Llunio a gwerthuso profion defnyddwyr ar gyfer y gemau â’r allbynnau prosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM25
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â llunio profion i ddefnyddwyr a dadansoddi, gwerthuso a chofnodi'r data yn sgil y profion hynny. Mae'n debyg y byddai hyn yn broses ailadroddus yn ystod y cam datblygu.

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â phrofion defnyddwyr ar gyfer gemau neu brosiectau  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​caffael gwybodaeth gyfredol am y prosiect sy'n ofynnol ar gyfer y profion i ddefnyddwyr
  2. cyflawni dadansoddiad trylwyr am wybodaeth y prosiect er mwyn adnabod pa agweddau o'r prosiectau sydd angen eu profi
  3. amlinellu'r meini prawf asesu a fyddai'n bodloni gofynion y prosiect
  4. dewis dulliau, tasgau a gweithgareddau profi a allai gynhyrchu data dilys ac sy'n bodloni paramedrau'r prosiect
  5. penderfynu sut fyddwch chi'n casglu data'r profion a dylunio adnoddau casglu data priodol
  6. llunio ffyrdd o liniaru ffactorau a allai effeithio ar ganlyniadau'r profion
  7. amlinellu samplau defnyddiwr terfynol sy'n cynrychioli'r cynulleidfaoedd targed ac a fyddai'n cynnig data profi dilys a digonol
  8. dewis a recriwtio arsylwyr neu hwyluswyr profi priodol i fodloni gofynion y profion
  9. paratoi cyfarwyddiadau eglur gyda'r wybodaeth berthnasol ar gyfer yr holl bobl sydd ynghlwm
  10. coladu canlyniadau'r profion
  11. dadansoddi a gwerthuso canlyniadau'r profion gan gymharu gyda'r meini prawf asesu i adnabod materion a phroblemau
  12. pennu difrifoldeb materion a phroblemau, pa mor rhwydd ydy hi i'w trwsio a'u heffaith ar brosiectau
  13. cofnodi eich canfyddiadau ar ffurf briodol i'w ddosbarthu gyda'r cydweithwyr perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr ystod o ddata y gellir ei brofi gan gynnwys defnyddioldeb, ansawdd, addasrwydd ar gyfer diben, dyluniad cyffredinol, integreiddiad elfennau dylunio
  2. sut i gaffael gwybodaeth am brosiectau a'r paramedrau gan gynnwys amcanion dylunio, gofynion y cleientiaid, y cyfyngiadau dylunio, manylebau gweithredol, ymarferoldeb, nodweddion a'r gynulleidfa targed
  3. yr egwyddorion dylunio rhyngweithio a'r materion yn ymwneud â defnyddioldeb a hygyrchedd gan gynnwys animeiddiad amser real
  4. sut i gaffael a dadansoddi gwybodaeth am y prosiectau er mwyn adnabod nodweddion, gofynion, disgwyliadau, tasgau a nodau'r defnyddiwr terfynol
  5. y materion moesegol yn ymwneud â'r profion defnyddwyr gan gynnwys preifatrwydd, cyfrinachedd, amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
  6. nodweddion, buddion ac anfanteision technegau technoleg isel ar gyfer cynnal profion defnyddioldeb gan gynnwys holiaduron, cyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon ac arsylwi defnyddwyr
  7. sut i baratoi sgriptiau prawf, cwestiynau ar gyfer cyfweliadau a ffurflenni'r arolygon
  8. nodweddion, buddion ac anfanteision technegau awtomataidd uwch-dechnoleg ar gyfer cynnal profion defnyddioldeb gan gynnwys olrhain y llygaid, cofnodion gweinyddion, dadansoddeg a phrosesau eraill wedi'u sgriptio
  9. rôl arsylwyr a hwyluswyr y profion a phryd mae hi'n briodol ichi eu defnyddio
  10. y wybodaeth ofynnol ar gyfer arsylwyr a hwyluswyr y profion gan gynnwys amcanion y profion, meini prawf asesu a'u rôl ynghlwm â'r broses a pham ei fod yn bwysig ichi eu cyfarwyddo nhw
  11. sut i lunio cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddwyr terfynol sy'n cynnwys gwybodaeth ddigonol iddyn nhw allu cynnal profion heb ddylanwadu ar y canlyniadau'n ddiangen
  12. pa ffactorau allai effeithio ar ganlyniadau'r profion gan gynnwys y cyfarpar, yr amgylchedd, eglurder cyfarwyddiadau'r dasg, cwestiynau arweiniol neu ymwybyddiaeth o gael eu harsylwi 
  13. technegau coladu, dadansoddi a gwerthuso ar gyfer data ansoddol a mesurol
  14. ffurfiau'r cofnodion am y prosiect a phwy sydd angen eu derbyn
  15. sut i ysgrifennu adroddiad sydd wedi'i ymchwilio'n dda ac wedi'i eirio'n eglur

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM24

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; llunio; gwerthuso; cofnodi; defnyddiwr; profi; dylunio;