Rhwydweithio a chyfathrebu gyda chysylltiadau allanol

URN: SKSJ26
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu ystod eang o gysylltiadau fel newyddiadurwr.

Gall cysylltiadau eich hysbysu am gyfleoedd, cynnig gwybodaeth gefndirol, eich helpu i ddatblygu syniadau a gwirio cywirdeb gwybodaeth.

Mae'n ymwneud ag ymdrin ag ystod eang o bobl, gan gynnwys pobl rydych yn cysylltu gyda nhw'n rheolaidd a'r rheiny y mae angen ichi gysylltu gyda nhw ar gyfer tasg benodol. Mae'n ymwneud â deall polisi eich mudiad ynghylch ymdrin â dulliau pobl dydych chi heb gysylltu gyda nhw – a gofalu eich bod yn taro cydbwysedd cywir rhwng cwrteisi ac effeithlondeb. Mae hefyd yn ymwneud â mynd i'r afael ag ymholiadau a chwynion ac ymateb yn briodol.

Bydd hefyd angen ichi wybod a deall sut mae deddfau a rheoliadau diogelu data cyfredol yn effeithio'r wybodaeth gallwch ei chadw ynglŷn â chysylltiadau.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio fel newyddiadurwr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a sefydlu cysylltiadau gyda phobl sy'n berthnasol, neu'n berthnasol yn ddichonol i'ch gwaith ac i'r gofynion ar gyfer tasgau penodol
  2. cadw gwybodaeth cysylltiadau yn gyflawn, yn ddiweddar ac yn unol gyda'r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol
  3. cynnig mynediad priodol i gydweithwyr fanteisio ar wybodaeth cysylltiadau yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data cyfredol 
  4. cysylltu gyda'ch cysylltiadau ar adegau priodol er mwyn derbyn yr wybodaeth berthnasol
  5. gofalu bod y cysylltiadau rydych yn eu sefydlu yn ymdrin â'r ystod briodol o wybodaeth a safbwyntiau
  6. defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau priodol i wirio cariodd ac uniondeb eich cysylltiadau, a gwerth y wybodaeth maen nhw'n ei gynnig
  7. gwneud trefniadau ar gyfer cyfarfodydd posib yn y dyfodol gyda chysylltiadau ar adegau priodol
  8. ymateb i bobl annisgwyl yn cysylltu gyda chi ar unwaith
  9. llunio cofnodion cyflawn a chywir o'r rhesymau dros gysylltiadau annisgwyl a manylion perthnasol eraill
  10. cadw manylion cyswllt a gwybodaeth yn gyfrinachol pan fo cysylltiadau yn gofyn ichi wneud hynny
  11. cyflawni camau priodol i ofalu eich bod yn ddiogel ar-lein wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
  12. cyfathrebu gyda chysylltiadau a phobl eraill yn unol â'r ddeddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol yn ymwneud â diogelu data cyfrinachedd unigol
  13. ymdrin â chysylltiadau mewn ffordd effeithlon a chwrtais sy'n bodloni polisi eich mudiad
  14. cyfeirio trafferthion gyda chysylltiadau na allwch chi eu datrys neu sydd du hwnt i gyfyngiadau eich awdurdod at y bobl briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion eich mudiad, ar gyfer tasgau penodol
  2. y gwahanol resymau pam y bydd pobl yn cysylltu gyda chi, a pholisi eich mudiad ynghylch ymdrin â nhw, gan gynnwys ymholiadau, cwynion a chynigion o wybodaeth ar a ddim ar gofnod
  3. yr ystod o gysylltiadau sy'n berthnasol i'ch gwaith newyddiadurol a sut i ymchwilio gwybodaeth am gysylltiadau dichonol
  4. sut mae deddfau diogelu data a rheoliadau cyfredol yn llywodraethu pa wybodaeth am unigolion gellir ei gadw, a sut gallwch ei ddefnyddio
  5. yr wybodaeth ofynnol i'w feddiannu a'i gadw ynghylch cysylltiadau, gan gynnwys eu henw, manylion cyswllt a rheswm dros eu cynnwys
  6. sut i ddiogelu ffynonellau a chysylltiadau
  7. sut i wirio credadwyedd ac uniondeb eich cysylltiadau, ynghyd â pherthnasedd a chylchrediad yr wybodaeth maen nhw'n ei gyflwyno
  8. sut i ymdrin ag a mynd i'r afael â chysylltiadau er mwyn ichi fanteisio i'r eithaf arnyn nhw
  9. ffyrdd effeithiol o ymdrin â chysylltiadau a phobl eraill sy'n gwrtais, cyfeillgar, ymosodol neu frwnt eu tafod
  10. gwahanol ddulliau i'w defnyddio er mwyn cynnal perthnasau gwaith effeithiol gyda chysylltiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb
  11. y risgiau ynghlwm â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a faint o wybodaeth ddylech chi ei ddatgan ar-lein
  12. y gefnogaeth sydd ar gael ichi gan eich mudiad
  13. gweithdrefn cwynion eich mudiad
  14. y gofynion cyfreithiol a chodau diwydiant sy'n berthnasol i gysylltiadau a'r cyhoedd cyffredinol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ26

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Rhwydwaith, Cyfathrebu, Cysylltiadau, Newyddiaduriaeth