Gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol

URN: SKSJ24
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol a chyfrannu tuag at adolygiadau prosiect a chynnig a derbyn adborth adeiladol.

Mae'n ymwneud â deall y meini prawf ar gyfer llwyddiant gaiff eu defnyddio i farnu cynnwys golygyddol, a dysgu o'r broses adolygu. 

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n gwerthuso llwyddiant cynnwys golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso cynnwys golygyddol yn erbyn meini prawf sefydlog ar gyfer llwyddiant
  2. gofalu bod y rhesymau dros eich barnau yn eglur a chyfiawnadwy
  3. defnyddio data mesurol ac ansoddol er mwyn helpu gyda'r broses adolygu
  4. trefnu adolygu cynnwys golygyddol i'w gyflawni yn defnyddio dulliau sy'n annog trafodaeth blaen ac agored
  5. cyfrannu tuag at adolygiadau ar adegau priodol
  6. cynnig adborth i eraill ynghylch eu cyfraniad sy'n briodol i'r cyd-destun ac sy'n cynnal eu cymhelliad i gyfrannu tuag at gynnyrch y mudiad
  7. sefydlu a chymryd rhan mewn prosesau adolygu ar gyfer cynnwys golygyddol sy'n cynnig gwybodaeth gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwella yn y dyfodol
  8. defnyddio gwybodaeth rydych wedi ei dysgu o adolygiadau sy'n gwella perfformiad ac yn osgoi ail-adrodd camgymeriadau mewn gwaith yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gynulleidfa a'r gofynion golygyddol y dylid eu hystyried wrth asesu unrhyw gynnwys golygyddol
  2. sut i ddatblygu meini prawf er mwyn barnu llwyddiant cynnwys golygyddol
  3. dulliau cynnig adborth – a sut i gynnig a  derbyn adborth adeiladol
  4. sut i adnabod data mesurol perthnasol ynghylch cynulleidfaoedd, marchnata a gwerthiannau
  5. technegau ar gyfer trefnu trafodaeth ar adborth sy'n annog mynegi barn yn blaen ac yn agored
  6. pryd mae hi'n briodol i gyfrannu a sut i fynegi barn mewn ffordd adeiladol heb bechu neu ddigalonni eraill
  7. ffynonellau o adborth ansoddol gan gynulleidfaoedd, hysbysebwyr neu rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n berthnasol i'r cynnwys golygyddol
  8. sut i fanteisio ar a dosbarthu gwybodaeth a gafwyd o adolygiadau ar gynnwys golygyddol
  9. cyfreithiau, rheoliadau diwydiant a chanllawiau golygyddol cyfundrefnol perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ24

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Cynnwys, Gwerthuso, Adolygiadau, Newyddiaduriaeth