Cyfarwyddo defnyddwyr i brofi gemau ac allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM26
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a chynnal profion defnyddwyr yn ymwneud â gemau neu allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn debygol o fod yn broses ailadroddol yn ystod y broses datblygu.

Gallai'r safon hon fod yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr yn ymwneud â gemau neu brosiectau  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. trefnu amgylchedd priodol er mwyn cynnal profion defnyddwyr
  2. gofyn am eglurhad ynghylch y gofynion a'r cyfarwyddiadau gan y bobl berthnasol pan fo'n ofynnol
  3. recriwtio unigolion i brofi yn unol â'r manylebau profi pan fo'n ofynnol
  4. trefnu amgylcheddau profi yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir
  5. sicrhau bod y cyfarpar a'r deunyddiau priodol, ar gyfer cofnodi data profi, ar gael ac yn gweithio'n ddigonol
  6. rhoi cyfarwyddiadau i unigolion sy'n profi, yn unol â'r sgriptiau, y cynlluniau neu'r cyfarwyddiadau a ddarperir, cyn, yn ystod neu ar ôl y profion defnyddwyr
  7. sicrhau bod yr unigolion sy'n profi yn deall ac yn cwblhau eu tasgau yn unol â'r manylebau profi
  8. pennu ffyrdd o leddfu unrhyw ffactorau sy'n codi cyn neu'n ystod y profion defnyddwyr ac a allai effeithio ar y canlyniadau
  9. cofnodi canlyniadau'r profion yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gaffael gwybodaeth am ymarferoldeb a nodweddion gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol
  2. sut i gaffael gwybodaeth am brofion defnyddwyr gan gynnwys y diben, yr amcanion, y dulliau, y manylebau, y cyfarwyddiadau a'r dulliau cofnodi
  3. materion moeseg ynghlwm â phrofion defnyddwyr gan gynnwys preifatrwydd, cyfrinachedd, amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
  4. sut a phwy ddylech chi eu holi am y gofynion neu godi materion mewn ymateb i'r cyfarwyddiadau gyda nhw
  5. sut ac o le y dylech chi recriwtio unigolion i gynnal profion
  6. sut i ddefnyddio'r labordy profion neu drefnu amgylchedd profi yn unol â'r cyfarwyddiadau a ddarperir
  7. y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n angenrheidiol er mwyn cofnodi data'r profion gan gynnwys caledwedd, meddalwedd, holiaduron, ffurflenni, pennau ysgrifennu a phensiliau
  8. pa ffactorau allai effeithio ar ganlyniadau'r profion gan gynnwys y cyfarpar, yr amgylchedd, eglurder cyfarwyddiadau'r dasg, cwestiynau arweiniol ac ymwybyddiaeth o rywun yn eich arsylwi
  9. sut i ddilyn sgriptiau profi neu gynlluniau cyfweliadau
  10. sut i ddilyn gweithdrefnau profi penodol ar gyfer trefnu, cyfarwyddo'r defnyddwyr, yn ystod ac wedi cwblhau'r profion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM25

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; defnyddiwr; profi; trefnu; cynnal; dylunio; diben;