Ysgrifennu a golygu testun ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM19
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag ysgrifennu a golygu deunydd testun ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Mae hyn yn ymwneud â thestun y byddai'r defnyddwyr yn ei weld, yn hytrach na'r naratif sylfaenol. Gallai amrywio o fod yn gyfarwyddiadau byr i'r defnyddiwr, awgrymiadau neu negeseuon rhyngwyneb i dudalennau gwe cyflawn. Gallai ymwneud ag ymateb i gyfarwyddyd manwl, cyfarwyddyd bras neu lunio syniad gwreiddiol ar gyfer gêm neu brosiect cyfryngau rhyngweithiol.

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu neu'n golygu testun ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​sicrhau bod cynnwys ac arddull y deunydd testun yn unol â gofynion y prosiect
  2. ysgrifennu gan ddefnyddio arddull sy'n addas i'r gynulleidfa targed, diben y cyfathrebu a'r cyfrwng cyflawni
  3. cynnal arddull gyson yn y testunau a rhwng testunau cysylltiedig
  4. defnyddio'r gramadeg cywir, atalnodi priodol a'r sillafiadau cywir ar gyfer yr iaith rydych chi'n ei defnyddio
  5. strwythuro cynnwys testun fel ei fod yn rhwydd i'w ddarllen a'i ddefnyddio
  6. strwythuro cynnwys testun mewn ffordd briodol ar gyfer y cyfrwng (cyfryngau) cyflawni
  7. cydymffurfio gyda'r arferion ysgrifennu, canllawiau arddull a'r polisïau perthnasol
  8. llunio geiriadau neu ddisgrifiadau priodol i gyd-fynd gydag unrhyw asedau rydych chi'n eu defnyddio
  9. cadw rheolaeth ar gyfeiriad ac ansawdd cynnwys testun
  10. gofyn am gyngor gan y bobl briodol ynghylch cywirdeb, cyfreithlondeb, defnyddioldeb ac addasrwydd i ddiben y testun
  11. cynnig geiriad eglur, cyson a hygyrch ar gyfer unrhyw hyperddolenni ac amlinellu targedau dolenni'n eglur
  12. amlinellu'r metaddata priodol pan fo'n ofynnol
  13. prawfddarllen eich testun i wirio am unrhyw wallau sillafu, gramadegol, teipograffyddol neu wallau eraill
  14. gwirio bod y ffeithiau a'r ffigyrau, sydd wedi'u dyfynnu, yn gywir
  15. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chynnwys y testun


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i egluro diben y testun a'i gynulleidfa targed
  2. yr egwyddorion gramadeg, atalnodi a sillafu ar gyfer yr iaith rydych chi'n ei defnyddio a'r adnoddau a'r dulliau ar gyfer eu gwirio
  3. y gwahanol arddulliau ysgrifennu a sut mae'r rhain yn effeithio ar wahanol gynulleidfaoedd
  4. effaith amrywioldeb, cynhwysiant, hygyrchedd, moeseg, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad ar brosiectau a sut i lunio testun sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa targed ac sy'n rhwydd iddyn nhw fanteisio arno
  5. effaith animeiddiad amser real ar ofynion y testun
  6. y problemau a allai godi yn sgil lleoleiddio a rhyngwladoli cynnwys ar y gwahanol ddiwylliannau sydd ynghlwm
  7. y cyfyngiadau, y posibiliadau a'r cyfleoedd perthnasol a gynigir gan y cyfrwng neu lwyfan targed ar gyfer cyfathrebu gyda thestun
  8. sut i wirio dibynadwyedd y ffynonellau gwybodaeth ac a ydyn nhw'n gyfredol
  9. pryd a phwy ddylech chi ofyn iddyn nhw am gyngor ar gywirdeb, cyfreithlondeb, defnyddioldeb ac addasrwydd i ddiben y testun
  10. perthnasedd meta data ac unrhyw gynllun meta data neu system dosbarthu y dylech chi eu defnyddio ar y cyd â'r deunydd rydych chi'n ei gynhyrchu gan gynnwys geiriau allweddol a disgrifiadau
  11. sut i ysgrifennu testun sy'n ystyried technegau optimeiddio peiriannau chwilio gan barhau i fod yn ddeniadol ac yn ddarllenadwy i bobl
  12. sut i ysgrifennu testun ar gyfer cyfrwng aflinol
  13. unrhyw arferion perthnasol, tôn llais, canllawiau arddulliau neu bolisïau mae angen ichi gydymffurfio gyda nhw
  14. y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud ag eiddo deallusol, hawlfraint, enllib ac anweddustra
  15. materion defnyddioldeb a'r safonau a'r canllawiau hygyrchedd perthnasol
  16. unrhyw gyfyngiadau neu ystyriaethau sy'n codi yn sgil defnyddio system rheoli cynnwys ar-lein neu gronfa ddata cynnwys

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM10

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; ysgrifennu; golygu; testun; cyfarwyddiadau defnyddiwr;