyfundrefnol sy'n ymwneud â deunydd gall bechu pobl  
  9. pryd mae'n briodol ichi holi am gyngor golygyddol neu gyfreithiol – a sut i'w dderbyn yn eich mudiad neu'n annibynnol
  10. sut i asesu gwrthdaro buddiannau dichonol a pham na ddylech chi ddefnyddio gwybodaeth gyfrinachol rydych chi wedi ei hennill wrth eich gwaith er budd eich buddiannau chi neu fuddiannau preifat eich  partneriaid
  11. pryd a sut i drafod gweithredoedd terfysgol, protestiadau sifil neu anhrefn cyhoeddus a phryd ddylech chi roi'r gorau i'w trafod
  12. p'run ai ydy eich gohebu yn gwaethygu sefyllfa neu'n dwysáu cyflwr dinasyddion, ac os felly, sut mae modd cyfiawnhau hyn
  13. pryd a sut ddylech chi gynnig cymorth dyngarol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ4

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Codau, Ymddygiad, Canllawiau, Cyfreithiol, Cyngor