Caffael asedau i’w defnyddio mewn gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM13
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chaffael asedau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol. Gallai hyn ymwneud â chaffael asedau presennol neu gomisiynu rhai newydd. Mae'n ymwneud a derbyn unrhyw ganiatâd gofynnol i'w defnyddio a sicrhau bod yr asedau'n bodloni'r gemau neu'r prosiectau cyfryngau rhyngweithiol.  

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli asedau ar gyfer gemau neu brosiectau  cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod y mathau o asedau angenrheidiol ar gyfer y prosiectau
  2. cynnal ymchwil i adnabod y ffynonellau priodol a lleoliadau'r asedau
  3. cyfathrebu gyda'r bobl briodol mewn ffordd adeiladol er mwyn caffael asedau cyfredol neu greu rhai newydd
  4. caffael yr asedau gofynnol ac unrhyw ganiatâd angenrheidiol i'w defnyddio
  5. comisiynu unrhyw waith gwreiddiol gofynnol gan arbenigwyr yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
  6. caffael asedau sy'n bodloni'r ffurf a'r maint gofynnol ynghyd ag unrhyw briodoleddau penodol eraill
  7. caffael asedau yn unol â chyllidebau, amserlenni a llinellau amser y prosiect
  8. trefnu'r asedau rydych chi'n eu caffael gan ddefnyddio arferion ffeilio ac enwi priodol er mwyn i eraill allu dod o hyd iddyn nhw'n rhwydd
  9. cynnal cofnodion manwl gywir o'r wybodaeth berthnasol am yr asedau rydych chi'n eu caffael

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddadansoddi gwybodaeth y prosiect i adnabod yr asedau y mae angen ichi eu caffael, pryd mae eu hangen nhw ac unrhyw baramedrau a chyfyngiadau gan gynnwys llwyfannau targed a'u galluoedd ar gyfer cyflawni asedau

  2. defnydd terfynol arfaethedig yr asedau ynghyd ag unrhyw ofynion gan gynnwys maint materol, eglurdeb, dyfnder lliw, cyfraddau samplo a chyfraddau'r fframiau

  3. y costau ynghlwm â'r gwahanol fathau o asedau a lle i ganfod gwybodaeth am gyllidebau'r prosiectau
  4. ffynonellau a lleoliadau'r asedau a sut i fanteisio arnyn nhw gan gynnwys llyfrgelloedd delweddau stoc ac archifau fideo
  5. pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw i gaffael asedau gan gynnwys rheolwyr hawliau eiddo deallusol, dylunwyr, datblygwyr, cynhyrchwyr a rheolwyr prosiect
  6. sut i gomisiynu asedau gwreiddiol gan arbenigwyr mewnol ac allanol a phryd mae'n briodol ichi wneud hynny
  7. pryd byddai angen caniatâd hawliau i ddefnyddio asedau a sut i dderbyn y caniatâd
  8. arferion enwi, safonau, canllawiau, manylebau, systemau rheoli fersiwn, piblinellau asedau a'r ffurfiau ffeil perthnasol
  9. gofynion a disgwyliadau aelodau eraill o'r tîm a fyddai'n defnyddio'r asedau
  10. y manteision a'r anfanteision ynghlwm â defnyddio cynnwys wedi'i greu gan y defnyddiwr
  11. y datblygiadau cyfredol o ran rheoli hawliau digidol
  12. y wybodaeth i'w gofnodi am yr asedau rydych chi wedi'u caffael gan gynnwys eu ffynhonnell, perchnogaeth, unrhyw gyfyngiadau o ran eu defnydd, eu lleoliad ac enwau ffeiliau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIM11

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; ased; cynhyrchu; caffael; cyfathrebu; eiddo deallusol;