Rheoli’r Hawliau Eiddo Deallusol

URN: SKSIM4
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli hawliau eiddo deallusol. Mae'n ymwneud â gwarchod a manteisio ar eich hawliau eiddo deallusol chi neu'r mudiad a derbyn caniatâd i fanteisio'n gyfreithiol ar eiddo deallusol wedi'i greu gan eraill.

Gallai hyn fod yn berthnasol i hawliau o ran asedau cydrannau unigol neu hawliau o ran cynnyrch cyflawn ac fe allai ymwneud â hawlfraint, hawliau dosbarthu, defnyddio breintlythyrau, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol eraill.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â rheoli hawliau eiddo deallusol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dilyn prosesau ffurfiol er mwyn mynnu hawliau eiddo deallusol ar eich rhan chi neu ar ran eich mudiad
  2. datblygu a chytuno ar strategaethau manteisio ar hawliau sy'n sicrhau'r mwyaf o gyllid â phosib i'ch mudiad
  3. cytuno ar strategaethau a safleoedd trin a thrafod gyda'ch cydweithwyr
  4. trin a thrafod gydag eraill i drwyddedu'ch eiddo deallusol iddyn nhw a chynnal cofnodion ysgrifenedig manwl gywir o gytundebau
  5. adnabod eiddo deallusol sy'n addas i fanteisio arno gan gynnwys dewisiadau amgen pan fo hi'n rhy anodd manteisio ar y dewisiadau gwreiddiol neu pan fo nhw'n ddrud
  6. trin a thrafod gydag eraill i gaffael trwyddedau i ddefnyddio'u heiddo deallusol a chaffael cytundebau ysgrifenedig
  7. cyfrifo gwerth marchnad teg am hawliau eiddo deallusol rydych chi'n dymuno eu trwyddedu gan neu i eraill
  8. cyfathrebu gyda chydweithwyr neu arbenigwyr allanol er mwyn sicrhau bod y cytundebau'n cydymffurfio gyda'r fframweithiau cyfreithiol a moesegol a'u bod o werth masnachol i'ch mudiad
  9. cytuno ar berchnogaeth, naws a graddau'r holl hawliau o ran y cynnyrch gyda phartïon eraill sydd â diddordeb ynddyn nhw
  10. sicrhau bod holl agweddau'r hawliau eiddo deallusol wedi'u datrys cyn bwrw iddi gyda'r gwaith
  11. sicrhau bod yr asedau rydych chi wedi caffael trwyddedau i'w defnyddio nhw wedi'u caffael ar ffurf briodol
  12. sicrhau y caiff yr eiddo deallusol ei fanteisio arno yn unol â'r goblygiadau cyfreithiol a statudol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gwahanol fathau o hawliau eiddo deallusol a sut mae modd eu diogelu gan gynnwys hawlfraint, hawliau dosbarthu, defnydd o freintlythyrau, nodau masnach neu hawliau eiddo deallusol eraill
  2. y costau a'r telerau cyfyngiadau ar gyfer y gwahanol fathau o eiddo deallusol gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig gyda thaliadau parhaus
  3. pryd a sut i fynnu hawliau eiddo deallusol
  4. agweddau allweddol o gyfraith eiddo deallusol y
    Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol
  5. lle gallwch chi ganfod gwybodaeth am ddiogelu hawliau eiddo deallusol mewn awdurdodaethau penodol y tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol 
  6. y trwyddedau safon diwydiant 'oddi ar y silff', sut i fanteisio arnyn nhw a phryd mae hi'n briodol i'w defnyddio nhw
  7. pryd fydd angen caniatâd i ddefnyddio neu fanteisio ar ddeunydd wedi'i greu gan eraill
  8. y cyfyngiadau cyfreithiol gyda deunydd wedi'i greu gan eraill cyn bod angen caniatâd arnoch chi
  9. sut i adnabod a chysylltu gyda pherchnogion hawliau eiddo deallusol
  10. goblygiadau peidio â derbyn caniatâd i ddefnyddio eiddo deallusol pobl eraill cyn cychwyn ar y gwaith
  11. y gwahaniaethau allweddol rhwng deddf eiddo deallusol Prydain a deddfau gwledydd neu ranbarthau eraill
  12. yr adnoddau arbenigol a ffynonellau arbenigedd i gynorthwyo gyda mynnu hawliau eiddo deallusol
  13. y dewisiadau sydd ar gael i wrthweithio neu unioni torri hawliau eiddo deallusol
  14. y ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am y farchnad er mwyn cyfrifo gwerth hawliau eiddo deallusol yn ymwneud â chaffael, storio a defnyddio data
  15. gwahanol gydrannau cynnyrch unigol a allai feddu ar hawliau cysylltiedig ac unigol
  16. datblygiadau parhaus yn y maes rheoli hawliau digidol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM28

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Rheolwyr Cynhyrchu, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Galwedigaethau Gweinyddol ac Ysgrifenyddol, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Masnachau Cerbydau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyfryngau rhyngweithiol; gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; immersive; realiti cymysg; realiti estynedig; eiddo deallusol; diogelu; caniatâd; hawlfraint; dosbarthu; breintlythyrau; nodau masnach