Llunio deunydd testun ar gyfer defnydd aml-lwyfan
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â llunio deunydd testun i'w ddefnyddio ar gyfer ystod o lwyfannau cyfryngau.
Gall hyn ymwneud ag ysgrifennu cynnwys golygyddol i'w ddarllen ar dudalen wedi'i hargraffu, ar-lein neu i'w gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae angen ymdrin ag iaith, cynnwys ac arddull amrywiol er mwyn gweddu i'r llwyfan neu gyfrwng cyflwyno rydych yn ysgrifennu ar ei gyfer a'r gynulleidfa targed.
Mae'n ymwneud â deall y llwyfan neu gyfrwng, ei safonau a diben y testun.
Mae hefyd yn ymwneud â sefydlu a gweithio tuag at ddyddiadau cau gan ofalu eich bod yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a chanllawiau cyfundrefnol perthnasol.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n llunio deunydd ar gyfer defnydd aml-lwyfan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ysgrifennu mewn arddull sy'n briodol i gynulleidfa targed y cynnwys golygyddol.
- cynnal arddull cyson mewn testunau a rhwng testunau perthnasol
- cydymffurfio gyda safonau ysgrifennu perthnasol, canllawiau arddull a pholisïau cyfundrefnol
- strwythuro cynnwys testun fel ei fod yn hawdd ei ddarllen a bwrw golwg trwyddo
- cynhyrchu penawdau neu ddisgrifiadau priodol i gyd-fynd gydag asedau gweledol, sain, clipiau fideo a chynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC)
- cynnig geiriad eglur, cyson a hawdd ei ddeall ar gyfer unrhyw hyperddolen
- defnyddio technegau optimeiddio peiriannau chwilio yn eich gwaith ysgrifennu ar adegau priodol
- prawf ddarllen eich deunydd ar adegau priodol gan gywiro unrhyw wallau sillafu, gramadeg, teipograffeg a gwallau eraill
- gwirio bod gwybodaeth y deunydd testun yn gywir
- gofalu bod cynnwys y deunydd testun yn cydymffurfio gyda chyfreithiau perthnasol, rheoliadau'r diwydiant a chanllawiau cyfundrefnol
- cyflwyno deunydd testun o hyd wedi'i gytuno ac erbyn y dyddiadau cau
- rhoi gwybod i gydweithwyr perthnasol ar unwaith os byddwch yn wynebu unrhyw drafferthion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y safonau a'r cyfyngiadau, y posibiliadau a'r cyfleoedd perthnasol wedi'u cyflwyno gan y cyfrwng targed neu lwyfan ar gyfer cyfathrebu gyda deunydd testun
- sut i egluro diben deunydd testun, y llwyfan neu aml-lwyfannau i'w ddosbarthu a'r cynulleidfaoedd targed ar gyfer y cynnwys
- yr egwyddorion o ran gramadeg, atalnodi a sillafu a'r cyfarpar a dulliau ar gyfer gwirio'r rhain
- pwysigrwydd iaith, cynnwys ac arddull amrywiol er mwyn ymwneud gyda gwahanol gynulleidfaoedd targed
- sut i adrodd stori, cyflwyno dadleuon, crynhoi gwybodaeth gymhleth ac adnabod a chyflwyno pwyntiau allweddol drwy ddeunydd ysgrifennu wedi'i strwythuro'n effeithiol
- y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a sylwadau
- sut i strwythuro deunydd a chynnwys testun yn effeithiol ar gyfer y cynulleidfaoedd targed a safonau'r cyfrwng cyflwyno
- sut i ysgrifennu a strwythuro testun ar gyfer cyfrwng aflinol
- sut i optimeiddio peiriannau chwilio yn enwedig drwy ddefnyddio geiriau allweddol wrth ddefnyddio'r deunydd testun ar gyfer llwyfannau ar-lein
- argaeledd asedau eraill fel asedau gweledol, clipiau sain neu fideo neu gynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC) er mwyn ategu'r deunydd testun
- cyfraith, rheoliadau diwydiant a chanllawiau cyfundrefnol perthnasol
- graddfeydd amser, dyddiadau cau a'r cyfanswm o destun gofynnol ar gyfer defnydd aml-lwyfan * *
Cwmpas/ystod