Ymchwilio a dadansoddi cynulleidfaoedd yn ymwneud â newyddiaduriaeth

URN: SKSJ2
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio ymchwil a dadansoddi cynulleidfaoedd i ddenu aelodau cynulleidfaoedd i'r gwaith newyddiaduriaeth rydych ynghlwm ag o.

Mae'n ymwneud â deall ffigyrau cynulleidfaoedd ac ymchwil marchnad ynghyd â lle i ddod o hyd i wybodaeth o'r fath a sut i'w dehongli, gan gynnwys defnyddio technegau dadansoddeg data ac optimeiddio peiriant chwilio (SEO).

Mae hefyd yn ymwneud ag adnabod gwahanol frandiau ac arddulliau o newyddiaduriaeth ac adnabod y gynulleidfa briodol ar gyfer cynnwys golygyddol penodol ac amlgyfrwng perthnasol - a deall dichonolrwydd gwahanol lwyfannau dosbarthu.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r holl bobl hynny sy'n gorfod mynd ati i ddefnyddio ymchwil cynulleidfaoedd fel rhan o'u gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​ystyried gofynion eich cynulleidfa yn ystod holl gamau'r broses llunio cynnwys
  2. defnyddio ffynonellau data cynulleidfaoedd a dadansoddeg data perthnasol a dibynadwy yn eich gwaith 
  3. cynnal gwaith dadansoddi a dehongli sylfaenol sy'n dwyn i ystyriaeth cryfderau a chyfyngiadau ffigyrau cynulleidfaoedd a data ymchwil
  4. defnyddio data ymchwil cynulleidfaoedd gan ffynonellau dibynadwy i adnabod cynulleidfaoedd targed ar gyfer brandiau, sianeli neu gynnwys penodol  
  5. disgrifio priodweddau eich cynulleidfa darged mewn arddulliau priodol 
  6. datblygu, brandiau, arddull, cynnwys golygyddol a dewisiadau o lwyfannau dosbarthu sy'n defnyddio gwybodaeth ymchwil ar gynulleidfaoedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​egwyddorion, cryfderau a chyfyngiadau technegau ymchwil defnyddwyr a chynulleidfaoedd
  2. sut mae modd defnyddio dadansoddeg data i adnabod tueddiadau ac ymgysylltu â'r gynulleidfa
  3. egwyddorion sylfaenol demograffig a segmentu'r farchnad, gan gynnwys adnabod grwpiau cynulleidfaoedd neu ddefnyddwyr penodol gyda phriodweddau ar y cyd
  4. y systemau metrig i fesur ymgysylltu â'r gynulleidfa gan gynnwys cyfaint, cyflymder ac amrywiaeth
  5. y gynulleidfa darged bresennol neu ddichonol ar gyfer y farchnad benodol rydych yn gweithio ynddi
  6. cymhelliant, agweddau ac ymddygiadau eich cynulleidfa targed
  7. sut a pham fod cynnwys golygyddol penodol a'i fodd dosbarthu wedi'u bwriadu i apelio at wahanol gynulleidfaoedd targed
  8. sut caiff gwybodaeth defnyddwyr a chynulleidfaoedd ei chasglu a sut i'w dehongli a'i defnyddio yn eich gwaith
  9. ffynonellau allweddol gwybodaeth am ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd wrth gasglu data
  10. ffynonellau gwybodaeth mewnol ac allanol ynghylch farchnadoedd, cynulleidfaoedd, digwyddiadau a thueddiadau
  11. lle daw traffig chwilio a thechnegau optimeiddio peiriant chwilio (SEO)

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ2

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Newyddiaduriaeth, Ymchwil, Data, Cynulleidfa, Brandiau