Caffael deunydd cynnwys ar gyfer defnydd golygyddol

URN: SKSJ17
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dewis cynnwys ar gyfer ei gyhoeddi ar unrhyw lwyfan, er mwyn bodloni meini prawf penodol. Mae'n ymwneud â chaffael dogfennau a lluniau, sain a fideo gan ffynonellau fel llyfrgelloedd ac archifau mewnol ac allanol, asiantaethau'r wasg a mudiadau eraill, ynghyd â'r defnydd o gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC).

Mae hefyd yn ymwneud â derbyn caniatâd i ddefnyddio deunydd a gofalu caiff ei olygu pan fo angen, ei recordio a'i gadw'n gywir yn unol â gweithdrefnau archifo cyfundrefnol.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n dod i feddiant cynnwys ar gyfer defnydd golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. dewis deunydd i fodloni cyfarwyddyd y cynnwys ac o fewn y cyfyngiadau o ran amser a chyllideb
  2. gwirio bod y deunydd rydych yn ei dderbyn yn cydymffurfio gyda gofynion y mudiad a'i lwyfannau dosbarthu
  3. adnabod costau, cyfyngiadau, hawlfraint ac unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol eraill ynghylch defnyddio'r deunydd a derbyn caniatâd i'w ddefnyddio pan fo'n briodol
  4. rhoi gwybod i wneuthurwyr penderfyniadau am gostau, cyfyngiadau ac unrhyw orfodaethau cyfreithiol ar ddeunydd penodol
  5. cadarnhau unrhyw gytundebau trwyddedu yn ysgrifenedig yn unol â gweithdrefnau cymeradwy

  6. paratoi gwaith papur ategol cywir gyda manylion llawn yr holl ddeunydd i'w drosglwyddo

  7. cydnabod ffynonellau yn unol â pholisi golygyddol
  8. trafod gyda thechnegwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau perthnasol er mwyn datrys unrhyw broblemau fydd yn codi
  9. asesu ansawdd y cynnwys rydych yn ei dderbyn gan ystyried y gofynion golygyddol
  10. golygu neu adolygu'r deunydd yn unol â gweithdrefnau eich mudiad, gan ofalu caiff uniondeb y cynnwys ei gynnal
  11. gwirio nad ydy'r cynnwys yn torri cyfreithiau a chanllawiau cyfredol cyn ei ddefnyddio neu ei archifo
  12. gwirio bod y deunydd yn ddilys, cywir ac yn addas i'w bwrpas
  13. cadarnhau eich bod wedi holi am ac wedi derbyn rhyddhad a chaniatâd pan fo'i angen
  14. cofnodi awdurdod dros ddefnyddio'r deunydd ar draws aml-lwyfannau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
  15. cadw'r deunydd yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
  16. cadw cofnodion cywir o'r deunydd rydych wedi ei ddefnyddio, ynghyd â manylion am olygu'r deunydd a hawlfraint.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystyriaethau cyfreithiol a moesegol sy'n effeithio ar y deunydd o ddeunydd cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC) ar yr holl lwyfannau
  2. rheoliadau, canllawiau a chodau ymddygiad o ran y Cyfryngau gan gynnwys y rheiny sy'n berthnasol i ddiogelu data
  3. protocolau a systemau cyfundrefnol yn berthnasol i anfon a derbyn deunydd gall gael ei ystyried yn ddadleuol neu gyfrinachol
  4. y prosesau i'w rhoi ar waith wrth recordio a lawr lwytho cynnwys o ddyfais recordio
  5. hawliau masnachol a mathau o gyfraith hawlfraint yn ymwneud â defnyddio deunydd, yn y DU a gweddill y byd, yn dibynnu ar ble mae'r person sy'n meddu ar yr hawliau'n byw
  6. gweithdrefnau ar gyfer trwyddedu a gofalu eich bod yn meddu ar ganiatâd ynghyd â beth ddylid ymdrin ag o yn yr amodau a'r  telerau

sut gall defnyddio deunydd o ac mewn gwahanol wledydd gael ei effeithio gan reoliadau hawlfraint a chyfreithiau cyfrinachedd

  1. y polisi golygyddol ar gydnabod ffynonellau a thaliadau
  2. pwysigrwydd cyflwyno metadata technegol a disgrifiadol cywir, gan gynnwys gwybodaeth am bwy ddylid eu cydnabod am y cynnwys
  3. systemau a gweithdrefnau eich mudiad ar gyfer archifo cynnwys, o ran metadata technegol, catalogio a geiriad allweddol
  4. sut gaiff y cynnwys wedi'i archifo ei ddiogelu a'i gadw, yn unol â'r cyfrwng a ffurf, ac sy'n bodloni gofynion archifol y busnes neu fudiad
  5. pam ei fod yn bwysig dosbarthu a chofnodi symud deunydd
  6. y lefelau mynediad at a’r defnydd sy’n briodol i’r cynnwys ar gadw, gan gynnwys cyfyngiadau masnachol, cyfreithiol a llywodraethol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ17

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Cynnwys, Golygyddol, Sain, Gweledol, Newyddiaduriaeth