Recordio deunydd sain a fideo er defnydd newyddiadurol

URN: SKSJ16
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â recordio deunydd sain a fideo effeithiol, mewn stiwdio neu ar leoliad i'w ddefnyddio ar wahanol lwyfannau.

Gall y cynnyrch terfynol amrywio o fod yn ddeunydd hyrwyddo a marchnata i newyddiaduriaeth fideo.

Mae hyn yn ymwneud â pharatoi ar gyfer recordiad a dewis a defnyddio'r cyfarpar a'r technegau recordio cywir, i recordio sain a fideo o amrywiaeth o ffynonellau, ar y ffurf gywir ac i'r ansawdd a safon ofynnol.

Mae'n ymwneud ag adnabod diffygion a methiannau mewn cyfarpar a delio â nhw.   

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n creu deunydd sain a fideo.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio eich bod wedi derbyn cyfarwyddyd cyflawn ynghylch y dasg neu stori ynghyd ag unrhyw ofynion o ran recordio
  2. asesu lleoliad o ran ei addasrwydd a mynd ati i drefnu lleihau'r problemau yn ymwneud â synau ymwthiol ac annisgwyl neu ymyriadau gweledol fel sy'n briodol
  3. gwirio cyfarpar i ofalu ei fod yn gweithio'n ddigonol
  4. dewis meicroffonau priodol ar gyfer yr amodau penodol, neu ganiatáu priodweddau penodol meicroffonau unigol wrth recordio
  5. gwirio lefelau recordio a monitro mewnbynnau er mwyn gofalu fod uchder y sain yn briodol
  6. gwirio gosodiadau'r camera, cynnal gwiriad 'cydbwysedd gwyn' cyn mynd ati i recordio a monitro lefelau sain
  7. recordio deunydd ar y cyfrwng a ffurf briodol
  8. adnabod, a delio â, methiannnau a diffygion mewn cyfarpar yn ddi-oed
  9. dewis yn ofalus beth fyddwch chi’n ei recordio gan ystyried faint o’r deunydd gwreiddiol y byddwch yn ei recordio gaiff ei ddefnyddio yn y cynnyrch terfynol
  10. sicrhau eich bod yn meddu ar y deunydd priodol a fydd yn gwneud y broses olygu mor rhwydd â phosibl, gan ystyried unrhyw broblemau all godi yn ystod y broses recordio
  11. cywiro neu gofnodi unrhyw ddiffygion yn y sain, ansawdd y llun neu fethiannau yn y system neu drafferthion mecanyddol heb unrhyw oedi
  12. rhoi enw ar, labelu, cadw a storio deunyddiau sain a gweledol yn unol â'r protocolau priodol
  13. gofalu nad ydy eich gweithrediadau ddim yn achosi unrhyw beryglon diogelwch i eraill
  14. cwblhau'r gwaith recordio deunydd ymhen y graddfeydd amser penodol

  15. ffeilio eich deunydd o'r lleoliad yn unol â'r gofynion ar gyfer y llwyfannau y mae wedi'i fwriadu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. arddull yr asiant comisiynu, rhaglen neu sianel a'r  chynulleidfaoedd targed ar gyfer y deunydd
  2. y cyfarwyddyd golygyddol ar gyfer y recordiad, manylion hanfodol y stori ac amser a hyd bwriadedig y darllediad
  3. egwyddorion sylfaenol sain, llun, goleuadau ac acwsteg
  4. y prif gyfyngiadau wrth recordio deunydd sain a gweledol
  5. priodweddau gweithredu recordwyr cludadwy a chyfarpar recordio'r stiwdio, a cyfyngiadau'r cyfarpar sydd ar gael i chi

  6. y gwahaniaeth rhwng rheoli lefel yn awtomatig ac â llaw a'u goblygiadau mewn gwahanol sefyllfaoedd

  7. sut i brofi a gwirio cyfarpar
  8. sut i adnabod problemau gyda chyfarpar recordio a beth i'w wneud i'w cywiro
  9. priodweddau acwstig unrhyw stiwdio neu leoliad byddwch chi'n ei ddefnyddio
  10. y problemau ynghlwm â lefelau golau, sŵn gwynt, synau annisgwyl a sŵn amgylchol ar leoliad
  11. goblygiadau recordio deunydd i'w olygu neu recordio ar gyfer ei ddarlledu fel ei fod yn fyw
  12. y math ac amrywiaeth o ddeunydd sydd angen ichi ei recordio er mwyn hwyluso'r broses olygu
  13. y protocolau perthnasol ar gyfer rhoi enw ar, labelu a chadw deunydd sain a gweledol
  14. sut i ffeilio'ch deunydd o'r lleoliad yn ôl i'ch stiwdio, gan gynnwys anfon sain a llun byw a gofynion y llwyfannau rydych yn ffeilio ar eu cyfer

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ16

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Sain, Gweledol, Newyddiaduriaeth