Cynnal a chadw gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM32
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro ymarferoldeb, datrys problemau a gwneud gwaith cynnal a chadw parhaus ar gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol unwaith y byddan nhw wedi'u lansio.

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n cynnal a chadw gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol unwaith y byddan nhw wedi'u lansio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​monitro ymarferoldeb gemau neu gynnyrch a gwasanaethau cyfryngau rhyngweithiol o gymharu gyda manylebau'r prosiect ar adegau priodol
  2. defnyddio data priodol a dibynadwy i fonitro ymarferoldeb y gemau neu'r cynnyrch cyfryngau rhyngweithiol
  3. cynnal dadansoddiad manwl gywir o naws a graddau'r problemau o ran ymarferoldeb
  4. gweithredu ar unwaith er mwyn ymateb i a dadansoddi problemau
  5. gwerthuso'r holl ddatrysiadau realistig i ddatrys problemau gan adnabod y datrysiad mwyaf effeithiol
  6. trwsio problemau y mae modd ichi eu trwsio
  7. cysylltu gydag arbenigwyr technegol perthnasol pan nad oes modd ichi drwsio'r problemau
  8. adnabod pan na fyddai'r cyfarpar a'r meddalwedd yn bodloni gofynion y gemau neu'r cyfryngau rhyngweithiol bellach
  9. adnabod unrhyw ddiweddariadau a allai ymdrin â'r problemau
  10. adnabod cydnawsedd y meddalwedd ac unrhyw ganlyniadau eraill yn sgil diweddaru gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol ac unrhyw fan arall yn y system
  11. cyflawni diweddariadau a gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio ar adegau sy'n amharu cyn lleied â phosib ar y defnyddwyr
  12. cyflawni'r diweddariadau gan gydymffurfio gyda chyfarwyddiadau'r diweddariad
  13. cynnig amcan realistig o'r hyd y byddai'r cynnyrch yn segur a rhoi rhybudd ar unwaith os byddai'r broses yn debygol o  gymryd mwy o amser
  14. gwirio bod y gwaith cynnal a chadw a datrys problemau'n gweithio fel y disgwyl
  15. hysbysu'r holl gydweithwyr perthnasol o'r newidiadau a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yn wahanol o ganlyniad i'r diweddariadau
  16. cofnodi ac adrodd data am y gwelliannau neu'r newidiadau i gylch gwaith a ffurf y gemau neu'r prosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn unol â'r systemau cyfundrefnol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut mae'r cyfarpar a'r meddalwedd ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol yn gweithio, ei wendidau a'r gwallau cyffredin a'r ffyrdd i'w datrys nhw
  2. sut i ddefnyddio ieithoedd sgriptio a rhaglennu i drwsio gwallau'n ymwneud ag ymarferoldeb
  3. sut i gyfathrebu'n effeithiol a chydweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau
  4. sut i gysylltu gydag arbenigwyr technegol
  5. sut i adnabod buddion uwchraddio neu atgyweirio a gwerthuso'r costau a'r buddion a pham ei bod hi'n bwysig gwirio gwybodaeth y gwneuthurwyr ar effaith uwchraddio ac atgyweirio
  6. y broses ynghlwm â derbyn cymeradwyaeth am uwchraddio neu atgyweirio
  7. sut i wirio ymarferoldeb wedi gwaith cynnal a chadw a datrys problemau a hyd y broses
  8. pryd i wirio gwaith cynnal a chadw all-lein cyn ei ryddhau i'r amgylchedd byw
  9. lle i ganfod mwy am ddatblygiadau a chydnawsedd o ran meddalwedd a'r cyfarpar
  10. technolegau cyfredol sydd ar gael a'u galluoedd
  11. sut byddai'r gyllideb a'r ffactorau technegol a rhesymegol yn effeithio ar y datrysiadau
  12. pwy ddylech chi eu hysbysu am gyfnodau segur a newidiadau
  13. ffactorau iechyd a diogelwch yr holl gyfarpar
  14. y polisi cyfundrefnol yn ymwneud â gwelliannau a newidiadau i  gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM32

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; cynnyrch; prototeip; system wybodaeth; system ddogfennaeth; system weinyddol;