Ysgrifennu nodiadau llaw-fer ar gyfer trawsgrifiadau

URN: SKSJ11
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â defnyddio llaw-fer a sut i lunio trawsgrifiadau detholus ynghyd â thrawsgrifiadau gair am air.

Mae sawl cyflogwr, yn enwedig yn y sector argraffu, yn ystyried y gallu i lunio a thrawsgrifio nodiadau llaw-fer yn hanfodol – yn enwedig mewn llysoedd, cyfarfodydd, areithiau, cyfweliadau, cynadleddau i'r wasg, digwyddiadau lansio cynnyrch, neu seremonïau gwobrwyo.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n llunio ac yn defnyddio nodiadau llaw-fer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. llunio nodiadau llaw-fer cywir a darllenadwy o'r holl wybodaeth angenrheidiol
  2. llunio'r nodiadau ar y cyflymder angenrheidiol er mwyn dal i fyny gyda'r lleferydd gaiff ei gofnodi ac er mwyn bodloni gofynion cyfundrefnol
  3. gwirio sillafu enwau priod ar adegau priodol
  4. labelu nodiadau gyda manylion eglur a chywir o'r digwyddiadau a gweithrediadau rydych yn eu cofnodi
  5. llunio trawsgrifiad cywir o'r deunydd angenrheidiol
  6. cydnabod unrhyw broblemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o'r nodiadau a'r trawsgrifiad ohonynt

  7. cytuno gyda chydweithwyr perthnasol ar sut i fynd i'r afael â nodiadau sy'n achosi problemau cyfreithiol neu foesegol

  8. cynnwys deunydd wedi'i drawsgrifio yn eich darnau ysgrifenedig eich hun neu ddarnau eich cydweithwyr mewn mannau priodol
  9. dyddio a chadw nodiadau llaw-fer yn unol â gofynion eich mudiad
  10. cyflwyno llyfrau nodiadau llaw-fer heb oedi pan fo angen dangos cywirdeb cofnodion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion golygyddol y mudiad neu frand cyfryngau, yn nhermau cynnwys a thriniaeth a pherthnasedd hyn ar gyfer llunio nodiadau
  2. sut i benderfynu pa ddeunydd i'w gofnodi mewn llaw-fer
  3. sut i farnu gwerth golygyddol nodiadau a'u gallu i fodloni gofynion y gynulleidfa targed
  4. rheolau sillafu, gramadeg ac atalnodi a defnydd eglur o'r iaith
  5. lle i wirio geirfa rydych yn anghyfarwydd â hi

  6. yr eirfa, arddull a ffurf y stori sy'n briodol i arddull y mudiad a'r gynulleidfa targed

  7. damcaniaeth ac ymarfer system nodiadau llaw-fer gaiff ei gydnabod yn genedlaethol
  8. y problemau cyfreithiol a moesegol sy'n debygol o godi o ddilyn yr wybodaeth gaiff ei chasglu, neu gyhoeddi deunydd sy’n seiliedig arno

  9. y problemau diogelu data ynghlwm  â chadw gwybodaeth


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ11

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Llaw-fer, Nodiadau, Trawsgrifio,Trawsgrifiad, Newyddiaduriaeth