Adnabod, paratoi a chynnal cyfweliadau

URN: SKSJ10
Sectorau Busnes (Suites): Newyddiaduriaeth
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â pharatoi ar gyfer a chynnal cyfweliadau. Mae'n ymwneud â deall natur a diben amryw fathau o gyfweliadau y mae newyddiadurwyr yn eu cynnal a'r gwaith paratoi sydd ynghlwm cyn pob cyfweliad.

Mae'n ymdrin ag adnabod cyfweledigion priodol, gwirio'u manylion a ffeithiau cefndirol.

Mae'n ymwneud â chynllunio cwestiynau a chyfarwyddo cyfweledigion yn gywir.  

Mae'r Safon hon hefyd yn ymwneud â chynnal amryw fathau o gyfweliadau o dan wahanol amodau, gan ddefnyddio arddulliau cyfweld addas ac ymateb yn briodol i ymateb y rheiny caiff eu cyfweld.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i bawb sy'n adnabod, paratoi a chyfweld ar gyfer cynnwys golygyddol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod diben a chanolbwynt pob eitem neu gynhyrchiad rydych yn gweithio arnyn nhw
  2. adnabod a chysylltu gyda phobl briodol i'w cyfweld, gan ddwyn i ystyriaeth yr angen am gydbwysedd a chymysgedd o safbwyntiau lle'n briodol
  3. gwirio ffeithiau cefndirol a manylion personol er mwyn cadarnhau perthnasedd ac awdurdod cyfweledigion cyn cychwyn y cyfweliadau  
  4. cynnig gwybodaeth eglur a chywir i gyfweledigion ynghylch y cwestiynu dichonol a'r cyfraniad disgwyliedig ganddyn nhw
  5. mabwysiadu arddull cyfweliad sy'n ymddangos yn ddigymell, sy'n addas i'ch amcanion ac yn annog yr ymatebion angenrheidiol gan bob person rydych yn eu cyfweld
  6. gwrando ar ymatebion cyfweledigion a chynnig cwestiynau priodol wedi derbyn eu hatebion
  7. cynnig eglurhad i gynulleidfaoedd ar adegau priodol ynghylch gwybodaeth dybiedig gan gyfweledigion ac ynghylch unrhyw dermau neu ymadroddion arbenigol gaiff eu defnyddio 
  8. dod â chyfweliadau i ben pan fo angen gydag effaith golygyddol priodol
  9. cyflwyno cyfweledigion i gynulleidfaoedd ar adegau priodol a gofalu caiff safbwyntiau cyfweledigion eu hadlewyrchu mewn ffordd deg a chywir  pan gaiff cyfweliadau eu golygu cyn eu darlledu
  10. gofalu caiff unrhyw ffurflenni rhyddhau a chaniatâd eu llofnodi gan bobl berthnasol
  11. cyfarwyddo aelodau perthnasol o dimau cynhyrchu a thechnegol gyda'r wybodaeth mae ei hangen arnyn nhw bob amser
  12. gweithio gan gadw at y cyfyngiadau o ran adnoddau a'r gyllideb
  13. derbyn caniatâd gan gyfweledigion ddefnyddio'r cynnwys ar draws aml-lwyfannau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben y cyfweliad
  2. y gwahanol ofynion ar gyfer y gwahanol fathau o gyfweliadau gan gynnwys cyfweliadau byw, wedi'u recordio, mewn stiwdio neu mewn lleoliad arall   
  3. y cyfarwyddyd sydd wedi'i gytuno'n eglur ar gyfer pob cyfweliad, a'r cynulleidfaoedd targed
  4. sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac adnabod cyfweledigion
  5. y terfyn amser ar gyfer cyfweliadau wedi'u recordio a'r hiciau ar yr awyr ar gyfer cyfweliadau wedi'u cwblhau a'u golygu
  6. hunaniaethau a lleoliadau cyfweledigion unigol
  7. y cyllidebau ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer pob cyfweliad
  8. pryd i ddefnyddio ffurflenni rhyddhau a chaniatâd priodol, pwy sydd eu hangen nhw a phryd a pham ddylid gwarchod hunaniaeth pobl rydych yn eu cyfweld
  9. y gwahaniaethau rhwng cynnal cyfweliadau wedi'u cynllunio a rhai digymell
  10. yr arddull cyfweld cywir ar gyfer y gwahanol fathau o gyfweliadau a gwahanol ofynion eitemau, gorsafoedd, rhaglenni a chynyrchiadau
  11. sut i baratoi cwestiynau sy'n annog atebion rhesymegol, dadlennol, croyw neu ddifyr a defnydd cwestiynau agored a chaeedig 
  12. sut i wirio bod cyfweledigion yn deall yr hynny rydych yn ei ddisgwyl ganddyn nhw
  13. pwysigrwydd cynnal cyswllt llygaid a defnyddio iaith y corff priodol wrth gynnal cyfweliadau wyneb-yn-wyneb  
  14. y codau gwisg perthnasol ar gyfer gwahanol achlysuron a lleoliadau
  15. sut i ddod â chyfweliadau i ben yn naturiol a thaclus
  16. gweithdrefnau ar gyfer derbyn caniatâd gan gyfweledigion i ddefnyddio'r cynnwys ar aml-lwyfannau
  17. sut i ymdrin ag asiantaethau a chynrychiolwyr Cysylltiadau Cyhoeddus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSJ10

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau

Cod SOC

2471

Geiriau Allweddol

Cyfweliadau, Cyfweledigion, Cwestiynu, Newyddiaduriaeth