Cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol

URN: SKSJ25
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol i gynhyrchwyr, golygwyr neu gomisiynwyr mewn ffordd sy'n broffesiynol a darbwyllol. Mae'n ymwneud â thrafod prif elfennau eich cyflwyniad yn eglur a'r hyn sy'n gofalu bod eich syniad yn wahanol ac yn arbennig.

Mae'n ymwneud â chyflwyno'r wybodaeth gefndirol angenrheidiol am ymarferoldeb llunio cynnwys, cynhyrchu ac amcan realistig o gostau.

Mae'n ymwneud â dwyn i ystyriaeth cyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol ynghyd â chodau ymarfer cyfredol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cyflwyno syniadau ar gyfer cynnwys golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. llunio achosion neu gyflwyniadau ar gyfer cynnwys golygyddol sy'n gymhellol, cryno a rhesymegol
  2. cynnig gwybodaeth gefndirol gywir a pherthnasol ynghyd ag amcanion realistig o gostau
  3. i gefnogi cynigion, gofalu bod y syniadau'n cydymffurfio gyda chyfyngiadau cyfreithiol a hawlfraint berthnasol ynghyd â chodau ymarfer cyfredol
  4. cyflwyno'ch cynigion ar ffurf briodol
  5. gofalu bod y cyflwyniad o syniadau neu sgriptiau yn adnabod elfennau'r cynnwys i'w lunio mewn ffordd eglur a chywir
  6. gofalu bod cynigion yn bodloni'r cyfyngiadau o ran amser a chyllideb
  7. cynnig digon o amser i wneuthurwyr penderfyniadau i ofyn cwestiynau a gofyn am ragor o wybodaeth
  8. addasu neu ddiwygio eich cynnig yn sgil derbyn adborth a derbyn beirniadaeth mewn ffordd gadarnhaol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gwybodaeth am y gynulleidfa a marchnad ddichonol, arddull golygyddol, dull a ffurf
  2. sut i ddangos bod y syniad neu sgript yn wreiddiol ac yn bodloni gofynion cynnwys golygyddol
  3. sut i gynnig cyflwyniadau cymhellol, cryno a rhesymegol i wahanol dderbynwyr
  4. sut i adnabod a pharatoi gwybodaeth gefndirol berthnasol
  5. sut i amcan costau llunio cynnwys a chynhyrchu
  6. sut caiff syniadau eu gwireddu mewn gwahanol amgylcheddau
  7. cost a goblygiadau technegol a logistaidd rhoi syniadau ar waith
  8. y gofynion o ran hyd, arddull, cynulleidfa a braced cost cynnwys
  9. y prif ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar y defnydd o wybodaeth
  10. y cyfyngiadau hawlfraint perthnasol
  11. agweddau perthnasol codau ymarfer newyddiadurol cyfredol
  12. sut i baratoi ar gyfer cwestiynau gan wneuthurwyr penderfyniadau
  13. sut i ddiwygio cynigion ar sail adborth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ25

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Cyflwyno, Cynnwys, Newyddiaduriaeth