Defnyddio a datblygu’r llais ar gyfer cyflwyno a gohebu

URN: SKSJ23
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio a datblygu'r llais fel adnodd allweddol cyflwynwyr sain a gweledol.

Mae'n ymwneud â deall sut mae'r llais dynol yn gweithio, sut i ofalu amdano a sut i'w ddefnyddio'n effeithiol er dibenion sain a gweledol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n cyflwyno neu ohebu ar gyfer radio, rhaglenni sain neu deledu, gan gynnwys y rheiny sy'n cyflawni gwaith cynhyrchu ac yn cynhyrchu cyflwynwyr neu ohebwyr a gweithwyr lle mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno neu ohebu eu hunain o bryd i'w gilydd fel rhan o'u dyletswydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli anadl wrth gyflwyno fel eich bod yn anadlu ar adegau priodol, bod eich anadl yn anymwthgar a bod eich llais yn llifo'n rhydd
  2. mabwysiadu ystum rhwydd, cytbwys a diogel ar gyfer darllen a siarad
  3. mabwysiadu tôn llais ac arddull cyflwyno sy'n briodol i'r pwnc dan sylw, ffurf y rhaglen, amser o'r dydd a chynulleidfa targed ar gyfer y cyflwyniad radio, sain neu deledu
  4. ynganu geiriau yn eglur a chryf gan amrywio'r cyflymder, traw, uchder, pŵer a thymer wrth gyflwyno'r bwriad i'r gwrandawyr
  5. darllen yn uchel gyda sicrwydd ac eglurder
  6. addasu'r cyflwyniad i gyd-fynd gyda'r amgylchedd acwstig, y math o ddarllediad a chyfarpar recordio rydych yn eu defnyddio
  7. cwblhau tasgau yn brydlon gan fodloni gofynion cynhyrchu eraill hefyd
  8. gofalu, pan fyddwch yn cyflwyno o flaen camera, nad ydych chi'n symud eich corff mewn ffordd ymwthiol, ac eich bod yn wynebu'r camera'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ofalu bod eich ystum yn rhwydd, cytbwys a diogel a'r buddion ynghlwm â hynny
  2. y berthynas rhwng anadlu a chynhyrchu'r llais
  3. sut i reoli eich anadl yn effeithiol wrth siarad ar gyfer cyflwyniadau radio a sain
  4. sut i ddatblygu deheurwydd lleisiol, fel rheoli cyflymder, cymryd saib, geiriad, goslef, tôn a thymer, i ddal sylw
  5. effeithiau gwahanol donau ac arddull cyflwyno a'u heffaith ar wrandawyr cyflwyniadau radio a sain 
  6. sut i ofalu am y llais a gofalu ei fod yn iach. Sut i gydnabod yr arwyddion yn eich rhybuddio bod problemau neu ddifrod a sut i'w rheoli
  7. arwyddocâd arddull a chyflwyniad y llais yn gysylltiedig â'r broses recordio ac yn ymwneud â meicroffonau, yr amgylchedd acwstig a lleoliad
  8. sut i addasu'r llais ar gyfer gwahanol amgylcheddau acwstig a'r gwahanol fathau o ddarlledu a chyfarpar recordio ar gyfer rhaglenni radio a sain
  9. amseru a gofynion cynhyrchu eraill yn ymwneud â'r darllediad penodol
  10. yr effaith ar y gynulleidfa a defnydd priodol o iaith y corff a'ch ystum wrth gyflwyno o flaen camera

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ23

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Gweledol, Cyflwyno, Stiwdio