Casglu, dadansoddi a defnyddio data i lywio gwelliannau i gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM33
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chasglu, rheoli a dadansoddi data a'i ddefnyddio i lywio gwelliannau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn fod wedi ichi eu rhyddhau i'r farchnad, yn ystod dolen adborth barhaus neu'n ystod datblygiad ymlaen llaw.  

Gallai'r dadansoddiadau data a'r gwelliannau ymwneud â phenderfyniadau dylunio, busnes neu farchnata ar gyfer unrhyw fath o gêm neu brosiect cyfryngau rhyngweithiol.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n gwerthuso ac yn gwella gemau neu gynnyrch  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod pa fetrigau sy'n ofynnol er mwyn llywio penderfyniadau
  2. penderfynu pa ddata sydd ei angen arnoch, a sut i'w gaffael, er mwyn darparu'r metrigau gofynnol 
  3. sicrhau y caiff y systemau eu cyflunio er mwyn caffael y data gofynnol
  4. pennu'r polisïau ar gyfer rheoli'r data rydych chi wedi'i gasglu sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol
  5. pennu sut i gyflwyno'r data rydych chi wedi'i gasglu fel bod modd ichi ac eraill ei ddehongli
  6. rheoli dangosfyrddau neu systemau eraill er mwyn caffael y safbwyntiau gofynnol o'r data  
  7. dadansoddi'r data rydych chi wedi'i gasglu i lunio'r metrigau
  8. dehongli'r data o ran cyd-destun y cynnyrch neu'r gwasanaeth rydych chi'n ymwneud gydag o, er mwyn echdynnu'r ystyr
  9. penderfynu pa weithrediadau y gallwch chi neu y dylech chi eu cyflawni ar sail eich dadansoddiad o'r data
  10. defnyddio'r data rydych chi wedi'i gasglu, a'ch dadansoddiad o'r data, i ddadlau o blaid neu yn erbyn gweithrediad arfaethedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cyd-destun rydych chi'n ymwneud ag o a'r diben y mae angen dadansoddi data ar ei gyfer 
  2. y cyd-destun, y cynnyrch neu'r gwasanaeth yr ydych chi'n casglu data yn ei gylch
  3. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau
  4. sut y gellir defnyddio data i lywio newidiadau i'r dyluniad, cynnwys a gosodiad cynnwys, strategaethau prisio a hysbysebu, mordwyaeth a rhyngwyneb defnyddiwr
  5. sut gellir defnyddio dolen adborth parhaus i lywio datblygiadau a gwelliannau mewn gemau neu gynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol yn barhaus
  6. sut i addasu'r cynnwys, y cynnyrch neu'r gwasanaeth neu ei god i alluogi caffael data
  7. y systemau gaiff eu defnyddio i gasglu a storio data a sut i'w gweithredu
  8. defnyddiau a chyfyngiadau'r metrigau rydych yn eu casglu a beth allan nhw ac na allan nhw eu datgan  
  9. mathemateg sylfaenol, technegau dadansoddi ystadegol a'r economeg sy'n berthnasol i'ch rôl
  10. y technegau dyrannu cynulleidfaoedd a dadansoddi
  11. y technegau ar gyfer casglu data arbrofol gan gynnwys A/B neu brofi aml-amrywiad
  12. sut i ddefnyddio taenlenni ar gyfer storio ac astudio data
  13. sut i ymholi cronfa ddata gan gynnwys defnyddio Iaith Ymholi Strwythuredig
  14. ffyrdd y gallwch chi ddarlunio a chyflwyno data
  15. pryd mae hi'n briodol i osod systemau eich hunain a phryd i gyfathrebu gydag arbenigwyr i wneud hynny
  16. y gofynion cyfundrefnol a chyfreithiol yn ymwneud â chaffael, storio a defnyddio data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM27

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; data; busnes; cynnyrch; gwasanaeth; cynnwys; prisio;