Dylunio allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM8
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dylunio cynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol yn nodweddiadol mewn ymateb i gysyniad safon uchel. Dydy'r safon hon ddim yn berthnasol i ddylunio gemau gan fod Safon arall yn ymdrin â hynny. Bydd angen ichi fanteisio ar eich creadigrwydd a'ch syniadau arloesol er mwyn 'amlygu'r manylion' fel bod modd i eraill, fel artistiaid, modelwyr a rhaglenwyr, lunio eich dyluniadau.

Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein. Gallai prosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Dydy sgiliau celf fel sgiliau tynnu lluniau a modelu 3D yn ogystal â sgiliau rhaglennu a sgriptio ddim yn hanfodol ond fe allan nhw fod yn ddymunol ar gyfer rolau dylunio.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â dylunio cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol ac eithrio gemau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi gwybodaeth y prosiect er mwyn pennu'r paramedrau dylunio perthnasol
  2. dylunio cynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol sy'n sicrhau'r hygyrchedd a'r profiad gorau posib i'r defnyddwyr
  3. cynhyrchu ac ailadrodd dyluniadau sy'n manteisio i'r eithaf ar lwyfannau targed a'r technolegau sydd ar gael sydd ar gyfer y diben arfaethedig a'r gynulleidfa targed
  4. llunio dyluniadau sy'n fodd i gyfryngau rhyngweithiol atynnu defnyddwyr targed
  5. dogfennu manylebau a dyluniadau eglur a chryno ar ffurfiau priodol
  6. cyfathrebu gyda chydweithwyr sydd ynghlwm â'r prosesau marchnata, creadigol, datblygu a sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau bod modd cynhyrchu'r dyluniadau
  7. llunio prototeip o syniadau dylunio a datblygu proflenni cysyniad sy'n cynnig darlun manwl gywir o'r cynnyrch a'r gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol
  8. cynnig arweiniad ar gyfer profion defnyddwyr a'r profion gwallau sy'n ddealladwy i'r rheiny sydd ynghlwm
  9. defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr a data perthnasol eraill i lywio penderfyniadau'n ymwneud â dylunio
  10. sicrhau bod y gofynion, disgwyliadau a'r adborth gan gomisiynwyr, cydweithwyr, defnyddwyr a'r rheoleiddwyr yn gytbwys
  11. cyflwyno gwybodaeth ddigonol am y cynnyrch a'r gwasanaethau i randdeiliaid mewnol ac allanol priodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gaffael gwybodaeth am amcanion, paramedrau a chyfyngiadau'r prosiect gan gynnwys y gynulleidfa targed, y safle arfaethedig yn y farchnad a llwyfannau targed, eu galluoedd a'r hen arferion sy'n gysylltiedig â'u defnydd 
  2. effaith paramedrau technegol y llwyfannau targed ar ddylunio gan gynnwys pŵer prosesu, cof, lled band, maint sgrin, eglurdeb, dyfnder lliw a'r rhyngwyneb defnyddiwr materol
  3. galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real a chywirdeb, ystod a graddfeydd y rhyddid a'r dulliau mewnbynnu ar gyfer technoleg olrhain
  4. y technegau ar gyfer deall y gynulleidfa targed a'u disgwyliadau a'u dewisiadau gan gynnwys deallusrwydd emosiynol, cynnwys priodol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran, materion diwylliannol a synwyrusrwydd lleol
  5. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg a seicoleg ymddygiad ar ddyluniadau
  6. cysyniadau rhyngwyneb dylunio sy'n gysylltiedig â rhyngwynebau defnyddwyr graffigol a materol a thechnegau ar gyfer dysgu defnyddwyr sut i ddefnyddio cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol
  7. yr egwyddorion a'r fethodoleg berthnasol sydd ynghlwm â pheirianneg meddalwedd
  8. ffurfiau ar gyfer dogfennu manylebau a dyluniadau gan gynnwys testun, lluniau, byrddau stori, mapiau neu ddiagramau
  9. y lefel o fanylder sy'n ofynnol i bobl eraill allu rhoi'r manylebau ar waith
  10. beth sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr a phrofion gwallau a sut i'w arsylwi
  11. sut i gasglu, gwerthuso a defnyddio canlyniadau'r profion defnyddwyr, adborth gan eraill a'r wybodaeth am y disgwyliadau a'r gofynion
  12. gwasanaethau trydydd parti ar-lein y gellir eu hymgorffori neu eu defnyddio fel rhan o'r gemau neu i'w ategu nhw
  13. materion eiddo deallusol a'r deddfwriaethau perthnasol eraill ynghyd â sut allan nhw amrywio rhwng gwahanol wledydd
  14. sut i gaffael y wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion datblygu, llwyfannau, modelau masnachol a dulliau cyflawni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM8

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; cynnyrch; prototeip; dylunio; llunio; modelu 3D; rhaglennu; sgriptio